top of page

Dyma fy Nghartref

“Ydych chi isio gweld llun o ‘nghartref?”, gofynnodd y gŵr ifanc. Roedd hithau yn anelu am y drws ar ddiwedd y cyfarfod, ond trodd yn ôl. Dangosodd yntau’r llun iddi ar ei ffôn. Roedd yn ymddangos fel diffeithwch anial gydag ambell dwr o rwbel yma a thraw.

 

“Hwnna”, meddai gan bwyntio at domen o frics a llwch. “Hwnna oedd fy nghartref. Daeth y milisia a llosgi pob tŷ yn y pentref. Lladdwyd fy chwaer a’i phedwar o blant bach”. “Beth am dy rieni?”, gofynnodd hithau yn methu gwybod beth i’w ddweud. “Dwn i ddim ble mae Mam. Dw i wedi colli cyswllt”.

 

Mewn ystafell mewn eglwys ym Mangor y digwyddodd y sgwrs, eglwys lle mae criw o wirfoddolwyr yn cyfarfod ffoaduriaid a cheiswyr lloches bob wythnos i gynnig cefnogaeth, cwmnïaeth a chymorth ymarferol i griw sydd wedi glanio o Affrica, y Dwyrain Canol ac Afghanistan ac yn byw ar £70 yr wythnos.

 

O Sudan y daeth y dyn ifanc hwn a Duw a ŵyr sut y cyrhaeddodd dros dir a môr gyda’i Saesneg prin. Mae rhyfel cartref ffiaidd yn rhwygo’r wlad a does neb am ymyrryd na neb yn adrodd y stori.

 

Yn yr un ystafell roedd gŵr hŷn, academydd yn ei wlad ei hun, ar ei ffôn drwy’r nos yn ceisio gwybodaeth am ei deulu wrth i daflegrau lawio ar eu cartrefi. Roedd brawd iddo wedi ei gipio oddi ar y stryd rai wythnosau’n gynt gan swyddogion cudd y llywodraeth ac roedd o a’i deulu’n disgwyl y gwaethaf. Go brin y gwelant ef fyth eto achos dyna mae’r llywodraeth fileinig yn ei wneud efo pobol sy’n gwrthod plygu glin i’r Clerigwyr Shïaidd sy’n rhedeg y sioe.

 

Pobol fel y rhain sy’n derbyn croeso gan yr eglwys hon ydi’r bygythiad mwyaf i ‘ffordd o fyw’ Prydain Fawr yng ngolwg gwleidyddion yr Adain Dde. Yn wir mae gan Kemi Badenoch, sydd a’i bryd ar arwain y Blaid Dorïaidd, y cynllun mwyaf manwl erioed i ddelio gyda’r perygl eithafol hwn, meddai hi.

 

Ond tra pery’r argyfwng Newid Hinsawdd i droi tir sych yn anialdir crasboeth ar yr un llaw a boddi arfordiroedd isel ar y llaw arall, a thra pery tlodi, newyn a rhyfeloedd, dianc bydd pobl - yn eu miliynau, i chwilio am y man gwyn fan draw; chwilio am ryw fath o loches, rhyw fath o ddiogelwch. Wrth gwrs. Beth arall wnân nhw mewn difrif calon?

 

Mewn ysgoldy moel ym Mhen Llŷn dyfynnodd y Dr Gwyn Williams, Chwilog, eiriau Martin Luther King. “All y tywyllwch ddim gorchfygu tywyllwch; dim ond y golau all wneud hynny. Gall casineb ddim gorchfygu casineb; dim ond cariad all wneud hynny”.

 

Neu, fel y dywedodd Iesu yn Efengyl Mathew, “Trugaredd a ddymunaf, nid aberth”.

 

Alun Ffred

13 Hydref 2024

Yorumlar


bottom of page