top of page
Search

Emosiwn a/neu reswm?

  • cristnogaeth21
  • 12 minutes ago
  • 3 min read

Fel y gwyddom, mae perthynas agos wedi bod rhwng Diwinyddiaeth Gristnogol ac Athroniaeth dros y canrifoedd.

Er imi ystyried athroniaeth yn astudiaeth academaidd glinigol ac oeraidd braidd ers dyddiau coleg, syndod braf iawn oedd canfod ysgrifau diddorol iawn yn y cylchgrawn NewPhilosopher cyn y Nadolig. Roedd y rhifyn penodol hwn yn taflu goleuni ar y tyndra sy’n gallu bodoli rhwng emosiwn a rheswm. Gwelsom wahaniaethau yn hyn o beth ymhlith yr enwadau anghydffurfiol. Ystyriwyd yr Annibynwyr cynnar yn ‘Sentars Sychion’ tan y cyffro ysbrydol yn ystod y Diwygiad Efengylaidd, pan roddwyd mwy o bwyslais ar deimlad ac emosiwn gan y Methodistiaid.

Mae rhai neurowyddonwyr yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd emosiwn. Mae David Hume, er enghraifft, yn honni bod ein hemosiynau yn hanfodol bwysig wrth i ni wneud penderfyniadau tyngedfennol ar groesffyrdd ein bywydau a’u bod yn bont bwysig rhwng ein bywyd mewnol a’n hymgais i gyfathrebu ag eraill. Yn ogystal, gall emosiwn angerddol dros achos arbennig o anghyfiawnder neu annhegwch ein hysgogi i weithredu yn unol â’n gwerthoedd a’n hegwyddorion. Honna Nietzsche bod teimladau ac emosiynau angerddol yn ein galluogi i fod yn greadigol ac yn cyfrannu at ein hunaniaeth a’n bywiogrwydd. Er ei fod yn cydnabod bod rhai adweithiau emosiynol fel dicter a chenfigen yn gallu bod yn beryglus, cred y gallwn sianelu ein teimladau yn y modd orau er lles ein hunain a’r rhai o’n cwmpas.


Prin, ar y llaw arall, yw’r athronwyr sy’n rhoi lle canolog i deimlad. Roedd yr athronydd Almaeneg, Immanuel Kant, yn ddrwgdybus o emosiynau, oherwydd y perygl a’r bygythiad iddynt danseilio neu drechu rheswm. Gall emosiwn ein harwain, ar adegau, i weithredu’n fyrbwyll ac yn ddifeddwl.


Un athronydd a ymgodymodd â’r gwrthdaro rhwng emosiwn a rheswm oedd Bertrand Russell. Roedd ganddo gywreinrwydd deallusol ac yn gwerthfawrogi’n fawr gwerthoedd gwyddoniaeth a rhesymeg. Pan oedd yn iau, bu ei emosiynau yn aml yn drech nag ef a dioddefodd sawl cyfnod o iselder. Fodd bynnag, yn ei lyfr “The Conquest of Happiness” daeth i’r casgliad bod angen defnyddio ein rhesymeg i goncro angerddau hunan-ganolog er mwyn dod o hyd i wir hapusrwydd. Anelodd at gyrraedd cydbwysedd delfrydol rhwng gwybodaeth ac emosiynau cadarnhaol megis anwyldeb a llawenydd er mwyn pwysleisio gwerth bywyd.

A beth amdanom ni? Ydan ni hefyd yn anelu at ddiogelu cydbwysedd iach rhwng rheswm ac emosiwn, neu ydy un yn aml yn trechu’r llall, a hynny tu hwnt i’n rheolaeth ni?


Efallai eich bod chi, fel fi, yn ofnus o nadroedd, hyd yn oed pan nad ydynt gerllaw a ninnau heb ddefnyddio rheswm i drechu ein hofnau. Efallai ein bod, ar adegau, yn ofidus neu’n bryderus pan nad oes rheswm amlwg am hynny. Yn yr un modd, efallai ein bod yn ymateb yn wahanol i lyfrau a rhannau o’r Beibl mewn ffyrdd sy’n dibynnu ar gyflwr ein meddwl neu ein teimladau ar y pryd.


Y gwir amdani yw ein bod yn bersonau cymhleth, yn llawn gwrthgyferbyniadau ac yn gymysgedd o’r ymenyddol a’r ysbrydol. Gall emosiwn a rheswm gyd-gerdded ynom ac yn wir - os ydym yn ofalgar ohonynt - gallant fwydo ei gilydd. Fel Cristnogion, ein nôd yw dilyn esiampl Iesu, a chofiwn iddo ddweud yn yr efengyl yn ôl Mathew mai dyma yw'r gorchymyn cyntaf a’r pwysicaf oll,  “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac a’th holl enaid ac â’th holl feddwl.”


Dyma wahoddiad i ni i gyfuno'r holl ymagweddau gwahanol ynom wrth garu Duw ac i’w defnyddio i fyw mewn ffordd sy’n adlewyrchiad o gariad Iesu Grist atom ni, ‘fel bo i eraill trwom ni, adnabod cariad Duw’.


Gwilym Wyn Roberts Chwefror 1 2026

 
 
 

Comments


bottom of page