I’r rheini ohonom sy’n dod o’r traddodiad Cristnogol sy’n gogwyddo yn fwy tuag at yr adain Brotestannaidd, yr ydym yn dueddol i fod ychydig yn ansicr, swil ac ofnus hyd yn oed, o wneud gormod o sôn am Mair, mam Iesu. Wrth gwrs, dros y Nadolig y mae hi’n cael lle blaenllaw iawn ym mhasiantau’r plant, ar gardiau Nadolig ac yn ein carolau plygain. Fe wyddom yn iawn hebddi hi fyddai na ddim Nadolig i ni ddathlu, fyddai na ddim genedigaeth gwaredwr i ni lawenhau ynddi. Ond yn sydyn reit, yn syth ar ôl y Nadolig mae Mair druan yn syrthio yn ôl i gefn ein meddyliau am flwyddyn arall. Soniwn andani adeg y Dioddefaint efallai, yn sefyll yn ymyl y groes, yn dyst i’r bedd gwag. Y Diwygiad Protestannaidd sydd ar fai am hyn.
Ond anghytuno wna diwygwyr mawr yn ystod y Diwygiad Protestannaidd , yn methu cytuno am le Mair. Yn ei esboniad ar y Magnificat, Cân Mair, mae Martin Luther yn sôn am Mair â hoffter a chynhesrwydd mawr, yn
cydnabod ei lle canolog yn nhrefn iachawdwriaeth. Mae agwedd John Calvin i’r gwrthwyneb. Mae’r ychydig a ddywed yn negyddol ac yn nawddoglyd. Er colled i ni agwedd Calfin a ddylanwadodd fwyaf ar Brotestaniaid Prydain.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn arbennig yn ystod yr Adfent eleni, rwyf wedi dod i werthfawrogi Mair nid dim ond fel cymeriad canolog yn stori’r geni , ond fel un sydd yn ei bywyd yn cynrychioli bywyd y Cristion ac ystyr bod yn ddilynwyr i Iesu heddiw. Mair a ddywedodd, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd: bydded i mi yn ôl dy air di”. Mair a gydsyniodd i chwarae ei rhan yng nghynllun Duw, i fod yn rhan o’r ateb yn hytrach nag yn rhan o’r broblem. Ydyn ni’n barod i i fod yn rhan o’r ateb, ateb Duw, i esgor ar fywyd newydd pan fod hynny yn golygu newid mawr i ni, fel y gwnaeth i Mair? Cariodd Mair Iesu yn ei chroth am naw mis, yn cario’r un bach ac yn gwrando’n astud am guriad ei galon, a hithau’n cael ei chysuro a’i hanesmwytho gan ei symudiadau oddi mewn iddi ac yna’n ymdawelu, wrth i’r un bach ynddi dawelu. Daeth Crist i’r byd cyn ei eni yn y stabl ym Methlehem, cyn i eraill ei weld a chlywed ei gri cyntaf. Roedd yno yn bresennol yng nghroth Mair yn anweledig i’r byd, ond yr oedd yn y byd. Onid hynny yw ein profiad ni o’r Iesu yn ein bywydau ni heddiw, yr Iesu sy’n trigo yn ein calonnau, yn anweledig i’r byd ond yn bresennol, ar waith ynom yn cysuro, weithiau yn ein hanesmwytho.
Wrth ddilyn ei llygaid hi, yn syllu lawr i’r crud, neu i fyny wrth iddi sefyll yn ymyl y groes, wrth weld y tristwch yn ei llygaid yn troi’n syndod a dychryn wrth y bedd gwag, fe gawn ein harwain at Iesu, gwrthrych ei chariad a’i ffydd. Gall geiriau Mair fod yn eiriau i ni:
“Fy enaid a fawrha’r Arglwydd,
A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy iachawdwr.”
Dyfrig Lloyd
Commentaires