Elid am-daw amdanad
I bobl gynefin â thrychinebau mae ambell drychineb yn rhoi gwaeth ysgytwad na’i gilydd i ni. Y dydd Mercher aeth heibio, nodwyd pen-blwydd y danchwa ym Mhwll yr ‘Universal’ yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913: lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn. Y dydd Mercher sy’n dod, aeth 60 mlynedd heibio ers llithro rhan o’r domen lo yn Aberfan ger Merthyr Tydfil, gan ddinistrio tai a chladdu rhan o Ysgol Pant-glas. Lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion yn y trychineb hwnnw.
Wedi’r naill drychineb a’r llall trawyd Cymru â mudandod trwm, fel y trawyd beirdd Cymru gan farw Llywelyn ar 11 Rhagfyr 1282. Yn ein hen lenyddiaeth (ar wahân i’r Beibl efallai) y ceir y mynegiant gorau o’r mudandod llethol hwnnw a ddirwasgodd ein cenedl ym mis Hydref 1913 a 1966:
Stafell Gynddylan ys tywyll - heno
Heb dân, heb wely;
Wylaf wers, tawaf wedy.
Stafell Gynddylan ys tywyll - heno
Heb dân, heb gannwyll;
Namyn Duw pwy a’m dyry pwyll.
Stafell Gynddylan ys tywyll - heno
Heb dân, heb oleuad;
Elid am-daw amdanad.
Yn gymysg â’r ing a’r gwewyr a ddaw yn sgil pob trychineb y mae’r syndod am fawredd haelionus y galon ddynol. I Senghennydd ac Aberfan, ac i bob man lle bu trychinebau tebyg yn ddiweddarach, llifodd rhoddion o bob cwr o’r byd, a chan bob gradd o bobl, i geisio cynnal a chefnogi’r galarus.
Ond, saif angen dyfnaf y bobl rheini sydd yn weddill wedi’r trychineb yn gwbl tu hwnt i allu arian i’w sicrhau. Y gymwynas fwyaf a allwn â phobl heddiw - sydd megis pobl Senghennydd 1913 ac Aberfan 1966 - wedi eu hamgylchynu â diflastod a thorcalon, yw troi ein cydymdeimlad yn eiriolaeth.
Awgrymog iawn yw’r linell: Elid am-daw amdanad. Os deallais y linell yn iawn, gellid ei haralleirio fel hyn: ‘deled mawr ddistawrwydd i’th amgylchynu’. Ie, mawr ddistawrwydd gweddi, a distawrwydd sylweddol sicrwydd ffydd.
Elid am-daw amdanad. Boed i ni heddiw droi ein cydymdeimlad â phobl Gaza yn eiriolaeth; troi ein cydymdeimlad â’r bobl sydd yn dioddef yn sgil y rhyfela yn yr Wcráin yn eiriolaeth; troi ein cydymdeimlad â phobl Haiti, Burkina Faso, Gogledd Swdan, Mali, Niger, Syria, Yemen, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Afghanistan, Ethiopia, Somalia a Myanmar yn eiriolaeth, er mwyn iddynt ymdeimlo â choflaid cariad tragwyddol ein Duw. Estynnwn i Dduw'r hawl i ddefnyddio ein gweddïau gwael yn gyfryngau da i fynegi a gweithredu ei dosturi diwaelod yntau. Eiriolaeth ddaw â ni allan o ddryswch mawr ein prysuro gwyllt i ymateb a gweithredu. Trwy eiriolaeth sylweddolwn bwysiced yw’n rhan ni yn yr ateb.
Y mae llawer yn dweud, “Pwy a ddengys i ni ddaioni?” (Salm 4:6a BCNd ) Her i arall sydd gan y llawer, gan edrych o’u hamgylch yn rhan gyntaf yr adnod hon: PWY?
Gall troi cydymdeimlad yn eiriolaeth ein symud o’r PWY? i fedru cynnig ein hunain i fod yn gyfrwng ateb. Sylwch ar bwyslais yr ail hanner: Cyfoded llewyrch dy wyneb arnom, ARGLWYDD. (Salm 4:6b BCNd )
Eiriolaeth, nid cydymdeimlad sydd yn amlygu llwybr ymgysegriad. Down o afael ryw rith/ o grefydd, heb ei grym (Dafydd Morris, 1744-91; CFf 291) dim ond i’r graddau yr offrymwn weddïau â llwyrach ymgysegriad ynddynt. ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb (WM).
Elid am-daw amdanad. Dylid cofio hefyd, nad pob trychineb sydd yn cael sylw’r cyfryngau. Mi gredaf fod y bardd Huw Jones yn codi cwestiwn pwysig, a’r cwestiwn hwnnw fydd yn cau pen y mwdwl ar y myfyrdod hwn:
A yw cannoedd o gyrff
Yn ein brawychu’n fwy nag un?
Oes rhaid i’r ddaear symud
Cyn ysgwyd ein bywydau ni?
(Barddas. Rhif 205-Mai 1994)
Elid am-daw amdanad.
Owain Llŷr Evans
18 Hydref 2026

Comments