‘Dyna f’erthygl wedi mynd’ meddyliais wrth ddarllen colofn Anna Jane ddydd Sul diwethaf ( Chwefror 25 ). Pe buaswn wedi sgwennu’r erthygl yn gynt – fuaswn i ddim yn y picil yma! Mwynheais glywed am drafodaethau CWM ( Cyngor Cenhadaeth Byd ) ond, go drapia, roedd yn dweud cymaint yr oeddwn i am ei ddweud!
Dros y blynyddoedd dwi wedi clywed llawer o bregethu am fy meiau, am fod yn bechadur oedd angen ei harbed. Clywed am f’euogrwydd, ynghyd â phawb arall, er nad oedd llawer o fanylder yn y cyhuddiad. Gwn i mi wneud llawer o bethau na ddylwn fod wedi eu gwneud; fbd fy meddyliau yn aml yn rhai anheilwng; fy mod yn llawer llai na pherffaith. Ond rhywsut, er cywilydd i mi, doeddwn i erioed wedi teimlo bod fy mhechodau mor erchyll fel bod angen i Dduw aberthu ei hun i’m gwared ohonynt.
Dwi wedi bod yn hynod o ffodus , fel y dywed fy nghymydog ‘Rydym ni wedi ennill loteri bywyd.’ Chefais i ddim byw drwy ryfel byd (er bod Gogledd Iwerddon yn rhyfel cartref) Mi ges addysg am ddim – ysgol gynradd, uwchradd a dwy Brifysgol. Mi gefais ofal meddygol drwy mywyd, gan gynnwys gofal deintyddol. Mi gefais ddŵr glân, ynni parhaol a bwyd digonol. Cefais arian digonol i gael tŷ cysurus , dillad, llyfrau, modd i deithio, ac insiwrin rhag ofn damweiniau. A chynnal fy nheulu hoff.
Do, mi gefais y pethau hyn i gyd. Gwn bellach i mi gael hyn i gyd oherwydd fy mod yn rhan o sustemau sydd yn ein cynnal, bron heb i ni sylwi arnynt ;bod ein cymdeithas yn dibynnu gymaint ar sustemau anghyfiawn – ein dibyniaeth ar dlodi miliynnau ac ar werthu arfau; bod y teithio wnaethom, y pethau brynasom yn cyfrannu at yr argyfwng amgylcheddol sydd yn wynebu’r byd; a’m bod yn perthyn i Gymru, Prydain ac Ewrop sydd ,yn ôl Anna Jane, yn ‘wledydd sydd wedi bod ac yn parhau wrth wraidd y broblem.’
Ac mae hyn yn fy nwysbigo, yn fy mhoeni. Rydw i yn rhan annatod o fradychu’r Cread a’m cymydog. Dwi’n teimlo’n euog am beth dwi’n ei adael i’m plant a’m hwyrion. Dwi’n teimlo’n gyfrifol am Balestina a’r Uyghurs - mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Gwn fy mod wedi fy nal mewn rhwydwaith hollol bechadurus y ces fantais ohoni, ond na allaf ddianc rhagddi.
Dwi’n rhan o’r sustemau â nodir gan CWM yr wyf yn elwa oddi wrthynt.
Wrth ddychwelyd i Landudno ar ôl fy strôc gwelais cymaint o sgaffaldiau tu allan i eglwysi a chapeli’r dre. Dyna’r ffocws – cadw’n adeiladau i fynd. Mae’r profiadau o fod yn sâl, o fynd yn hŷn, o golli ynni, o weld anhrefn y byd, wedi ei gwneud yn anoddach i mi ‘ymrafael â’r euogrwydd’ sonir amdano gan CWM. Mae’n alwad arnom i ollwng cymaint wnaeth fy mywyd i mor hyfryd. Bydd rhaid newid popeth – hawdd i mi ddweud yntê?
Diolch i’r rhai sydd yn gwneud yr arberth- fel y Tad Felice Palamara yn Cessaniti, heddiw’n peryglu ei fywyd wrth wrthwynebu’r Mafia ac Alexei Navalny gerddodd i gell y gelyn.
Nia Higginbotham
Comments