top of page
Search

Ffenest o Gymru...

  • garethioan1
  • Oct 26
  • 3 min read

...ffenest ar Dduw ...ffenest i'r byd


Dros y canrifoedd, mae artistiaid wedi portreadu digwyddiadau dioddefaint Crist mewn amryw ffyrdd, gyda rhai yn dewis canolbwyntio ar y Swper Olaf, eraill ar ing Gethsemane, y cipio, yr holi neu’r condemnio, eraill fyth ar y fflangellu, yr ymwisgo a’r coroni sarhaus, neu’r daith drymlwythog at Galfaria. Ond croeshoeliad Crist a’i farwolaeth achubol sy’n derbyn y prif sylw, y weithred sy’n ffolineb yng ngolwg rhai ond i’r rhai, “sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw” (1 Cor. 1:18).


Mae’r sioe-un-actor A Window from Wales, sydd ar daith drwy Gymru ar hyn o bryd, yn canolbwyntio ar un portread artistig penodol, a hynny o waith John Petts (1914-1991), y crefftwr cywrain o Lansteffan, Sir Gâr. Cyd-destun dehongliad Petts o ddioddefaint Crist oedd yr ymosodiad enbyd ar Eglwys y Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama, ar 15 Medi 1963, pan fu farw pedair merch ifanc: Addie Mae Collins (14 oed), Carole Robertson (14), Cynthia Wesley (14) a Denise McNair (11). Aelodau o’r Ku Klux Klan oedd yn gyfrifol am osod 19 ffon o ddynameit dan risiau dwyreiniol yr addoldy, i’w ffrwydro tra bod y merched yn paratoi i wasanaethu fel tywysyddion yn ystod gwasanaeth ieuenctid arbennig.


Yn ogystal â’r pedair, dinistriwyd holl ffenestri lliw yr eglwys, heblaw un yn dangos Iesu gyda’r plant o’i gwmpas (tybed ai rhagluniaeth ddwyfol yn wyneb creulondeb dynol oedd y goroesi penodol hwn?) Serch hynny, ni fynegodd yr ymosodwyr unrhyw ymdeimlad o ddifaru nac edifeirwch: casineb cignoeth tuag at bobl croenddu oedd eu cymhelliad.


Gellid ystyried eu gweithredoedd dieflig ochr yn ochr â brwydr galed dros hawliau sifil yr adeg honno, a gwaith rhai fel Martin Luther King, a lofruddiwyd yn Memphis llai na phum mlynedd yn ddiweddarach (4 Ebrill, 1968). Ledled y byd mynegodd llawer arswyd wrth glywed am y fath anfadwaith yn Alabama. Yn eu plith oedd John Petts: "Naturally as a father I was horrified by the death of the children. As a craftsman... I was horrified at the smashing of all those windows, and I thought to myself: my word, what can we do about this?" Penderfynodd droi ei ddicter yn harddwch a rhoi ei greadigrwydd ar waith drwy greu ffenest drawiadol a ariannwyd drwy gyfraniadau darllenwyr y Western Mail fel rhodd pobl Cymru wrth atgyweirio’r eglwys yn dilyn y bomio. Gosodwyd y ffenest yn ei lle cyn i’r eglwys ailagor yn 1965 ac mae amryw ddigwyddiadau wedi nodi’r 60 mlynedd ers hynny, gan cynnwys ymweliad gan bobl o Gymru yn gynt eleni, ynghyd â’r sioe deithiol.


Gellir edmygu gwaith Petts ar-lein (er enghraifft, yma) a gweld Crist croenddu wedi ei amgylchu â lliwiau glas llachar ac enfys amryliw uwch ei ben yn cynrychioli cyfamod digyfnewid Duw â’i bobl o bob man a phob cyflwr. Ai croeshoeliad yw hwn? Yn sicr, nid Crist diymadferth, dolurus a llipa sydd yma ond ffigwr cryf, egnïol sydd eisoes yn mynegi pŵer dwyfol yr atgyfodiad. Dyma Grist sydd wedi profi marwolaeth – fel Addie, Carole, Cynthia a Denise a llu aneirif o bobl debyg – ond sy’n mynnu mai nid hynny mo’r diwedd.


Mae’n ymddangos bod un llaw yn ymwrthod â grym andwyol drygioni, tra bo’r llall yn croesawu’n dyner dioddefwyr pob oes. Wrth geisio gwneud hyn heddiw yn ei enw ef, tybed a allwn ni wireddu’r arysgrif a welir yn glir ar waelod y ffenest: “... i mi y gwnaethoch” (Mathew 25:40)?


Ainsley Grithiths

26 Hydref 2025

 

 
 
 

Comments


bottom of page