Beth sy’n gyffredin i etholiadau Prydain, Ffrainc ac Unol Daleithiau’r America - a Chymru? Maen nhw’n dra gwahanol i'w gilydd o ran arwyddocâd a’u pwysigrwydd i'r byd mawr cyfan. Ac mae’r peth sy’n gyffredin iddyn nhw i’w weld mewn gwledydd fel Rwsia a Hwngari a Tsieina hefyd. Erbyn meddwl, mae’n gyffredin i fywyd cyhoeddus ym mhob gwlad ac yn cael ei grynhoi yng ngeiriau hen gân fach ddeifiol Dafydd Iwan, ”Rwy’n bwysig, bobl bach”.
Mae ‘na wers yn helynt Vaughan Gethin druan – a fu’n Brif Weinidog Cymru am ychydig amser yn hwy nag a fu Liz Truss yn Brif Weinidog Prydain. Pan aeth yn Brif Weinidog fe’m trawodd fod ei ddatganiadau cyhoeddus wedi mynd braidd yn ‘bwysig’ (pompous, hynny yw), os nad yn hunanbwysig. A phan ddarganfuwyd ei fod wedi derbyn arian gan rywun amheus, roedd ei anallu i gyfaddef ei gamsyniad yn hollol ddifäol i’w enw da. Chwarae teg, fe wnaeth y peth call a chyhoeddi na fyddai’n sefyll yn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.
Dwn i ddim am y cefndir wrth gwrs, ac mae’n bosibl bod eglurhad llawer mwy cymhleth yn rhywle, ond mae’n amlwg bod yna gwympo mas wedi bod! Fel sydd rhwng Democratiaid a Gweriniaethwyr. Fel sydd rhwng disgyblion yr ochr chwith yn Ffrainc. Fel sydd rhwng Ceidwadwyr yn Lloegr, ac fe ymddengys ym mhob plaid, ond bod rhai pleidiau’n ei guddio’n well na’i gilydd.
Felly y bu rhwng disgyblion Iesu hyd yn oed. Doedden nhw chwaith ddim yn berffaith ac roedd gwaith dysgu arnyn nhw. Ac mae eu holynwyr ym mhob canrif wedi bod yn debyg iawn. Mae’r broblem yn codi, nid yn unig gyda grym, ond gyda chyfrifoldeb arweinwyr dros eu dilynwyr. Mae Cristnogion yn hoffi grym a dylanwad a hawl i ddweud sut y dylai pethau fod. Y demtasiwn i’r cyhoedd ydi cega bod ein harweinwyr, “I gyd yr un fath!”. Ond dydyn ni chwaith ddim yn berffaith
Yn rhestr darlleniadau’r eglwys mae’r tymor presennol yn canolbwyntio ar sut i fyw mewn byd amherffaith tu hwnt. A’r datganiad gorau y gwn i ar y pwnc yw’r un gan fardd o’r Ynysoedd Erch, (Orkney,) sef Edwin Muir. Yn y gerdd ‘One foot in Eden’ mae’n ymhelaethu ar ddameg yr ŷd a’r efrau, a’r cyngor i adael iddyn nhw dyfu gyda’i gilydd rhag i ddaioni’r ŷd gael ei ddiwreiddio wrth dynnu’r efrau.
Sonia’r bardd am ryfeddod y caeau o’n cwmpas a blannwyd â phlanhigion cariad a chasineb a does dim i wahanu’r ŷd a’r efrau am eu bod wedi tyfu mor agos at ei gilydd. Ni piau’r planhigion hyn o gariad a phechod lle y byddwn yn casglu ein cynhaeaf. Mae amser ei hun yn dwyn y tyfiant a’r ffrwyth, ac yn llosgi’r dail i ffurfiau o arswyd a galar ar hyd ffordd y gaeaf.
Yn ein byd ni mae 'na flodau na welid byth yn Eden, blodau galar a chariad sydd ond yn tyfu yn ein caeau tywyll ni. Beth fu gan Eden i’w ddweud erioed am obaith a ffydd, am drugaredd a chariad? Bendithion rhyfedd na welid ym mharadwys sy’n syrthio o’r wybrennau cymylog hyn.
Strange blessings never in Paradise
Fall from these beclouded skies.
Rhinwedd, nid teimlad bach neis, ydi gobaith. Felly daliwn ati.
Enid Morgan
29 Medi 2024
Comments