top of page

Fel aderyn yn pigo hedyn.

Cristnogaeth21 e-fwletin Hydref 8


Roeddwn ar wyliau ar Ynys Enlli rai blynyddoedd yn ôl ac wedi dringo i ben y mynydd. Yno cyfarfum â gwraig ifanc a dechreuwyd ar sgwrs. Dyma finnau’n holi pam yr oedd hi wedi dod i Enlli - wedi’r cyfan y mae pobl yn dod i weld yr adar, y blodau, y creigiau yn ogystal ag am resymau ‘ysbrydol’. Ar ôl meddwl yn reit ystyriol meddai hi “Ysbrydol, efallai - ond nid y stwff Cristnogol yna”. Fe’m trawyd yn fud! Rwy’n dal i feddwl beth ddylwn i fod wedi ei ddweud. Holi beth oedd hi’n ei feddwl wrth ‘ y stwff Cristnogol yna’ i ddechrau!


Roedd hi’n nodweddiadol o sawl cenhedlaeth sy fel petae wedi magu alergedd i iaith draddodiadol y ffydd ac wedi ymateb yn gwbl negyddol i’r duedd o fewn yr holl draddodiadau i droi iaith a stori symbolaidd yn iaith ffaith. Os feddyliwch chi am y Duw fel Ffynnon Byw, neu ‘estyn ein hiraeth’ neu ‘sylfaen bod’ mae’n haws cofio nad oes ganddo nodweddion corfforol. Mae’r Testament Newydd yn cynnwys sawl enw symbolaidd.. Am fod Iesu yn galw y Duw hwnnw’n ‘Tada’, mae’n dilyn bod straeon y geni yn dweud ei fod yn “Fab” Duw - yr oedd yr un gair yn cael ei ddefnydio am offeiriaid y deml. Mae dweud, fel Ioan, ef yw Y Gair, yn awgrymu bod ‘Duw’ yn cyfathrebu. Mae un esbonwraig ddisglair ar Efengyl Ioan yn dweud yn ddi-flewyn ar dafod bod gwrthod derbyn gwirionedd symbol/arwydd yn ‘ganser y dychymyg crefyddol’.


Mae pobl fel Richard Dawkins a’i debyg, anghredinwyr brwdfrydig gynt, bellach yn cael eu disodli yn y drafodaeth gyhoeddus Seisnig gan bobl fel Tom Holland ac Iain McGilchrist (Scotyn mi dybiwn) yn defnyddio gwyddoniaeth i ddangos bod y fath feddylfryd yn cyfyngu ar natur y meddwl dynol, ac yn gadael i ochr chwith yr ymenydd sy’n pwysleisio rheswm a phrawf a manylder reoli dros yr ochr dde sy’n chwilio am wirionedd ehangach. Mae’n cyffelybu hyn i aderyn yn pigo hedyn o’r gro tra’n cadw’n ymwybodol o’r aderyn mwy allai ei draflyncu. (Chwiliwch yr enwau ar Youtube!)


Yr ymenydd chwith, mae’n siwr, sy’n cael trafferth â’r ‘stwff’ Cristnogol, ac athrawiaethau symbolaidd fel y geni gwyrthiol, y drindod, straeon am Iesu’n cerdded ar y môr ac yn tawelu’r storm.


Mae ‘na stori berthnasol am gyn Archesgob Cymru, Glyn Simon. Mewn gwasanaeth conffirmasiwn bu mor ffôl â gofyn i ddyn canol-oed sut yr oedd yn meddwl am y Drindod. Atebodd hwnnw yn ôl y catecism yn ddigon cywir - “Un yn dri a thri yn un” ond yr oedd ar y truan nam lleferydd difrifol a’i gwnai yn annealladwy. Yn fwy ffôl byth gofynnodd Glyn Simon iddo’r ail, a’r trydydd tro, a’r truan yn dal i roi’r un ateb . “Mae’n flin gen i dydw i ddim yn deall,” meddai Glyn Simon. Dyma'r dyn ag atal dweud arno'n darganfod rhugledd yn ei rwystredigaeth at ddiffyg crebwyll yr Esgob ac yn llefaru'n berffaith glir “Ti ddim fod i ddeall, dirgelwch yw e!”


Enid Morgan



Gwahoddiad. Os ydych yn teimlo’r angen i ofyn cwestiwn am y Beibl……gwybod mwy am beth yw’r Beibl……sut y daeth y Beibl i fod yn y lle cyntaf , yna mae Cristnogaeth 21 wedi gwahodd yr Athro Eryl Wynn Davies i gynnal dau sesiwn o sgwrsio yn gofyn ‘Beth yw’r Hen Destament ?’Mae’r cyntaf ar Nos Lun Hydref 30ain am 7.30 a’r ail ar nos Lun Tachwedd 27ain. Fe fydd dau sesiwn ar y Testament Newydd dan arweiniad yr Athro Catrin Haf Williams yn gynnar yn 2024. Os ydych eisiau deall y Beibl yn well, dyma gyfle i holi a thrafod.

Gofynnwn i chwi gofrestru, os gwelwch yn dda, er bod yn cyfan yn rhad ac am ddim. Pan yn cofrestru fe fyddwn yn ddiolchgar am eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn. Anfonwch eich enw i cristnogaeth21@gmail.com Fe fyddwch yn derbyn y linc zoom ar ôl cofrestru.



bottom of page