Daw’r e-fwletin heddiw i ni ar draws yr Iwerydd. Mae’r awdur yn holi cwestiwn arwyddocaol wrth i ni ddathlu’n nawddsant.
Dros ugain mlynedd yn ôl fe sylweddolodd y gweinidog fod y gymuned yn newid, llawer o bobl ddwad wedi symud i fyw yma, a’r bobl ddwad yn edrych yn wahanol. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl ddwad yn wyn. Roedd y traddodiadau a’r gerddoriaeth leol yn dechrau diflannu. Cafwyd sgwrs gyda nifer o’r hen do, ac wrth wrando trodd y sgwrs yn raddol at sut allai’r capel gyfrannu at gadw’r hen draddodiadau yn fyw, yn arbennig y gerddoriaeth.
Ers diwedd y ganrif ddiwethaf, heblaw am gyfnod COVID, mae noson jazz wedi cael ei chynnal yn y capel bob nos Wener. Mae nifer o’r cerddorion yn enwog iawn yn eu maes ac wedi chwarae gyda’r cewri. Yn ogystal â bod yn lle i’r meistri berfformio, mae hefyd yn gyfle i bobl ifanc sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd i berfformio hefyd. Mae’n llwyddiant mawr a’r capel yn enwog drwy’r ddinas, gyda hyd yn oed erthyglau am y nosweithiau jazz yn ymddangos mewn cylchgronau cenedlaethol. A bob nos Lun cynhelir noson blues hefyd.
Mae lluniau o aelodau, cerddorion ac arwyr ar waliau’r capel. Mae gwaith tapestri gyda’r geiriau Heddwch, Cyfiawnder, Cariad ar y waliau. Mae yna groes fawr ar y wal tu cefn i’r llwyfan. Mae manylion am ddigwyddiadau a gwasanaethau ar gael mewn man amlwg. Ac mae bwyd cartre’ traddodiadol ar werth i bwy bynnag sy’ isio pryd da hefyd.
Mae’r nosweithiau jazz wedi denu llawer i’r capel ar y Sul, gyda nifer yn dod yn aelodau a rhai yn flaenoriaid. Mae nifer wedi ymuno gyda’r grŵp astudio Beiblaidd, RBS (Resisters Bible Study) sydd yn ei dro wedi ehangu dealltwriaeth pawb ynglŷn â’r Beibl a’n cyfrifoldeb bob dydd. Mae cerddoriaeth jazz yn cael lle blaenllaw yn ein gwasanaethau, gyda rhai cerddorion jazz yn arwain y gerddoriaeth ar y Sul.
Ymateb i angen y gymdeithas leol sydd wedi arwain at hyn. Fe gymerodd flynyddoedd o amynedd a gwaith caled, a chred gref mai cenhadaeth unigryw'r capel yma oedd gwasanaethu’r gymdeithas leol mewn ffordd unigryw.
Fel Cymraes sy’n byw yn bell o Gymru rydw i’n ymwybodol fod sicrhau ein Cymreictod drwy ein hiaith a’n diwylliant yn hynod bwysig. Roedd y capeli a’r eglwysi yn rhan bwysig o’r gwaith cymdeithasol hwnnw pan oeddwn i’n blentyn. Mae’r amseroedd wedi newid – ac mae gen i ddiddordeb gwybod, y tu hwnt i gynnig oedfa Gymraeg, sut mae’r capeli a’r eglwysi yn hybu dyfodol ein hiaith a’n diwylliant heddiw?
Comments