top of page

Dyma Ddysgais I

Gofynnwyd i golofnydd wsnos diwetha’ pam ei fod ef yn ‘teithio’r wlad ar y Sul yn cynnal oedfaon mewn capeli sydd bron yn wag.’ Wrth i mi ddarllen ei resymeg dros wneud hynny dyma ddechrau hanner amau i mi fod yn un o’r oedfaon roedd yn cyfeirio atyn nhw. Dim ond amau, cofiwch.


A beth sy’n rhyfedd, roeddwn wedi bwriadu anfon gair o ddiolch ato ond wnes i ddim chwaith. Fy esgus dros beidio gwneud oedd fod pethau eraill wedi llenwi fy amser a waeth i mi fod yn gwbl onest, roeddwn yn ofni y byddwn yn mynd dros ben llestri ac yn rhy emosiynol fy ngeiriau. Ond dyma fentro gwneud hynny rŵan - mae yna rywbeth dros bod yn anweledig ddi-enw yn does.


Cerdded i mewn yn hwyr wnes i’r oedfa - roedd yr emyn gyntaf wedi’i chanu a dyma sylweddoli wrth i mi eistedd fod y darlleniad yn dod o Marc 5 ac yn fy nhywys at hanes y wraig oedd â gwaedlif. A dyma styrbio rom bach. Efallai byddai mireinio nghlustiau yn well disgrifiad.


Dyma un o fy hoff straeon am Iesu’n iachau, mae cymaint yn yr hanes hwn fel yr eglurwyd inni. Ond mae rheswm arall pam i mi gael fy sodro y pnawn hwnnw. Mi wyddwn fod yr hanes yn mynd mlaen i sôn am ferch Jairus ac yn anad dim byd arall, yn cloi gyda’r geiriau ‘Talitha Cŵm’. Dim ond dau air ond dau air sy’n golygu cymaint i mi. Dau air sy’n mynd â fi yn ôl i rywle.


Dwi’n cofio’r tro cyntaf i mi eu gweld nhw. Digwydd taro fy llygaid ar y geiriau wnes i am fod y Beibl oedd ar sil y ffenest wedi digwydd agor ar dudalen 1212. Er mod i’n gyfarwydd â hanes iachau ‘merch Jairus’ er yn blentyn doedd y geiriau Talitha Cŵm yn golygu dim i mi. Doedd gen i ddim math o gof amdanyn nhw, geiriau newydd sbon oedden nhw. Ond am ryw reswm es ati yn syth bin i ymchwilio a dyma ganfod mai ‘Cwyd fy merch’ oedd eu hystyr.


Cofiaf y syndod o ddeall hynny. Dyma ddau air roeddwn wir angen eu clywed, dau air oedd yn siarad efo fi ac yn dweud yn glir. “Fy ngeneth, rwy’n dweud wrthyt, cod.” Dau air efo awdurdod heb fod yn awdurdodol, dau air oedd yn rhoi ffydd ynoch fel person, dau air efo anogaeth, dau air efo sicrwydd a diogelwch ynddyn nhw.


Mi es ati wedyn i chwilio mwy gan ddod i ddeall paham fod y geiriau yn ymddangos yn yr Aramaeg. Gwelwyd yr angen i gofnodi yr union eiriau ddywedodd Iesu Grist. Mae na rywbeth mawr yn hynny - oes ddim?


Mae’n siŵr ein bod ni gyd yn cofio geiriau ddwedodd rhywun rhyw dro wrthyn ni. Geiriau sydd wedi serio yn y cof. Geiriau sydd â môr o ystyr yn perthyn iddyn nhw. Geiriau sy’n dod â myrdd o bethau yn ôl efo nhw.


Dyna un o’r profiadau bendithiol ges i yn y capel oedd “bron yn wag” i golofnydd wsnos diwethaf. I mi, roedd y lle’n llawn.


Oedfa oedd yn cyffwrdd yr unigolyn oedd hi, oedfa ddywedodd ‘Talitha Cŵm’ wrthai. Roeddwn angen hynny. Ac ‘mi droes i am adra yn fywiol fodlon fy myd.’


Comments


bottom of page