Ym mis Chwefror bu nifer yn dathlu Mis Hanes LHDT+ – amser i ail-ystyried yr hen naratif negyddol ac i wrando ar straeon newydd.
Yng nghanol yr ugeinfed ganrif, pan oeddwn i’n tyfu i fyny yng ngogledd Cymru, roedd ’na sibrwd am ‘y drwg, y gwallgof a’r trist’ – y sibrydion wedi tynnu o gilddor straeon negyddol a oedd yn llywio’r farn gyffredinol fod cyfunrywioldeb yn bechadurus, troseddol ac yn llygredig. Dyma’r storiau yr oedd ‘yr eglwys’ i’w gweld yn hwyluso a’u ymeradwyo – ac oherwydd bod ‘yr eglwys’ yn dweud hynny, rhaid bod Duw yn dweud hyn hefyd!
Cefais fy magu yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yn fy arddegau cynnar, fel bachgen ofnus a oedd yn sylweddoli ei fod yn hoyw, roedd yr Efengyl a bregethwyd o’r pulpud mewn aml i gapel Cymraeg yn ymosodiad personol iawn ar fy modolaeth – roedd Duw’r Efengyl honno yn un a gosbodd bobl fel fi. Do, ceisiais ‘weddïo’r hoyw i ffwrdd’ a cheisiais wadu hanfodion fy rhywioldeb . Yn fy methiant rhoddais gynnig ar hunanladdiad oherwydd roeddwn i'n credu fy mod i yn un o blant y diafol ac yn anadferadwy. Ond achubwyd fy mywyd gan un o weinidogion yr Hen Gorff a’i wraig. Yn araf, arweiniodd Huw a Mair fi yn ôl o lwybr hunanladdiad.
Astudiais ddiwinyddiaeth gan hanner fwriadu mynd i’r weinidogaethn ond baglais ar risiau’r eglwys sefydledig gyda’r Presbyteriaid yng Nghymru, y Methodistiaid Unedig yn UDA a’r Anglicaniaid (traddodiad fy nhad) yn esgobaeth Lerpwl. Doedd dyn hoyw agored (gonest) ddim yn dderbyniol i’r weinidogaeth ordeinedig – ac fe brofodd amgylchedd ‘yr eglwys’ yn wenwynig i rhywun fel fi. Felly, yn fy mhedwardegau, er lles fy iechyd meddwl, gadewais yr eglwys.
Ond roeddwn i’n ffodus nad oedd fy nealltwriaeth o’m mherthynas â Duw yn gyfan gwbl wedi’i ffurfio gan fformiwla y ‘Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân’ yr oedd yr eglwys wedi ceisio ei faethu. Roedd llawer o ddylanwadau eraill yn dehongli fy ffydd e.e. Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr, oedd yn dal yn radical yn y 1970au ac yna addysg mewn coleg diwinyddol yn yr 1980au oedd yn cynnwys astudiaeth diwinyddiaeth rhyddhad a ffeministaidd oedd yn herio doethineb mwy confensiynol. Roedd yno athrawon oedd yn Iddewig, Catholig Rhufeinig, Bedyddwyr, Du, Asiaidd, Lesbiaid, De Americniaidd, Goroeswr yr Holocost (a hyd yn oed Presbyteriaid)… pob un ohonynt wedi dod â mewnwelediad i bresenoldeb Duw yn eu bywydau o deithiau mor wahanol drwy fywyd o ffydd.
Roedd llais Huw Wynne Griffith (gweinidog Selio Aberystwyth) yn fy nghlust hefyd, “Os mai dyma mae Duw wedi bwriadu i ti yna dy ddyletswydd, a’r her i ti, yw bod y dyn hoyw gorau y medri di fod,” ac roedd yna siant o gymuned Taizé... Ubi caritas et amor, Deus ibi est – Lle bo graslonrwydd a chariad, yno y mae Duw. Roeddwn i'n ‘oroeswr hunanladdiad’ pedwar ar bymtheg oed y tro cyntaf i mi benlinio gyda'r brodyr yn Taizé a chanu Ubi caritas et amor... a synhwyro presenoldeb Duw, a derbyniad llawn, am y tro cyntaf efallai. Er i mi droi fy nghefn ar yr eglwys dydw i ddim yn amau cariad Duw tuag ataf nac yn amau ffyddlondeb ein perthynas.
Rwy’n adnabod llawer a adawodd yr eglwys am yr un rhesymau a fi ac wrth adael yr eglwys yr oeddynt yn troi eu cefnau ar Dduw oherwydd mai'r unig Dduw yr oeddent yn ei adnabod oedd yr un yr oeddent yn ei adnabod trwy brofiad gwenwynig yn yr eglwys.
John Sam Jones
Comments