Gwreiddiau fydd thema encil C21 eleni. Fe'i cynhelir yn Eglwys Crist, Y Bala, Gwynedd, ar Ddydd Sadwrn, 30 Medi 2023 rhwng 10.00yb a 3.00yp. Rydym yn falch o'i gynnal mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cymod.
Byddwn yn bwrw golwg ar wreiddiau C21 yng nghwmni Enid Morgan ac Anna Vivian Jones. Bydd Guto Prys ap Gwynfor a Mabon ap Gwynfor yn trafod gwreiddiau Cymdeithas y Cymod.
Cawn gyfle i fyfyrio ar sail cerddoriaeth yng nghwmni Andrew Sully, cyn rhannu cinio bys a bawd.
Yn y prynhawn byddwn yn trafod 'Gwreiddiau a gweithredu' yng nghwmni panel - Awel Irene (Cymdeithas y Cymod), Gareth Ioan (Cristnogaeth 21) ac Andrew Sully (Cymorth Cristnogol) - a chyfranwyr y bore.
Cost yr encil fydd £25, a fydd yn cynnwys paneidiau a lluniaeth bys a bawd amser cinio. Telir y ffi ar y dydd ond gwerthfawrogir pe byddech yn cofrestru ymlaen llaw drwy anfon gair at cristnogaeth21@gmail.com erbyn Dydd Llun, 25ain Medi.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni.
C21
Comments