A fuoch chi’n hel pwmpenni eleni i’w troi’n llusernau dychrynllyd? Fuoch chi’n diddanu’r plant neu’r wyrion gyda straeon am ysbrydion ac ysgerbydau? Gobeithio i chi gael hwyl.
Rwy’n llunio hyn o eiriau ar ddiwrnod Calan Gaeaf – neu Ddydd yr Holl Saint, os dymunwch chi. Dyma’r diwrnod, yn hanesyddol, lle anrhydeddwyd cewri crefyddol y gorffennol gan y traddodiad Catholig ac Anglicanaidd. Tuedd Anghydffurfwyr, os fyddan nhw’n nodi’r dydd o gwbl, fyddai dathlu a diolch am gyfraniad pob Cristion i gyfoeth y ffydd drwy’r oesau.
Cysylltir Noswyl Calan Gaeaf (Halloween), wrth gwrs, gyda thraddodiad gwerin sy’n dal bod y llen rhwng y byd hwn a’r ‘arall-fyd’ yn teneuo, gan ganiatáu i eneidiau’r meirw ymweld â ni feidrolion. Mae’n siopau a’n cyfryngau cymdeithasol yn llawn delweddau o wrachod a dewiniaid, corynod ac ystlumod. Codi ofn a chreu arswyd yw’r thema fawr.
Mae’n rhyfedd i mi, mewn oes honedig seciwlar, sut mae’r ŵyl hon wedi llwyddo i gadw’r elfennau ofergoelus a goruwchnaturiol yma o’n llen gwerin ni mor fyw a bywiog. Yn aml iawn, yr union bobl sy’n taflu eu hunain i hwyl yr ŵyl hon yw’r rheini sydd wedi ymwrthod â chrefydd ffurfiol ar y sail nad ydyn nhw’n credu mewn ‘straeon tylwyth teg’!
Yn hanesyddol, gellid olrhain y dathliadau yma yn ôl i’r cyn-oesau a defodau paganaidd ynghylch tro’r tymhorau, wrth gwrs. Tadogir sefydlu’r fersiwn Gristnogol i’r Pab Gregori III a bennodd sefydlu Gŵyl Tridiau’r Meirw yn yr 8fed ganrif, h.y. Noswyl y Meirw, Dydd yr Holl Saint a Dygwyl Eneidiau. Dros y canrifoedd mae gwahanol ddiwylliannau ar draws y byd wedi datblygu traddodiadau gwahanol iawn i nodi a dathlu’r ŵyl. Roedd fy mhrofiad o ddathlu Hallowe’en yn nhalaith Virginia rhai blynyddoedd yn ôl yn dipyn mwy diniwed a chymunedol na’r sbloet masnachol a gawn yng ngwledydd Prydain y dyddiau hyn.
Mae’n bosib y gallasai’r ŵyl fod wedi datblygu’n dra gwahanol, wrth gwrs. Ystyriwch pe byddem wedi mynnu pwysleisio cyfraniad cadarnhaol rhai o gewri’r gorffennol i’n crefydd a’n diwylliant ar 1 Tachwedd. “Canmolwn yn awr ein gwyr [a’n gwragedd] enwog”? Byddai creu mythau am orchestion clodwiw mawrion ein gorffennol yn rhywbeth i’w groesawu, mae’n siŵr. Byddai’n fodd i amlygu rhinweddau, gwerthoedd a moesau dymunol mewn modd creadigol, cymdeithasol a hwyliog.
Wedi’r cwbl, onid dyna a gawn yn ‘hanes’ yr Hebreaid cynnar yn yr Hen Destament, yng ngorchestion rhai o’r Proffwydi ac yn y straeon am wyrthiau Iesu o Nasareth yn yr Efengylau? Os nad ydyn nhw’n ‘wir’, mae yna wirioneddau elfennol ymhlyg mewn chwedl a myth.
Dyna oedd gan yr offeiriad a’r diwinydd John Dominic Crossan dan sylw mae’n siŵr pan ddywedodd hyn:
“Unwaith eto, fy mhwynt yw hyn, ‘dyw hi ddim yn fater bod y bobloedd hynafol yna wedi adrodd straeon llythrennol a’n bod ni heddiw yn ddigon clyfar i’w derbyn yn symbolaidd, ond eu bod nhw wedi adrodd straeon symbolaidd a’n bod ni heddiw yn ddigon twp i’w cymryd yn llythrennol”.
Gobeithiaf y bydd y gaeaf hwn yn un caredig i ni gyd – heb ddim i’n dychryn.
Gareth Ioan
留言