Ffransis
- cristnogaeth21
- Apr 27
- 3 min read
Updated: Apr 29
Bore ‘ma, ddydd Llun y Pasg, clywais am farwolaeth y Pab Ffransis. Roedd ffrindiau o Langollen yn sgwar Sant Pedr ddoe i dderbyn , gyda’r ddinas a’r byd, ei fendith
'Urbi et Orbi'.
Roedd Ffransis yn barod i ddweud yr hyn nad oedd pobl eisiau eu clywed , fel herio llywodraethau ar argyfwng dyledion y gwledydd tlawd. Ond roedd pobl yn barod i wrando arno. Yr oedd ganddo ddull mor gyfeillgar, a dawn brin I ddod â phobl ynghyd, a gwnaeth i bobl deimlo yn gyfforddus yn ei gwmni a chartrefol yn yr eglwys. Roedd yn berson gostyngedig gan ymwrthod â Phalas Apostolaidd traddodiadol y Pab a dewis byw, fel eraill, mewn gwesty yn y Fatican. Mewn gwirionedd, ni chollodd erioed ei allu i fod ymhlith pobl gyffredin a thlawd ei fagwrfa, boed hynny'n cusanu traed gwrthryfelwyr yn Ne Swdan, golchi traed carcharor ,neu ei alwad ffôn nosweithiol i’r Eglwys Gatholig yn Gasa (yr unig eglwys yn Gasa bellach a rhan ohoni wedi ei dinistrio ) , a hynny hyd yn oed ar Sul y Pasg.A phob amser,dymuno,gweddio a dyheu am heddwch.
Yr oedd yn Arweinydd doeth a chadarn ei wrthwynebiad i ryfel a thrais sydd yn digwydd ar sawl ffrynt erbyn hyn. Yr un oedd ei gariad a’i ofal o’r cread.Ym mis Mai ddeng mlynedd yn ôl ysgrifennodd ei ail encyclical, Laudato Si,
gyda’r is deitl " gofal am ein cartref cyffredin". Ynddo, mae'r Pab yn beirniadu prynwriaeth a datblygiadau economaidd anghyfrifol, yn galaru am y llygredd amgylcheddol a chynhesu byd-eang, ac yn galw ar holl wledydd a phobl y byd i gymryd "camau byd-eang cyflym ac unedig."
I mi yr oedd Ffransis yn ddyn brwdfrydig yn barod i sefyll tros werthoedd y Deyrnas mewn eglwys gyda thueddiad i fod yn fewnblyg ac eglwysig mewn ffordd sy'n ei gwneud yn anodd siarad yn broffwydol. Roedd Ffransis yn angerddol i gyfleu mor ganolog yw’r gwerthoedd sy'n ein huno yn un yng Nghrist Iesu. Efallai bod ei alwad fel offeiriad Jeswitaidd yn canolbwyntio - fel y mae y Jesiwitiaid - ar gael perthynas fyw gyda Iesu gan ddirnad y dylai'r Eglwys ildio i werthoedd Teyrnas Dduw. Dyma,wedi’r cyfan, oedd y flaenoriaeth gyntaf i Iesu yn ei bregeth ar y mynydd ac ar hyd ei weinidogaeth a’i aberth sy’n rhoi bywyd i'n byd.
Ym mis Mehefin y bydd y cyfamod rhwng y pum eglwys a gytunodd nôl yn 1975 i weithio tuag at weledigaeth o undod organig yn cael ei nodi gyda gwasanaeth yn yr eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Mae'r broses yn parhau ond mae’r diffiniadau eglwysig o 'episcope' –esgob - yn atal y perl posibl hwn o wobr fawr i'r eglwys a'r byd rhag cael ei gwireddu.
Efallai y symudir y 'log jam' yma o undod trwy fabwysiadu agwedd mwy bersonol tuag at faterion eciwmenaidd ac mae Ffransis yn esiamp dda o hynny . Daeth pobl yn gyntaf iddo, o flaen egwyddorion a thraddodiadau caeth yr Eglwys . Bugail oedd Ffransis, nid Pennaeth sefydliad crefyddol mwya’r byd. Doedd ganddo fawr o obaith o newid yr eglwys (roedd ganddo ddigon o elynion ) ond bu’n bugeilio eneidiau a chalonnau I gyfeiriad cariad Duw. Yr oedd Ffransis yn bwnc trafod ar Radio 4 fore Sul y Pasg ac un yn ei ystyried yn ‘maverick’ heriol ag awyddus i cael ei ffordd ei hun. Ond dyna oedd galwad Ffransis ac mae’r byd a’r eglwys wedi colli llais gwahanol ac yn fwy angenrheidiol nag erioed.
Andrew Sully
Llun y Pasg, 21ain Ebrill 2025
Comments