Gadael Popeth i Fynd
- 11 minutes ago
- 3 min read
Yn ei flwyddyn olaf fel cyfrannwr i Greenbelt llynedd, dywedodd John Bell o Gymuned Iona yn yr Alban (a siaradodd yn un o gynadleddau C21 rai blynyddoedd yn ôl) fod ganddo arwydd ar ei ddrws yn dweud, ‘Rho rywbeth i ffwrdd bob dydd’. A dyna ysbrydolodd arwyddair yr ŵyl eleni, sef ‘Gadael popeth i fynd’, (Let it all go). Ar hyd y degawdau diwethaf, mae llynnoedd, coed, ac awyr agored Greenbelt wedi galluogi pobl i ymryddhau oddi wrth gyfyngiadau cyfrifoldebau a disgwyliadau bywyd bob dydd er mwyn bod yn agored i syndod a rhyfeddod. Wrth fod yn llwyr bresennol, mae’r ŵyl yn gyfle i Gristnogion, pobl o draddodiadau ffydd eraill a phobl heb unrhyw ffydd, i wrando, dysgu, canu, dawnsio, chwerthin, dadlau, gweddïo a dathlu dynoliaeth gyda’i gilydd.
Yn anffodus, penderfynodd y tywydd adael popeth i fynd hefyd. Ac er i’r glaw roi stop ar rai o’r gweithgareddau, cafodd ein criw bach o Greenbelters o Gymru fwynhad a budd mawr o naws groesawgar a chynhwysol y penwythnos.
Cytunwyd mai’r siaradwr a’n trawodd ni fwyaf eleni oedd Mina Smallman, yn ei sgwrs ‘Gwell Yfory’. Athro oedd Mina cyn iddi gael ei hordeinio yn Archddiacon Eglwys Lloegr, y fenyw ddu gyntaf i wneud hynny. Fe gofiwch, mae’n siŵr, i’w dwy ferch, Nicole Smallman a Bibaa Henry, gael eu llofruddio tra’n dathlu pen-blwydd mewn parc yn Llundain yn 2020. Yn ei geiriau hi, trwy ras Duw mae wedi maddau i’r llofrudd ac yn ddiolchgar am y rhodd o allu byw heb ddicter tuag ato.
Nid yw, fodd bynnag, wedi llwyddo maddau i’r ddau heddwas a rannodd luniau o’r chwiorydd ar WhatsApp. Byddai hynny yn annigonol, meddai, rhaid i newid ddigwydd. Defnyddia ei llid nawr i danio ei hymgyrch i hyfforddi’r heddlu ar sut i drin pob person gyda pharch ac i herio sefydliadau sy’n dangos arwyddion o hiliaeth a chasineb tuag at ferched. Erfyniodd arnom i godi llais yn erbyn pob anghyfiawnder – byddai peidio â gwneud hynny yn gydgynllwyn. Bydd ei geiriau yn parhau i atseinio, “Mae pobl yn dweud mai ond cynorthwy (crutch) yw crefydd mewn bywyd. Wel, dyw hynny ddim yn wir o gwbl. Mae bod yn Gristion da yn anodd, yn anodd iawn.”
Cawsom wledd o ddifyrrwch hefyd. Yn hollbresennol mewn wig a theits disglair ar brif lwyfan Greenbelt roedd yr anfarwol Flamy Grant. Wedi iddi ganu yng ngwasanaeth cymun yr ŵyl y llynedd, fe’i gwahoddwyd yn ôl bob cam o Ogledd Carolina. Yn ei ffordd di-hafal ei hun a chyda dogn dda o hiwmor, mae’n rhannu o’i phrofiad cynnar yn eglwysi’r Bible Belt, ac yn ein denu i weld gras rhyfeddol Duw ar yr ymylon. Geiriau fydd yn aros gyda ni y flwyddyn hon fydd, “Byddai’n well gen i fyw mewn rhyfeddod na mewn sicrwydd.” (“I would rather live with wonderment than with certitude”). Bydd Flamy yn ymweld â Chymru ac yn rhannu ei chenadwri unigryw trwy stori a chân ar Dachwedd 12ed yng Nghanolfan y Miwni, Pont-y-pridd. Byddwch barod!
Bydd Greenbelt yn cymryd ysbaid y flwyddyn nesaf tra’n chwilio am safle newydd. Yn y cyfamser, gallwch dderbyn gwybodaeth am weithgareddau a chael mynediad i archif yr ŵyl yma: Between the Fields - Greenbelt
Rhai o Greenbelters Cymru 2026, sy’n teimlo’n gyfoethocach wedi cael y cyfle i ‘adael popeth i fynd’ am gyfnod bach.
Enid a Gerald Morgan
Rhian Morgan
Lleuwen Steffan, Caradog ac Eira Tangi
Margaret Emmanuel
Anna Vivian Jones
Geraint a Caroline Rees, teulu a ffrindiau
6 Medi 2026

Comments