top of page

Glan-rhyd UTD!

Mae Glan-rhyd UTD yn enw arall ar Ysgol Sul Capel Glan-rhyd, Dinas, Llanwnda ac unrhyw Ysgol Sul arall sydd eisiau ymuno – dyna’r UTD.


Rydan ni weithiau yn meddwl does na ddim pwynt trio cystadlu hefo training rygbi, gwersi nofio a sut mae mynd i Ysgol Sul yn well na gêm Rocket League, Fortnite neu Fifa 23 efo'ch mêts ar Xbox Series S.


Os nad ydach chi’n gwybod be’ ydy rheiny, wel, mi fedrwch siarad drwy’r gêm efo criw o ffrindiau a phawb yn eu cartrefi eu hunain am oriau; a’r gemau yn eich tynnu i bob math o fydoedd graffig sy’n cicio adrenalin yng ngwaed y person mwya’ llipa beth bynnag fo’ch oed chi. Ac os ydach chi’n ffan o FIFA 23 wel be’ well na chwarae gêm bêl-droed fel ‘tasach chi ar y cae ac yn arwr eich hun – pêl-droed 360 o’ch llofft! Cymharwch hynny hefo sêt bren hir galed, peidio symud a siarad, cyn mynd i festri a hanner eich mêts chi ddim yna. Felly, sut mae trio dod ag Ysgol Sul i fyd yr ifanc heddiw? Tydio ddim yn hawdd.


Y cam cyntaf oedd creu ysgol Sul unwaith y mis. Mae ysgol Sul unwaith y mis yn golygu peidio gorfod mynd i rigol wythnosol, yn cadw’r training rygbi yn ei le ac yn do-able. Tydio ddim ots os ydach chi’n colli ambell fis chwaith. Weithiau mae ambell Sul yn Sul ‘Sgwrs ar y Sul’ lle mae pobl ddifyr a llesol yn dod draw i siarad am eu gwaith neu eu gweithgareddau gwirfoddol. A dyna drio meddwl am Sgwrs ar y Sul hefyd ar gyfer oedolion a’r plant fel ei gilydd a dyna pryd gawson ni gychwyn ar Ysgol Sul Glan-rhyd UTD..


Roedd hi’n gyfnod y bwrlwm cyn gêmau Cwpan y Byd. Roedd Dafydd Iwan yn arwr newydd i blant yr Ysgol Sul am resymau amlwg. Felly os oedden ni eisiau gate da i’r Sgwrs ar y Sul roedd holi a fyddai Dafydd Iwan am ddod draw i sgwrsio yn no-brainer, chwedl y plant. Felly, doedd gofyn i’r plant ddod â’u mêts XBOX arferol efo nhw yn gwisgo eu dillad pêl-droed yn ddim trafferth yn y byd. A dyna fu.


Roedd hi’n wych gweld a chlywed plant a’r oedolion yn canu ‘Yma o Hyd’ hefo Dafydd Iwan. Briffiodd Dafydd Iwan y plant am sut iddo ddechrau canu a siarad yn yr Ysgol Sul a chymryd rhan mewn bob math o weithgareddau yn y capel. Cafwyd sgwrs sut oedd Dafydd Iwan yn teimlo wrth ganu ‘Yma o Hyd’ efo’r Wal Goch a beth oedd y sgyrsiau gafodd o gyda Gareth Bale, hanes ieir Joe Allen a ffeithiau difyr iawn eraill am y chwaraewyr! A braf oedd cael croesawu’r criw UTD hefyd sef rhai o Ysgol Sul Capel Horeb o’r pentre agosaf aton ni. Cafodd pawb group photo a selfies, Haribos a sgwash a bathodyn bach Ysgol Sul Glan-rhyd UTD i gofio’r claim to fame efo Dafydd Iwan! Yr after match party oedd diodydd a choffi, bisgedi a theisennau cri!


Yr un pnawn gwobrwywyd enillwyr logo’r Ysgol Sul. Rhoddwyd y bathodyn bach i Dafydd Iwan, wisgo wrth ganu ‘Yma o Hyd’ y tro nesa’ ar y cae. Ac ydy, mae’r plant yn cadw golwg barcud, oherwydd dim ond nhw a fo sydd hefo’r bathodyn ecsliwsif! Yn y diwedd mae Dafydd Iwan a bathodyn bach cystal â’r XBOX !


Profiad mae plant yn eu cofio, profiad o gerdded mewn i gapel a’r profiad hwnnw’n berthnasol ar y pryd iddyn nhw. Efalla mai’r profiad hwnnw’n unig fydd eu cyswllt efo’r capel ond mae o’n brofiad fydd yn eu cysylltu gyda’r capel am byth. Mae hynny’n ddigon.





Kommentare


bottom of page