Sut ddaru Trump gael ei ethol eto? Beth sydd yn bod ar Americanwyr? Dau gwestiwn dw’i wedi eu cael droeon yn ddiweddar. A’m hymateb i? Sut ddaru Boris gael ei ethol? A beth am Brexit a Reform? Dydy hynny ddim yn ateb unrhyw gwestiwn efallai, ond mae yn gwneud i ni sylweddoli mai nid problem unigryw i’r UDA yw hyn.
Mae edrych ar hanes yr UDA yn dangos mai bwriad y Founding Fathers oedd sicrhau a chadarnhau hawliau dynion gwyn. Pan arwyddwyd y Cyfansoddiad dim ond 6% o’r boblogaeth oedd â’r hawl i bleidleisio, h.y. dim ond dynion gwyn oedd yn perchen tir oedd yn cael pleidleisio. Yn fuan ar ôl hynny ychwanegwyd dynion busnes (gwyn wrth gwrs) at y rhestr o bobl oedd yn cael pleidleisio.
Ers y dyddiau hynny, yn niwedd y ddeunawfed ganrif, mae ehangu yr hawl i bleidleisio wedi bod yn frwydr. Ac yn dal i fod felly. Dyna un rheswm pam na chafodd Kamala Harris ei dewis. Mae hi yn ddynes ddu. Mae hiliaeth yn fyw iawn yma. Edrychwch ar y ddolen yma i weld mwy o fanylion am hanes democratiaeth yn yr UD.
Wrth wylio newyddion yr asgell dde fe fyddech yn meddwl mai mewnfudwyr, ffoaduriaid, pobl ddu, aelodau o’r gymuned LGBTQI oedd y peryglon mwyaf i’r wlad ac i’r byd. Maen nhw'n creu'r teimlad ein bod ni mewn perygl o golli ein statws a’n pwer yn ein ‘gwlad ni,’ heb gofio bod mwyafrif helaeth o’r boblogaeth yn bobl ddwad hefyd. Drwy hyn roedd y Gweriniaethwyr yn trio tynnu sylw oddi wrth prif broblemau'r wlad, er enghraifft, roedd oddeutu 40% o’r arian a wariwyd ar hysbysebion teledu yn targedu'r gymdeithas Trans. Pam? Er mwyn creu ofn? Ennyn casineb? Gwawdio? Tynnu sylw oddi wrth Gaza neu broblemau personol Trump? ‘Rwyn flin, yn drist, ac yn ofnus.
Oes yna obaith? Mae’n rhaid bod gobaith, a weithiau mae’n rhaid chwilio amdano yn ofalus iawn. Y Dydd Sul ar ôl yr etholiad, thema ein gwasanaeth yn ein capel Presbyteraidd yn Washington DC oedd dathlu y gymdeithas Transgender. Roedd hyn wedi ei drefnu ers misoedd. Mae dau o’n haelodau yn trans, un dros ei hanner cant oed a’r llall tua phymtheg ac roedd nifer o’r gynulleidfa y bore Sul hwnnw wedi ymuno â ni am eu bod yn gwybod bod yma le diogel iddyn nhw.
Roedd pawb yn y gynulleidfa yn credu ein bod i gyd yn gydradd yng ngolwg Duw. Wn i ddim faint o eglwysi yn yr UDA sy’n datgan eu cenhadaeth fel hyn, ond mae yna lawer iawn. Gweler: https://westminsterdc.org/our-vision-and-mission Beth am i ni drefnu sgwrs rhwng capel yng Nghymru a’n capel ni yn Washington?
Yr wythnos yma mae The Poor People’s Campaign, ar drothwy tymor yr Adfent, wedi cael mwy o sylw nag arfer ar y cyfryngau ac mae ei neges yn wers i ni i gyd. Ac os ydych am ddilyn llwybr gobaith yn yr UDA mae darllen am y gwaith a gwrando ar rhai o bregethau Parch William Barber yn ysbrydoliaeth - ac yn sialens i ni i gyd. Gweler: https://edition.cnn.com/2024/11/24/us/reverend-william-barber-democrats-cec/index.html
I mi yn bersonol un o ganlyniadau yr etholiad ydy sylweddoli cymaint oedd fy magwraeth i wedi ei sylfaenu ar werthoedd moesol. Nid gyrfa lwyddiannus, nid gwneud ffortiwn, nid bod yn enwog oedd y nod. Yn hytrach, bod yn groesawgar, cydnabod fod pawb yn gydradd, caru ein cymdogion a llawer mwy. Ond dydy cyfrif ein bendithion yn unig ddim yn ddigon, mae'n rhaid eu rhannu hefyd. Daliwch ati!!
Ann Griffith
1 Rhagfyr 2024
Comments