top of page

Gawsoch chi wyliau braf ?

Gawsoch chi wyliau braf?  Ni? Wel do a naddo! Fe aethon ni i Lydaw gan hedfan o Birmingham a cholli’r cysylltiad i Brest. Roedden ni fod i hedfan nôl ond cafwyd cyflafan Microsoft a chanslo ein hawyren ni. Dyna un enghraifft o’r ffordd y mae systemau digidol yn rheoli  cymaint o bethau yn ein byd.

 

Felly dyma ddal trên am 5.20 y bore  i Baris ac yna dal Eurostar i St Pancras ac adre mewn 14 awr. Pedwar diwrnod i ddod at ein hunain! Mynd i’r Eisteddfod ar y dydd Iau a chael ein boddi… gan law! Ie tipyn o gymysgwch bu’n gwyliau ni.

 

Y trafferth yw ein bod ni, fel mwy a mwy ohonom, yn ymddwyn fel petai’n  rhaid i ni fedru mynd i unman yn ôl ein mympwy. Ac mae cwmnïau awyrennau America yn ceisio rhwystro ymchwil i faint o lygredd y mae awyrennau’n  ei gynhyrchu.

 

Fe wyddom yng Nghymru am broblemau twristiaeth a thai haf. Mae’r holl deithio wedi mynd yn drech na’r dinasoedd. Mae’r  boblogaeth yn ymrannu rhwng y rhai sy’n elwa  wrth fyw mewn mannau braf, a’r rhai sy’n talu’r pris am hynny. Mae Tai Haf a bnb yn gwthio prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol, a’r cyfforddus yn mynnu rhyddid i godi prisiau.  Ac mae codi trethi’n digio‘r perchnogion.

 

Mae airbnb yn rhoi ffordd handi i wneud arian. Clywais am un teulu’n mynd i gampio am fod airbnb yn rhy ddrud. Ym Marcelona mae’r cyngor lleol yn bygwth torri’r cyflenwad dwr i dai sy’n cael ei defnyddio ar gyfer airbnb. Mae llogi fflat yng Nghaerdydd am un noson pan fo rhyw gyngerdd mawr ymlaen yn fodd i fanteisio ar y brwdfrydigion, a’r gwestai  swyddogol hwythau yn codi prisiau drwy’r to. Diau bod y brodyr Gallagher, (Oasis  gynt) wedi gwthio prisiau lan ar gyfer yr haf nesa’ eisoes!

 

Ganrif yn  ôl, os oedd Cymro neu Gymraes eisiau mynd i Seland Newydd, roedd yn peri loes i rieni am eu bod yn poeni na welent eu plentyn byth eto. Heddiw mae pobl yn hedfan i ben draw’r byd am bythefnos, ac awyrennau’n llygru’r awyr. Mae newid y tywydd yn fygythiad enbyd ond ychydig sy’n mynnu teithio ar drên heb gael eu gorfodi, fel ni. Rydyn ni’n gyndyn iawn i arafu – ydych chi wastad yn cadw dan 20 milltir yr awr?

 

Pam  ydyn ni’n methu gweld tu hwnt i’n trwynau? Pam mae rhyddid a chyfleustra personol yn bwysicach na’r perygl anferth sydd ar y gorwel?

 

Dywed Salm 15 am fyw cyfiawn:

 

“Yr un sy’n byw yn gywir, yn gwneud cyfiawnder ac yn dweud y gwir yn ei galon;  un nad oes malais ar ei  dafod, nad yw’n gwneud  niwed i’w gyfaill,  nac  yn goddef enllib am ei gymydog.”

 

Byddai ‘gwerthoedd’ y salmau yn well canllaw i bobl na’r syniad mai arian yw unig fesur ‘llwyddiant’. Byddai’n gwella’r byd gwleidyddol yn syth ac yn ei gwneud yn bosibl i drafod gyda’n gilydd heb fwrw sen na difrïo personol.

 

 

Enid Morgan

1 Medi 2024


Kommentare


bottom of page