Enfys yn Nulyn
- garethioan1
- Jul 20
- 2 min read
Pur anaml fyddai’n gwisgo coler glerigol. I fod yn hollol onest, mae’n cyd-fyw yn gysurus mewn drôr gyda’r stola bregethu, heb fyth weld golau dydd ond ar achlysuron arbennig iawn.
Pythefnos yn ôl daeth y ddau allan, cawsant eu rhoi yn y sach deithio yn ofalus, a bant â fi ar y fferi draw i Iwerddon. Yr achlysur arbennig y tro yma oedd gorymdaith Pride yn Nulyn a’r cyfle i gyd-gerdded gyda aelodau Eglwys Undodaidd St Stephen’s Green, Dulyn.
Wedi gwisgo’r dillad parchus, gan ychwanegu y twtw mwyaf llachar a welsoch erioed, dyma ni’n ymuno â’r dyrfa enfawr, gyda baner newydd yr eglwys yn cael ei chario gyda balchder trwy’r strydoedd. Teimlais yn go emosiynol wrth i ni i gerdded heibio’r GPO, gan ddychmygu’r gwaed a lifodd ar hyd y strydoedd yma yn ystod Gwrthryfel y Pasg 1916. Ond yr hyn a wnaeth fy nharo fwyaf oedd y nifer o bobl, o weld y goler gron, a ddaeth ataf i ysgwyd llaw ac i’m cofleidio – ond yn bennaf oll, i ddiolch.
Ni welais yr un coler glerigol arall yn cael ei wisgo yn yr orymdaith, ac efallai na ddylai hynny wedi bod yn gymaint o syndod i mi. Prin ddeng mlynedd sydd ers i’r gyfraith gael ei chyflwyno yn Iwerddon i ganiatáu priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw, a phrin iawn yw’r eglwysi a’r capeli sydd wedi dewis cynnig cynnal priodas o’r fath.
Ar y Sul cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn yr eglwys Undodaidd ar gornel St Stephens Green, gyda’r darpar weinidog Gavin Byrne yn pregethu gydag angerdd am gydraddoldeb a chariad. Braf oedd gweld dros 70 o bobl yn troi mewn, gyda nifer ohonynt yn wynebau newydd, a braf oedd cael ychwanegu dwy briodas arall i’r dyddiadur.
Gofynnodd sawl un i mi pam fod eisiau mynd i Iwerddon i orymdeithio, gan bod hawliau gyda phawb nawr a pharti yw’r orymdaith erbyn hyn. Rwy’n fodlon dadlau dros bwysigrwydd yr orymdaith a pham bod angen i ni i gyd-gerdded gyda’r gymuned LHDT+, a hynny er mwyn dangos ein cefnogaeth a’n cariad tuag atynt. Oes, mae gan bawb yr un hawliau dynol nawr, ond gwyddom hefyd pa mor fuan y gall rhain ddiflannu. Does ond angen un arlywydd gyda agweddau negyddol i’r hawliau hyn i gael eu herydu dros nos.
Ond er bod yr hawliau yn bodoli, mae gan yr enwadau crefyddol ddewis – dewis i ddilyn dysgeidiaeth Iesu a charu ein cymydog, gan gynnig yr un gwasanaeth a statws i bawb. Ceir dewis hefyd i beidio a chynnig cydraddoldeb o fewn eu hadeiladau, i gynnig rhywbeth eilradd i rai, rhywbeth hanner ffordd efallai, fel bendith ond nid priodas. Ceir dewis i beidio a chynnig unrhyw beth, i beidio a gwneud cais am drwydded i briodi pawb yn gyfartal.
Mae’n rhwydd iawn datgan mai cariad yw sail Cristnogaeth, ond faint sy’n adlewyrchu’r cariad rhyfeddol yma trwy eu gweithredoedd? Ydych chi’n aelod mewn capel neu eglwys sydd wedi dewis peidio gwneud dim? Ydych chi’n gysurus gyda hyn?
Gweithred fach iawn yw cyd-gerdded mewn gorymdaith i ddangos cefnogaeth i’n brodyr a’n chwiorydd. Gweithred fach iawn yw llanw ffurflen i wneud cais am yr hawl i drin pawb yn gyfartal. Gweithredoedd bychain sy’n newid bywydau.
Melda Grantham
20 Gorffennaf 2025

Comments