top of page

Grymoedd DARC

O gwmpas Tyddewi: 

 

Heddiw

mae sawr marwolaeth yn y torchau mwg

sy’n codi’n ffres o Breudeth,

bataliwn o brentisiaid yn ymlusgo’n y gwellt,

fel helgwn yn ffroeni gwaed:

a sgrech hen ryfeloedd erch

yn atsain o drum i draeth.

 

Mae ôl pawen difodiant

yn graith goch ar dir ein sant.

 

Eirwyn George.

 

 

Rhodd Duw i ddyn yw’r greadigaeth ac felly mae Duw wedi rhoi’r cyfrifoldeb arnom i’w amddiffyn.

 

Ond mewn oes o ryfela a thrais cynyddol nid yw’n syndod gweld y mwyafrif helaeth o’n  gwleidyddion, yn genedlaethol ac yn lleol, yn defnyddio ansicrwydd ac ofn y sefyllfa ryngwladol bresennol i wthio militariaeth, gan ddadlau mai trwy wario biliynau’n fwy ar y lluoedd arfog y gall Prydain sicrhau diogelwch i’w dinasyddion.

 

Mae Cymru’n frith o safleoedd militaraidd. Does ond rhaid cerdded llwybr yr arfordir. Yng nghanol yr harddwch, wrth ddilyn y godir, fe welir yr adar angau sy’n hedfan uwchben Aber-porth, neu glywed sŵn y gynnau’n tanio ger Castell Martin. Yng nghanol harddwch y greadigaeth fe welir a chlywir y paratoi ar gyfer y bennod nesaf o ladd a dinistr.

 

Ger Breudeth, Sir Benfro, mae yna ganolfan filitaraidd a fu o bwys i Lynges yr Unol Daleithiau rhwng y 1970au a’r 1990au. Bu yna ymgyrch lwyddiannus yn y 1990au i atal datblygu’r safle fel canolfan clustfeinio militaraidd. Ond, fel rhan o’r cytundeb AUKUS rhwng Unol Daleithiau America, Awstralia a Phrydain mae yna  fwriad o’r newydd i adeiladu tair safle DARC, (Deep Space Advanced Radar Capability) ymhob un o wledydd y gyngrhair militaraidd.

 

Yn ddiweddar daeth i’r amlwg mai’r safle DARC sydd wedi ei ddewis ym Mhrydain yw’r baracs milwrol ym Mreudeth. Bydd 27 radar anferthol yn cael eu gosod ger yr arfordir er mwyn targedu lloerenni yn y gofod. Bydd hyn yn gosod Sir Benfro yng nghanol tensiynau rhyngwladol newydd. Yn ôl Cymdeithas y Cymod: ‘Bydd gan yr arf y gallu i greu dinistr yn y gofod a fydd yn gwahardd mynediad dynoliaeth i’r gofod am ddegawdau.’

 

Ynghyd â’r ddadl ynghylch anfoesoldeb militareiddio mwy o dirlun Cymru mae yna hefyd beryglon i iechyd cymunedau’r fro trwy allbynnau ymbelydrol o’r radar, ynghyd â’r niwed amgylcheddol ac economaidd. Unwaith yn rhagor bydd yn rhaid i ddinasyddion Sir Benfro a thu hwnt ymgyrchu er mwyn atal y ‘graith goch ar dir ein sant.’

 

Mae yna ddeiseb a safle we wedi eu creu ac mae’r ymgyrch yn casglu momentwm. Os am gadw y ‘ffynnon rhag y baw’, beth am fwrw golwg ar y safle we isod a’i rhannu ar wefannau cymdeithasol ymhlith aelodau eich man addoli, eich ffrindiau a’ch cydnabod.

 

Os am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch a’r ddeiseb ewch i’r safle isod:

 


Hedd Ladd-Lewis

Comments


bottom of page