top of page

Eglwys Unedig Gymraeg?

Pwrpas Adroddiad Eglwys yw cofnodi’r gweithgaredd a fu (neu na fu), rhoi darlun o ble mae’r eglwys arni ac wrth wynebu realiti cynnig ymwared. Mapio’r ffordd ymlaen. Dyma ddyfyniad o adroddiad blynyddol capeli Gofalaeth Bro Cerwyn [gogledd Sir Benfro]:


“Un cwestiwn sydd i’w ofyn, a hwnnw yw nid beth sydd yn mynd i ddigwydd ‘i’n capel ni’ ond beth sydd yn mynd i ddigwydd i Gristnogaeth yng Nghymru os nad oes rhywrai yn fodlon sefyll yn y bwlch? Mae’r alwad yn daer unwaith eto, ‘ i gadw y mur rhag y bwystfil a chadw’r ffynnon rhag y baw’. Ond chaiff hynny byth ei wireddu tra bod pawb yn ‘cwato’ yn ei gwtsh bach ei hunan gan ddisgwyl ar Dduw... tra bod Duw ar yr un pryd yn disgwyl arnoch chi.”


Cyplysu’r lleol â’r cenedlaethol. Ystyried y darlun ehangach y tu hwnt i’r capel bach sy’n rhygnu arni. Efallai bod yna rywrai sy’n gweld y tu hwnt i’r cwtsh ac yn gweithredu. Ond ma’ nhw’n brin. Dyma ddyfyniad arall gan yr un awdur:


“Mae angen creu cylch o deulu’r ffydd anenwadol wedi ei seilio ar yr hyn sy’n dderbyniol i ni gyd a dechrau o’r dechrau os yw’r dystiolaeth Gristnogol i barhau a ffynnu. Yn fy eglwys newydd i nid gweinidog fydde’r pennaeth ond person busnes ac yna tîm o bobl gydag arbenigedd mewn meysydd arbennig gan gynnwys gweinidog.

Mae’r dydd o wneud gweinidog yn Sioni pob swydd wedi hen fynd.”


Yr hyn y mae hynny’n ei olygu yn ymarferol yw ffurfio Eglwys Unedig Gymraeg, efallai ar ffurf ranbarthol. Gosod enwadaeth naill ochr, nad yw’n golygu dim i’r to iau, a chanolbwyntio ar ddysgeidiaeth Iesu. A chanolbwyntio ar y to iau.


Mae rhywfaint o egin gwyrdd i’w weld yma a thraw wrth i’r to ieuengaf fynychu clybiau hwyl (Ysgol Sul) ond fawr o ddeffroad ymhlith yr ieuenctid. Rhaid wrth frwdfrydedd ac unoliaeth os am greu’r Ail Chwyldro Anghydffurfiol.


Mae’r mwyafrif o’n capeli wedi dathlu eu canmlwyddiant. Dyma chi’r hyn a drefnwyd gan un capel dros bedwar diwrnod yn 1944. Traddodwyd naw o bregethau. Dwy ar y tro.

Dyma enwau’r gweinidogion: J. Huw Francis a Mathias Davies; D. L. Eckley a Joseph James; David Jones a James Davies; H. T. Jacob yn pregethu ar ei ben ei hun ar fore dydd Mercher; wedyn y penllanw yn dilyn anerchiad gan y Parch J. Gari Phillips, Caerlŷr yn y prynhawn ac Emlyn J. Jenkins a D. J. Lewis yn pregethu yn yr hwyr.


Mae’r capel o dan sylw bellach yn cynnal un oedfa’r mis – oedfa gymun. Ni wna’r un o’r 63 o aelodau ddatgan yn groyw y bydd yna ddathliadau 200 mlynedd yn 2044. Does yna ddim gweinidog.


Ond, eto, pwy a ŵyr? Pe bai geiriau’r Gweinidog Anrhydeddus a ddyfynnwyd uchod yn cael eu gwireddu... A gyda llaw mae’r gweinidog hwnnw bedair blynedd yn brin o gyrraedd y cant. Iddo ef mae’r diolch am ffurfio’r ofalaeth o chwech o gapeli ar ddechrau’r ganrif ond sydd yn dri bellach.

 

Hefin Wyn

Comments


bottom of page