top of page

Ffoaduriaid

Wrth i mi ysgrifennu mae'r llong fach danforol Titan yn dal i fod ar goll, gyda phump o bobl ynddi. Mae awyrennau, llongau eraill, gwerth miloedd o adnoddau yn dal i chwilio, ac wrth gwrs byddai'n hyfryd i'r bâd bach a'r criw gael eu darganfod yn ddiogel.


Mae'r cyfryngau wedi cydio yn y stori, ac felly mae tuedd i straeon eraill gael eu anghofio. Fel stori y suddo arall digwyddodd ychydig ddyddiau yn ôl.


Stori’r cwch pysgota gyda cannoedd o bobl arno a aeth i waelod Môr y Canoldir ar y pymthegfed o Fehefin. Faint o arian wariwyd i achub y trueniaid oedd yn ei grombil? Mae gwylwyr glannau Groeg yn mynnu eu bod wedi cynnig help a phobl ar y cwch wedi gwrthod am eu bod yn hwylio ymlaen i'r Eidal. Eraill yn gwadu hynny.


Mae'n debyg iawn mai i'r Eidal yr oedd y llong yn gobeithio teithio. Pam? Yn y lle cyntaf, daearyddiaeth: mae'n llawer haws symud ymlaen i wledydd eraill, megis Ffrainc, yr Almaen neu yma i Brydain, o'r Eidal nac o wlad Groeg. Yn yr ail le, nid yw llywodraeth Athen yn rhoi croeso i ymfudwyr.


Yr Eidal amdani, felly. Ond pa fath o groeso sydd iddyn nhw yno?


Mae prosiect Mediterranean Hope, sydd yn cael ei weithredu gan eglwysi efengylaidd yr Eidal, yn cynnig help ar ynys fach Lampedusa, yn Sisili, yn Rhufain a hefyd yn y gogledd yn Ventimiglia, ar y ffin rhwng yr Eidal a Ffrainc. Mae ymfudwyr yn ymgynnull yno er mwyn ceisio symud ymlaen. Mae croesi heb bapurau yn anodd; os dringwch ar drên, mae perygl i chi gael eich lladd gan y gwifrau trydan; os ewch ar y draffordd, mae'r loriau yn gyflym ac mae’n anodd cuddio arnynt; os ceisiwch gerdded dros Col della Morte, mae'r enw yn rhybudd i chi: Bwlch Angau. A bob tro bydd swyddogion Ffrainc yn eich troi chi’n ôl.


Ond mae gan yr eglwys Waldensaidd ganolfan yn Ventimiglia sydd yn helpu ffoaduriaid sydd ag achos teilwng, i baratoi’r dogfennau fydd yn caniatáu iddyn nhw ofyn am loches yn Ewrop. Mae hefyd help ar gael gan elusen Eglwys Rufain - Caritas sydd yn cynnig brecwast i ryw ddau gant o bobl bob dydd. Mae ganddyn’nhw hefyd rhywle lle mae menywod a theuluoedd yn gallu cysgu dan dô, a chael defnyddio toiled a chawod. Un toiled ac un gawod i ddeugain efallai. Ond mae'n rhaid i'r dynion, dros gant ohonyn nhw bob nos, gysgu yn yr awyr agored, neu dan bontydd yr afon, a chwilio am fwyd neu ddillad glân gan bobl garedig yn y dre. Ond nid oes llawer o’r rheini, ac nid yw cyngor tref Ventimiglia yn cynnig dim, nid hyd yn oed Portaloos.


Gweddïwch dros bawb sydd yn Ventimiglia a llefydd tebyg, y rhai sydd yn chwilio am ddiogelwch, a hefyd y rhai sydd yn eu helpu nhw.


Am ragor o wybodaeth am Mediterranean Hope ewch at ei gwefan www.mediterraneanhope.com


bottom of page