top of page
Search

Dyfodol Palesteina

  • cristnogaeth21
  • Oct 19
  • 3 min read

Wedi tair blynedd o gyflafan...


1. Wedi i Donald Trump gael ei awr fawr a’i gydnabod yn ‘Feseia’, daeth dyfodol newydd o heddwch: ‘Gwawr newydd Duw’. Ond â fydd cartref diogel i genedl y Palestiniaid?


2. Mae’n her i Hamas hefyd. Wedi’r ymosodiad ar 7 Hydref 2023 a arweiniodd i’r lladdfa fwyaf mewn cyfnod byr a welodd y Palestiniaid erioed, mae gan Israel yr hawl i fyw mewn diogelwch. Methiant trychinebus fu Hamas i’w pobl.


3. I’r Israeliaid ‘gwrth-semitiaid’ oedd Hamas ac yn y pendraw pobl Gasa, a’u dileu yn llwyr oedd yr unig ffordd. Hil-laddiad? Bellach mae unrhyw feirniadaeth ar Lywodraeth Israel mewn unrhyw fan yn ‘wrth-semitiaeth’.


4. Ers 1948 cenedl o ffoaduriaid fu’r Palestiniaid ar draws y Dwyrain Canol a thu hwnt. Gwersyll/carchar ffoaduriad o 2 filiwn fu Gasa ac fe dyfodd i fod yn gartref i genedlaethau o ffoaduriaid, ymgyrchwyr rhyddid ac ymgyrchwyr arfog yn hiraethu am ddychwelyd i’w cynefin. Dyfnder tristwch oedd gweld y miloedd yn cael ‘yr hawl’ i ddychwelyd yn ôl i Gasa – i gymuned o  adfeilion a chyrff o bob oed dan y rwbel. Dim ond 40% o dir Gasa oedd yn dir amaethyddol.Bellach anialwch wedi ei wenwyno ydyw.


5. Mae’r gymuned rhyngwladol, llysoedd rhyngwladol a’r Cenhedloedd Unedig yn credu mai dwy wladwriaeth yw’r unig obaith am ddyfodol cyfiawn a heddychol.


6. Mae cefnogaeth Trump i Netanyahu wedi bod yn allweddol i’r câd-oediad bregus; ac os nad oedd  Hamas yn derbyn yr amodau "...all hell will be let loose in Gasa" meddai cytundeb T a N - grymoedd a phwerau y byd hwn. A dyna ddigwyddodd. Ataliwyd bwyd i Gasa. Lladdwyd mwy ers hynny nag yn y cyfnod rhwng 2023-24.


7. Mae cefnogaeth a thawelwch cenhedloedd eraill wedi bod yn gywilyddus. Rhy hwyr o lawer y bu newid meddwl. Diolch am y miloedd o ymgyrchwyr heddwch, hawliau dynol, a thosturi yn griwiau bychan lleol yn ogystal â’r gorymdeithio mawr byd-eang.


8. Mae’r ‘rhyfel‘ wedi anfon y fasnach arfau byd eang yn wyllt. Aeth trafodaethau di-arfogi i’r gwellt a’r byd yn fwy peryglus ac yn fwy militaraidd nag erioed.


9. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi colli ei awdurdod. Daeth cyfnod ‘wedi’r ail ryfel byd’ i ben gan adael gwacter. Mae cyfraniad elusennol a dyngarol y CU yn rhagori ar y gwaith heddwch ac mae’r Groes Goch, y Cilgant Coch a’r holl elusennau eraill yn bwysicach. Gyda’r ‘trydydd rhyfel byd’ fel pe wedi dechrau a chan nad oes amodau ‘rhyfel cyfiawn’ bellach, does ryfedd fod ymgyrchwyr heddwch yn troi tuag at greu ‘byd di-ryfel’ ?


10. Mae tair ‘prif’ grefydd y Dwyrain Canol wedi bod yn fud. Bu farw gweledigaeth Hans Kung o ‘werthoedd byd eang crefyddau’. Yn Israel prin fu’r sôn am gyfoeth ei hetifeddiaeth byd-eang trwy ei phroffwydi mawr  ‘yn oleuni i’r cenhedloedd’.

A phryd welwyd (ag eithrio mewn grwp rhyng-grefyddol swyddogol parchus) unrhyw arweinydd Moslemaidd yn gyhoeddus (ar gyfryngau gorllewinol) yn ymwrthod â’r eithafwyr o fewn Mwslemiaeth ac yn galw ar eu pobl a’u cenhedloedd i gerdded ffordd ‘brawdgarwch, goddefgarwch a chariad’ Mwslemiaeth?


Llugoer fu ymateb Eglwysi’r byd  – ar wahan i unigolion fel y diweddar Bab Ffransis ac ambell i enwad bychan, hawdd eu datganiadau a chywir eu diwinyddiaeth hanesyddol. Trump sydd wedi llefaru ar ran y Gristnogaeth sy’n mynd i achub y byd. "Os nad yw Eglwys Crist," meddai’r gweinidog o Jerwsalem a osododd fabi dol yn ei breseb dan y rwbel o flaen ei eglwys, "yn barod i sefyll ag un llais o blaid  Efengyl Tangnefedd heddiw, Nadolig, pa bryd y gwnaiff hynny?"


Adroddiad gan un o aelodau C21

19 Hydref 2025

 
 
 

Comments


bottom of page