top of page
Search

Galw ar Allah

  • garethioan1
  • Jun 29
  • 3 min read

Wn i ddim beth fyddai f'ymateb i tase rhywun yn gwthio meicroffon o dan fy nhrwyn yn syth wedi rhyw drychineb mawr. Fyddai gen i fawr o amynedd, debyg. Efo nhymer i, mae'n beryg y byddwn yn ymateb yn o chwerw, a falle difaru wedyn.

 

Byddai fy ymateb yn dibynnu ar natur y trychineb, siŵr o fod. Petai fy nghartref wedi ei ddymchwel gan fom, byddwn yn teimlo fel dial ar y gelyn. Petai rywrai o'm teulu wedi eu lladd, mwy na thebyg y byddwn y tu hwnt i eiriau, ac yn gwbl fud. Wn i ddim. Dydw i erioed wedi meddwl am y peth o'r blaen, a gan mod i'n byw bywyd go gyfforddus yn y Gorllewin, gwn nad oes raid i mi dreulio lot o amser yn meddwl am y peth. Prin iawn ydi'r siawns fod rhywbeth felly yn mynd i ddigwydd i mi.

 

Rydw i'n teimlo’n ddigon cyfforddus yn fy nghartref. Mae gen i gymdogaeth glên a bywyd difyr. Dydw i ddim yn ofni'r nos yn fy ngwely clyd. Gwn y bydd bwyd ar y bwrdd i mi'r diwrnod canlynol. Dwi'n ffodus i gael iechyd da, a tase rhywbeth yn digwydd i mi, byddai nyrsys a doctoriaid yn Ysbyty Gwynedd yn gofalu yn arbennig o dda amdanaf.

 

A dwi'n cymryd hyn oll yn gwbl ganiataol, fel llawer i un fydd yn darllen y geiriau hyn. Mi ddiolchaf am yr holl fendithion hyn yn y capel ar ddydd Sul – ac mae'n ddigon posib mai dyna'r tro olaf i mi grybwyll enw Duw tan y Sul nesaf.

 

Mor wahanol ydi amodau byw yn Gaza y dyddiau hyn. Does gan bobl Gaza ddim tai, gan eu bod wedi eu dymchwel. Mae'r gymdogaeth oedd yn eu cynnal wedi mynd. Fedran nhw ddim cysgu yn dawel yn y nos gan fod dronau uwch eu pennau, a does wybod pryd y bydd bom yn disgyn arnynt. Does dim bwyd yn eu haros yfory, ac os byddant yn mentro i ganolfan gymorth, mae tebygrwydd cryf iawn y cânt eu saethu. O gael eu hanafu gan fwledi Israel, does dim ysbytai i fynd iddynt, does dim doctoriaid i wella eu doluriau.

 

Does yna fawr o ddim yno bellach. Dydy'r ffilmiau mwyaf apocalyptaidd a'r straeon mwyaf erchyll fu ar ein sgrin ddim yn dod yn agos at y profiad o geisio goroesi yn Gaza heddiw. Mi wyddoch hyn, mae'n stori gyfarwydd iawn, ac wedi blwyddyn a hanner, rydym yn blino ei chlywed. Mi dawaf. Ond cyn gwneud hynny, af yn ôl at y cwestiwn a holais ar y dechrau.

 

Erbyn hyn, rydw i wedi gweld ugeiniau o gyfweliadau efo Palestiniaid sydd wedi dioddef trawma. Ychydig iawn sy'n chwerw, ychydig iawn sy'n fud. Yr hyn sydd wedi fy nharo i dro ar ôl tro yw eu hurddas, yn gymysg efo'u gofid, ond yn fwy na dim - eu ffydd. Siŵr iawn eu bod yn drist, ond yn aml iawn, maent yn cyfeirio at Allah, neu Dduw. Maent yn diolch fod y rhai fu farw wedi cael osgoi dioddefaint pellach, ac maent yn galw ar enw Allah. Mae eu ffydd yn gadarn yn eu duw, yn gwbl ddi-syfl. Allah sy'n cysuro, Allah sy'n gofalu, Allah sy'n darparu hyd yn oed yng nghanol uffern eu dioddef.

 

Mae hyn wedi gwneud argraff ddofn arnaf i, ac wedi peri i mi anesmwytho. Mae gen i gymaint o gysuron y byd, ond gwan iawn yw fy ffydd o'i gymharu efo dinasyddion Palestina. Siawns nad oes gwers inni yn hyn.

 

Angharad Tomos

29 Mehefin 2025

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page