top of page

Gwae fi? I'r gad!

‘Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng a Duw ar drai ar orwel pell ...’


Gwae fi!


Mae’n hawdd iawn digalonni’r dyddiau hyn, yn dydy?


Dydy rhyfel byth yn peidio, ond efallai bod rhyfel agos yn bwrw’i gysgod yn drymach? Mae’r rhyfel hwnnw a’i oblygiadau yn ddychrynllyd ynddo’i hun. Mae o’n cael ei yrru gan drachwant am ynni ac am fwynau prin i yrru batris ein ffonau ni a throsglwyddo’n data ni’n gyflym i bedwar ban byd. Mae hynny'n ei hun yn fygythiad pellach i sefyllfa fregus ein daear ni, ond mae o hefyd wedi gorfodi gwledydd Ewrop i anghofio'r targedau digon amwys oedd wedi eu gosod i droi'r llanw ar ‘ddiwedd y byd’, a throi’n ôl at losgi glo. Ac ar lefel gymdeithasol mae hyn oll yn gyrru carfanau helaeth o’r wlad i bryder economaidd ac i dlodi affwysol fydd yn bygwth bywydau dros fisoedd hir a thywyll y gaeaf.


Gwae fi! Gwae ni!


A thra mae hyn yn digwydd rydyn ni’n cael ei harwain at bridd llac y dibyn gan griw cibddall, anneallus, dienaid, anwaraidd, diegwyddor sy wedi meddwi ar rym heb y crebwyll, y cydwybod na’r awydd i sylweddoli’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda hynny.


Chwedl Gwenallt, ‘Mae’n llong yn tin-droi yn y niwl, a’r capten a’r criw yn feddw.’


Ond trowch i’r tudalen nesaf yn Ysgubau’r Awen. A oes gwell anthem i’n hoes ni na’r ‘Gristionogaeth’? Mae’r rhethreg sy’n gyrru’r gerdd yn sicr yn gydnaws â phenawdau newyddion ein dyddiau ni.


‘Gwân dy holl epil â’r gynnau, â’r bom maluria di’r byd,

Poera dân o bob peiriant, a fflam a phlwm o bob fflyd,

Diwreiddia di dy wareiddiad ...’


Ond wedyn wn i ddim a ydy uchafbwynt tawel y gerdd fawr yma yn taro deuddeg gyda fi chwaith.


‘... a phan fo’r ddaear fel braenar briw

Down â haul o’r byd anweledig, down â’r gwanwyn o ddwylo Duw.’


Tra bod rhywun yn gwerthfawrogi’r ergyd ddiwinyddol, onid ydy’n Cristnogaeth ni hefyd yn galw arnon ni i weithredu yn y presennol?


Wrth gwrs, mi rydan ni. Mae yna enghreifftiau lu o ddaioni adweithiol ledled y wlad. Mae’r eglwysi yn asgwrn cefn i fanciau bwyd, yn cynnig llety a chysur a chynhesrwydd mewn byd oer a digroeso.


Ond eto, yn bersonol, mae rhywun yn teimlo mai geiriau o ran arall o’r gerdd sy’n disgrifio rhywun orau, ‘llesg feidrolyn [sic.] a llwfr’.


Llesg a llwfr. Pam nad ydw i allan ar y strydoedd? Pam nad ydyn ni’n troi byrddau’r cyfnewidwyr arian? Pam mai dweud ydw i ac nid gwneud?


Pan mae miloedd heb ddigon i fyw mewn byd sy’n llawn cyfoeth, pam nad ydw i’n gweiddi ‘digon yw digon’? Pam nad ydw i’n gwneud rhywbeth? Be sydd angen digwydd i droi’r llanw yma?


Dwi’n bodloni ar drydar ‘Gwae fi!’ pan fo angen mwy na thrydariad, bod angen sgrech.


Boed i esiampl Crist ein deffro ni o’n diymadferthedd a throi’n capeli ni nid yn unig yn gorlannau ond hefyd yn farics yn y frwydr.


Gwae ni!


Digon yw digon! I’r gad!


bottom of page