Gofalu am y Cread
- 23 hours ago
- 3 min read
Wel, dyna wythnos gyffrous a thrawsnewidiol yn dilyn canlyniad etholiadau’r Senedd, gyda goblygiadau i rai ymhellach i ffwrdd yn dilyn perfformiadau hanesyddol o wael.
Ond mae yna sefydlogrwydd o ryw fath yma gyda phenodiad Llywydd a Phrif Weinidog newydd. Bellach mae angen pwyllo, ystyried, edrych o’n hamgylch ac arolygu’r sefyllfa sydd ohoni cyn symud ymlaen i weithredu…rhywbeth sy’n dda i ni gyd ei wneud bob hyn a hyn.
Wrth i ni ystyried yr hyn sydd o’n cwmpas yma yng Nghymru… y môr a’r traethau, y mynyddoedd godidog, afonydd a llynnoedd, coedwigoedd a dyffrynnoedd – holl ystod
byd natur a harddwch ein gwlad sy’n llawn adnoddau cyfoethog. Does posib ein bod yn eu cymryd yn ganiataol, oes e? Mae’n amlwg fod hyn yn wir yn gyffredinol hyd yn oed os nad yw’n wir amdanom ni yn bersonol. Wedi’r cyfan, mae adnoddau yn cael eu camddefnyddio, eu distrywio a’u hor-egsbloetio ac mae’r dystiolaeth i’w gweld yn hollol glir gydag afonydd llygredig, sbwriel yn ymddangos yn gynyddol, hanes rhywogaethau adar ac anifeiliaid yn prinhau neu’n diflannu, tymhorau a thywydd yn fwy cyfnewidiol. Fe allen fynd ymlaen!
Felly beth ddylai ein hymateb ni fod, nid yn unig fel dinasyddion ond fel Cristnogion? Ac a ddylai ein hymateb fod yn wahanol am y rheswm hwnnw – sef ein bod yn Gristnogion?
Wedi’r cwbwl, os nad ydym ni yn mynd i warchod a ‘byw yn ysgafn’ ar y blaned a greodd Duw, pwy sy’n mynd i’w wneud?
Un ffordd o weithredu yn bositif ac sy’n agored i gapeli ac eglwysi o bob enwad yw Eco Eglwys A Rocha UK. Mae’n gynllun sy’n helpu eglwysi i gysylltu materion amgylcheddol â’u ffydd a’u cenhadaeth Gristnogol, gyda’r gobaith wedyn o ymateb trwy weithredu’n ymarferol yn yr eglwys, ym mywydau pobl, ac yn y gymuned leol a byd-eang. Ei fwriad yw i gyfarparu eglwysi i weithredu mewn modd dylanwadol, ac â gwir effaith, fel rhan o’u cenhadaeth. Ddoe, roeddem yn dathlu penblwydd y rhaglen yn ddeg oed mewn gwasanaeth arbennig o ddiolchgarwch yn Abertawe, a hyfryd oedd gweld cymaint yno.
Arolwg ar-lein sydd wrth wraidd Eco Eglwys, gyda phum adran yn ymwneud â holl ystod bywyd eglwysig; Addoli ac Addysgu, Adeiladau ac Ynni, Tir a Byd natur, Ymgysylltiad cymunedol a byd-eang, a Ffordd o fyw. Drwy ateb cwestiynau, byddwch yn ennill pwyntiau sy’n mynd tuag at wobr efydd, arian neu aur! Rhai am bethau syml – ydyn ni’n clodfori Duw am y Cread yn rheolaidd yn ein gwasanaethau? Ydyn ni wedi newid y bylbiau golau? Ydyn ni wedi gosod bocs nythu adar tu allan? Ydyn ni wedi newid ein gwin cymundeb i fod yn organig a blodau y capel i fod yn rhai tymhorol a lleol? Ydyn ni’n rhan o sesiwn codi sbwriel leol? A yw’n gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn cynnwys gofal am y Cread?
Mae eraill wrth gwrs, yn fwy o sialens, OND yn aml gyda’r effaith mwyaf. Allwn ni newid ein banc i un fwy moesol? Allwn ni fesur ôl troed carbon ein heglwys? Beth am newid o’n cyflenwr egni i un gwirioneddol ‘gwyrdd’? Ydy’n hadeilad wedi ei insiwleiddio cymaint â phosib? Allwn ni ymwneud ag ymgyrchoedd a chysylltu â’n gwleidyddion (newydd!) ar faterion amgylcheddol?
O fewn yr wythnosau nesaf fe fydd modd i chi lenwi arolwg Eco Eglwys yn Gymraeg ar-lein am y tro cyntaf, a hynny yn dilyn yr adnoddau Cymraeg niferus sydd wedi bod ar gael am flynyddoedd. Gobeithio y bydd yn arwain at fwy o weithgarwch a cheisiadau am wobrau o gapeli Cymraeg eu hiaith, gan i ni ymateb i’r alwad i wneud hyn yn bosib.
Rwy’n edrych ymlaen at eich ymateb fel eglwysi a Christnogion i’r her amgylcheddol hon, sy’n ddyletswydd arnom i weithredu yn ddiffuant yn ei chylch.
Delyth Higgins 17 Mai 2026

Comments