top of page
Search

George a Nidal

  • Mar 1
  • 3 min read

Ro’n i braidd yn nerfus i gwrdd â'r ddau, pan glywais eu bod yn dod draw i swper. Un peth ydi gwrando ar bobl o Balestina yn annerch, peth gwahanol ydi rhannu bwrdd dros bryd o fwyd.

 

Ond o'r funud y daeth George a Nidal dros garreg y drws, roedden ni'n gwbl gyfforddus yng nghwmni ein gilydd. Dyma'r tro cyntaf iddynt fod yng Nghymru... Sut ardal oedd Dyffryn Nantlle? ...Llechi? ...Sut fath o bethau ydi'r rheini? ...’Dach chi'n siarad Cymraeg? Dyna ddifyr... Ydi reis yn fwyd Cymreig?

 

Wedi dod i ‘nabod ein gilydd, dyma gyd-gerdded draw i'r cyfarfod, ac ro’n i'n dyfalu (ac yn ofni) beth fyddai sgwrs George Rishmawi. Ei frawddeg gyntaf oedd 'Dewch draw i Balestina'. Mae ganddo fusnes twristiaeth, lle anogir ymwelwyr i gerdded llwybrau yn y Llain Orllewinol, a chyfarfod cymaint o bobl leol â phosib. Byddai'r ymwelwyr yn aros yn nhai y bobl leol, yn bwyta'r un bwyd â hwy, ac yn dysgu am eu hiaith a'u diwylliant.

 

“Fydd hi ddim yn beryg yno?”, holodd un o'r gynulleidfa, yn lleisio ofnau’r gweddill ohonom. Palestina fyddai'r lle olaf yn y byd i'r mwyafrif o bobl ddewis fel cyrchfan wyliau. “Yng nghwmni pobl o wledydd eraill, dwi'n teimlo yn saffach yno na phetawn yn cerdded ar fy mhen fy hun”, oedd ateb syml George.

 

A mwya’ sydyn, ro’n i'n teimlo cywilydd, fod y fath sefyllfa yn bosibl. Y bydde llai o siawns i George gael ei saethu yn ei bentref genedigol petai yng nghwmni rhywun gwyn breintiedig o'r Gorllewin. Sut y daeth hi i hyn?

 

Dau frawd o Beit Sahour, ger Bethlehem, yw George a Nidal. Yn Beit Sahour y clywodd y bugeiliaid yr angylion yn ystod y Nadolig cyntaf. Hyd heddiw, mae darn o dir yno a elwir yn 'Maes yr Bugeiliaid.' Yno yr oedd y bugeiliaid yn 'gwylio eu praidd liw nos'. Mae o'n lle cysegredig. Ac eto, mae settlers Israelaidd yn dwyn defaid y bugeiliaid hyn bellach, yn dymchwel eu tai, ac yn eu gyrru o'r tir. Mae'n sefyllfa y dylai'r byd ei hatal mewn rhyw fodd. Siawns nad oes modd gwarchod bugeiliaid Bethlehem?

 

Mae yna hanes i Beit Sahour. Yn ystod yr intifada cyntaf, gwrthododd y pentrefwyr dalu trethi i'r awdurdodau Israelaidd a chawsant eu cosbi. Caewyd y dref am 40 dydd a 40 nos (oes, mae rhywbeth reit Feiblaidd am yr hanes). Ni chai'r bobl adael eu tai, a chaewyd ysgolion a siopau.

 

Yn y diwedd, llwyddodd y Cenhedloedd Undedig i ymyrryd. Cafodd pobl Beit Sahour iawndal. Gyda'r arian hwnnw, sefydlwyd y busnes twristaidd, a rhoddodd hyn arian i'r bobl leol. Hyd yn oed yn ystod yr Intifada, roedd pobl Beit Sahour yn gwadd Israeliaid i'w tai, dan y slogan, 'Gadewch inni dorri bara, nid esgyrn.' Mae pobl yr ardal hon yn enwog am eu croeso a'u caredigrwydd. Meddai George, “Mae caredigrwydd yn iaith y gall y byddar ei clywed, a'r dall ei gweld.”

 

Rhannodd George luniau gwahanol o Balestiniaid efo ni – pobl hapus oedd yn gwenu, oedd efo hanes difyr, bwyd blasus a'r awydd i'w rannu. Dwi am ddal gafael yn y delweddau hyn. Nid dioddefwyr yn unig mohonynt, ni ddylem ddod i arfer efo'r lluniau o bobl druenus mewn pebyll. Dydi'r hyn sydd yn digwydd yn Gaza heddiw ddim yn normal.

 

Mae gan y Palestiniaid hawl i fyw fel chi a fi, a dylem wneud popeth bosib i frwydro yn erbyn awdurdodau'r tywyllwch.

 

 Angharad Tomos

1 Mawrth 2026

 

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page