top of page

Galar Cyhoeddus?

Mae wedi bod yn gyfnod o alar cyhoeddus. Ac os nad oeddem i gyd yn galaru mewn gwirionedd – hynny yw, fel pe baem wedi colli perthynas neu ffrind agos – roedd y cyfryngau cyhoeddus yno i’n hatgoffa mai galaru oedd ein dyletswydd. Bu pob un o’r prif sianelau, ar y teledu a’r radio, yn Gymraeg a Saesneg, yn adrodd ac ail-adrodd holl fanylion symudiadau’r teulu brenhinol, a’r arch ei hun.


Naturiol, felly, oedd inni holi ein hunain, “Ble mae’r newyddion yn hyn oll?”. Y ‘newyddion’ allweddol oedd bod y Frenhines Elizabeth yr Ail wedi marw, ac y bydd yn cael ei chladdu ar Fedi’r 19eg. Roedd hynny’n newyddion trist i’r teulu wrth gwrs; ac er nad oedd yn gwbl annisgwyl i’r gweddill ohonom, yr oedd hi’n naturiol i nifer fawr o bobol ddatgan cydymdeimlad â’r teulu, ynghyd â mynegi gwerthfawrogiad o fywyd mor hir o wasanaeth i’r wladwriaeth Brydeinig.


Ond ar ba sail roedd y cyfryngau cyhoeddus yn penderfynu mai manylion symudiadau’r teulu a’r arch oedd yr unig beth yr oedd gan y cyhoedd ddiddordeb ynddo, dydd ar ôl dydd? A beth sy’n gwneud i’r gwasanaethau newyddion feddwl fod datganiadau megis, ‘disgwylir miloedd yng Nghaerdydd heddiw ar gyfer ymweliad y Brenin’ yn newyddion o gwbl?


Pan gynhelir gwrthdystiadau torfol dros heddwch, neu yn erbyn rhyfel, neu dros annibyniaeth Cymru, mae’r union gyfryngau yn cael trafferth fawr i benderfynu sawl mil sydd yno. Serch hynny, mi fentraf y cawn ni glywed ffigyrau manwl iawn am faint o bobol fu’n ciwio i weld yr arch yng Nghaeredin a Llundain. Ond y ffigwr na chawn ni byth ei glywed yw sawl miliwn arhosodd gartref ac na aeth yn agos at yr arch.


Fel mae’n digwydd, roedd gen i wythnos lawn o waith yr wythnos ddiwethaf, gwaith a’m tynnodd ar hyd a lled Cymru i gyfarfodydd a digwyddiadau niferus ac i gwmni llawer iawn o bobl. Ni chlywais fawr neb yn cyfeirio at y pwnc oedd i fod i draflyncu ein bywydau dros y cyfnod hwn o alaru gorfodol. Y ffaith amdani – heb unrhyw amharch i neb – oedd nad oedd y cyhoedd yng Nghymru yn teimlo i’r byw dros yr holl beth. Roedd digon o sôn gan bobl am gostau byw a phris tanwydd a chyflogau annigonol, a sawl un yn mynegi pryder am y gaeaf sy’n wynebu’r rhan fwyaf ohonom. Ond doedd pryder am ddyfodol y frenhiniaeth ddim yn uchel ar restr blaenoriaethau neb.


Felly mae angen gofyn sut y bu inni gyrraedd man lle mae’r cyfryngau cyhoeddus a’r gwasanaethau newyddion, sydd i fod i’n haddysgu a’n gwasanaethu, mor bell oddi wrth wir deimladau a diddordebau’r bobol. Yn wir, ymhellach na hynny, pwy sy’n penderfynu sut mae’r cyfryngau hyn yn cael yr hawl i gau eu gwasanaeth arferol i bob pwrpas, a newid i fodd o alaru undonog ac o ddiflastod llwyr?


Mentrodd Rhys Llwyd, y gweinidog ifanc o Gaernarfon, ein hatgoffa bod y frenhines yn un o Gristnogion amlycaf y byd, ac y dylem gadw hynny mewn cof wrth ymateb i’w marwolaeth. Ond pan ddwedodd Dafydd Elis Thomas nad oedd hi’n weddus i brotestio yn erbyn y frenhiniaeth yn ystod cyfnod o alaru, ymatebodd Rhys Llwyd fel hyn (o’i gyfieithu): “Ond dyw’r wythnos hon rhwng ei marwolaeth a’r angladd ddim yn gyfnod arferol o alaru. Sioe wleidyddol ydyw, wedi ei manwl-drefnu’n ofalus i hyrwyddo’r Deyrnas Gyfunol ac i fygu amrywiaeth”.


A beth wnaiff Charles o’i rôl newydd tybed? Mae’n fwy meddwl-agored na’i fam ar fater ail-drefnu llywodraethiant y gwahanol genhedloedd, ac y mae’n sicr yn un sy’n credu yng ngwerth ysbrydolrwydd a phwysigrwydd credu. Amser a ddengys a all dorri’n rhydd o’r maglau cryfion y ganwyd ei deulu i fodoli ynddynt.


A’r adnod sy’n mynnu dod i’r meddwl yw hon, adnod a welir yn 6ed bennod Ioan, wedi gwyrth porthi’r pum mil: “Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a’i gipio ymaith i’w wneud yn frenin, a chiliodd i’r mynydd eto ar ei ben ei hun”.


Comments


bottom of page