top of page

EIN CAETHIWED?


 Cefais y fraint o dreulio’r diwrnodiau diwethaf yma yn Nhrefeca efo eglwysi adran Ewrop CWM (Council for World Mission) yn paratoi ar gyfer y cynulliad byd-eang fydd yn cael ei chynnal yn Durban, De Affrica ym mis Mehefin.

Roedd materion mawr y dydd ar yr agenda – cawsom drafodaethau am ryfeloedd a militariaeth ;am sustemau anghyfiawn a’n rhan yn y diwydiant caethwasiaeth ; hyn ynghyd a newid hinsawdd a’r argyfwng amgylcheddol. Fel eglwysi Ewrop cawsom ein dwysbigo gan ein cyfrifoldeb ni fel gwledydd cyfoethog am nifer o’r materion hyn fel y gwledydd sydd wedi bod ac sy’n dal wrth wraidd y broblem.

Cawsom sgwrs hynod o heriol gan Parch Jasmijn Dijkman o Eglwys Bresbyteraidd yr Iseldiroedd a rannodd ei phrofiad yn protestio efo Christian Climate Action – a sut yr oedd gwneud hynny wedi dyfnhau ei ffydd a rhoi cyfle iddi ymrafael â’r euogrwydd ac hefyd sut oedd gweithredu efo pobl eraill yn cynnal ei ffydd a’i nerth i ddal ati.

Dangosodd luniau o ambell i brotest – cau ffordd efo baner yn annog pobl i ddewis y llwybr cul sy’n arwain i fywyd a chynnal gwylnosau a phrotestiadau tawel neu wasanaethau a gweddiau yn y sgwar cyhoeddus.

Soniodd hefyd am y ffordd yr ydym yn trin Newid Hinsawdd fel problem – ac yn ceisio datrysiadau neu atebion iddo. Nid problem ydyw, meddai  ‘ond predicament – ‘da ni mewn picl a’r unig beth mae’r atebion ‘da ni’n gynnig yn eu gwneud ydi dwysau’r sefyllfa’  a chreu problemau amgylcheddol ychwanegol , sef mwyngloddio lithiwm, wraniwm, cobalt ac ati gan greu llygredd difrifol a gorfodi pobloedd oddi ar eu tiroedd a’u caethiwo mewn tlodi affwysol wrth wneud hynny. Mae’r atebion i gyd yn trio cynnal ein safon byw . Yn  y bon, hynny  yw’r broblem a ‘da ni yn gwbl annalluog i ollwng gafael ac ystyried o ddifri’r hyn sydd angen ei wneud.

 

Soniodd am y sustemau sy’n ein caethiwo – a’r angen i enwi’r euogrwydd a’r ofn sy’n gallu ein parlysu .Cynigiodd y gyffes arbennig yma i ni. ( Fy nghyfiethiad bler i ! )

 

Gadewch i ni enwi a chyffesu

ein hangen, ein heisiau, a’n heuogrwydd

gerbron Duw

 

Cawsom ein geni i sustem ddidostur sy’n rheibio’r byd

a’n gwneud yn rhan o’r difodiant

sy’n diysbyddu’r ddaear a’i thrigolion.

 

Gwyddom nad oes dim yn newid

er bod llawer iawn yn newid mewn gwirionedd.

Gwyddom na allwn roi stop ar y sustem

er bod y dyfodol yn diflannu i lawer.

 

Rydym yn drigolion euog

mewn gwlad euog

sy’n sathru daearolion eraill.

 

Boed i Dduw cariad

ffyddlondeb a gwirionedd

edrych arnom mewn trugaredd

a’n harwain ni – ein gwlad a’n heglwys

ar ffordd bywyd i bawb.

Amen.

 

 Anna Jane Evans.


 

 

Comments


bottom of page