Ers dechrau y rhyfel rhwng yr Israeliaid (sy'n cynnwys Iddewon) a`r Palestiniaid, fel gweinidog yr efengyl, daeth rhannau anghyffyrddus o`r Beibl i`r wyneb unwaith yn rhagor, yn arbennig y rhannau cynnar o’r Beibl sy’n sôn am ryfeloedd erchyll yr Israeliaid yn erbyn eu cymdogion, heb sôn am y modd y meddiannwyd gwlad yr Addewid yn llyfr Joshua. Ni chofiaf i`r llyfryn hwn fod yn faes astudio yn yr Ysgol Sul am resymau amlwg. Ymddengys bod Duw yn Dduw rhyfelgar, yn Arglwydd y lluoedd. A bod y rhyfel yn erbyn y gelyn yn un sanctaidd neu yn drais cysegredig.
Wel pam meddech chi mae hyn yn haeddu sylw? Mae’n anodd peidio â gweld hanes yn ail adrodd ei hun yn y Dwyrain Canol y dyddiau hyn.Ymosodiad cyntefig Hamas oedd man dechrau`r rhyfel presennol. Ond mae hanes dyn yn hir meddai’r gân. Ac yn sicr mae hanes perthynas yr Israeliaid a’r Palestiniaid yn un hir iawn. Yn y Beibl ceir hanes Saul brenin Israel yn lladd yr Amaleciaid bob un, yn ddynion, merched a phlant. Beth yw hynny ond hil-laddiad? Mae cyfeiriad at Dafydd frenin yn ymosod ar ei gymdogion yn y Negeb ac yn lladd pob dyn a dynes. Dro arall mae`n lladd dwy ran o dair o drigolion Moab ac yn darostwng y gweddill i’w awdurdod. Mae sôn iddo ladd 22,000 o Syriaid , ac 80,000 o Edomiaid. Disgrifir Duw ar ddiwedd Llyfr Eseia fel un yn dychwelyd o frwydr yn troedio trwy waed y gelyn fel pe bai yn sathru gwin (yr hen arferiad o gynhyrchu gwin).
A beth am hanes y genedl yn meddiannu Gwlad yr Addewid? Hwn oedd eu Rhyfel Sanctaidd ac i’r Israeliaid roedd hynny yn golygu dinistrio’r dinasoedd,lladd yr holl drigolion yn ddiwahân, hyd yn oed yr anifeiliaid. Yn y rhan fwyaf o frwydrau’r Israeliaid roedd rheiny yn cael eu harbed.Fe gwympodd Jericho, fe losgwyd Ai a lladdwyd y trigolion oll, tua 12000 ohonynt. Ni ellir cysoni hyn, y Duw Hollalluog mewn rhyfel â Chenedl Etholedig sy’n anorchfygol gyda neges Iesu o Nasareth o dosturi a thrugaredd i’w bobl yn y Testament Newydd. Nid oes gyfiawnhad i hil-laddiad beth bynnag y rhesymau. Hyd yn oed y bwriad i’r genedl fod yn oleuni i`r cenhedloedd. Ac yn sicr yn ôl haneswyr nid oedd unrhyw sail i’r gred fod y Cananeaid yn ddrygionus ac yn ffiaidd. Ac yn sicr nid oedd eu hystyried fel paganiaid yn rheswm chwaith dros eu lladd a dinistrio eu dinasoedd. Mae haneswyr yn datgan hefyd nad oedd yr un wlad arall yn y cyfnod yn arddel y fath agwedd at eu gelynion.
Mae’n anodd osgoi gweld rhan Israel yn y rhyfel presennol yn adleisio’r cyfeiriadau ysgrythurol hyn – hil-laddiad. Ar 19 o Orffennaf mae’r ystadegau yn frawychus, 38,713 o Balestiniaid wedi colli eu bywydau, 15,000 o blant wedi eu lladd neu eu hanafu. Ceir bod 89,166 o Balestiniaid wedi eu hanafu a 10,000 ar goll. Honnir fod yr Israeliaid, yn rhwystro bwyd a chymorth i fynd i Gasa. Honnir hefyd fod Prif-weinidog Israel wedi cyfeirio at y Palestiniaid fel yr Amaleciaid gynt! Ymddengys fod y rhyfel wedi mynd y tu hwnt i’r amddiffyn, sef y prif reawm tros ymateb Israel.
Mae’r gymuned ryngwladol ers tro yn galw am gadoediad ac yn datgan bod sail pellach i droseddau rhyfel ar y naill ochr a’r llall. Pwy ddywedodd bod hanes yn ein dysgu nad ydym yn dysgu dim oddi wrth hanes? Ymddengys bod hynny yn wir yn y cyswllt hwn.
John Owen
Gorffennaf 2024
Ymddangosodd y cyfraniad hwn yn gyntaf yn ‘Y Bedol ‘
Fe fydd y blog nesaf yn ymddangos ar Ddydd Sul, 1 Medi.
Comments