Gwarwm tanc ...
- cristnogaeth21
- May 25
- 3 min read
Wythdeg o flynyddoedd yn ôl – fwy neu lai – roedd fy nhad, crwtyn deuddeg oed, yn Ysbyty ‘Swansea General’ yn cael ei donsils mas. Doedd yr amseru, yn amlwg, ddim yn dda. O’i gwmpas roedd y ddinas yn cael ei bomio i ebargofiant. Rhywbryd yn y nos, fe symudwyd ei wely i ganol y ward a chafodd sosban i roi ar ei ben. Er i fy mamgu y bore trannoeth gerdded lan i’r groesffordd a chael y newydd ‘fod yr hospital yn fflat’, fe ddaeth fy nhad allan ohoni mewn un darn,ac yn ddi-donsil. Parodd geirie Waldo ‘Uwch yr eira, wybren ros, Lle mae Abertawe’n fflam’ yn gofnod byw o’i brofiad. Wedi’r fath ddistryw, roedd hi’n amhosib dychmygu amser lle byddai Ewrop yn dyheu eto am heddwch.
Mae gan y Gymraeg – a’r iaith Swedeg hefyd – ddau air am heddwch. Heddwch, sef absenoldeb trais, a heddwch mewnol , sef tangnefedd. Fel cyw Anglican, mae’r foment lle’r ydym yn rhannu ‘y tangnefedd’ ymhlith ein gilydd yn foment fawr, yn wir yn uchafbwynt.
Yn ddiweddar, bum ar wylie i ynys Menorca, ac mewn gwasanaeth eglwysig yno oedd yn hollol ddiarth mewn iaith a thraddodiad, fe’m trawyd o’r newydd gan rym y foment hon. Dyna oedd y foment lle’r oeddwn i yn medru rhannu â dieithryn, drwy afael yn ei law, edrych i’w lygaid a dweud yn fy iaith fy hunan,‘Tangnefedd’. Roeddwn i, yn y foment honno, yn un â hwy.
Mae Efengylau Llandeilo yn lyfr gwerthfawr ysgrifennwyd rhywbryd yn yr wythfed ganrif ac sydd bellach yng Nghadeirlan Lichfield (os oes awydd arnoch chi wneud ‘raid’ ar y gadeirlan a’m helpu i’w dwyn yn ôl, cysylltwch asap). Roedd y llyfr yn cael ei ddefnyddio, nid yn unig mewn gwasanaethau, ond i dyngu llw a gwneud addewidion, ac fel y Lindisfarne gospels, mae’r efengylau yn llawn darluniau coeth ac wedi eu cyflwyno yn yr iaith Ladin.
Ond ar ymyl un dudalen y mae rhywbeth arbennig. Yno wedi ei sgriblo mae cyfamod rhwng dau ffermwr, rhyw fath o ‘deal’ os mynnwch chi, wedi ei hysgrifennu yn y Gymraeg – y Gymraeg ysgrifenedig cynharaf y gwyddom amdano – yn sôn am addewid o dir fel arwydd o heddwch.
Wedi eu sgriblo yn y marjin mae dau air , 'Gwarwm tanc’. Gwarwm yn golygu ‘gwnawn’. Tanc - tangnefedd. Gwnawn dangnefedd. Dy’n ni ddim yn gwybod os bu i’r bwriad hwn ddwyn ffrwyth ym mywydau y ddau ddyn yma o Ddyffryn Tywi. Wyddon ni ddim os oedden nhw yn deall digon o Ladin i wybod mai oddi mewn i dudalennau y llyfr gwerthfawr, ac nid mewn ysgrifen ar y marjin, y canfyddir y gwir dangnefedd yr ydym bob un yn ei ddeisyfu.
Wrth i Iesu adael y byd hwn, dywedodd, ‘Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd fy hun’. Mewn cyfnod lle mae’r byd yn ymrannu, lle mae eithafiaeth a ffasgiaeth yn codi ei ben unwaith eto, lle mae cariad at wlad -cenedlaetholdeb - yn fwy na chariad at Dduw, sut y gall y ‘tangnefedd’ hwn dreiddio i’r drafodaeth?
Mae wedi bod yn wythnos weddi yma. A ninnau yn troi ein golygon o’r Pasg at y Dyrchafael, efallai ei bod yn bryd i wleidyddion, fel ninnau, roi’r gorau i ‘dincran’ ar ymyl y ddalen ac ymroi yn weddigar at gyflawniad y Stori Fwy.
Rhian Morgan
Comentarios