top of page
Search

Dychmygu Yeshua

  • 1 day ago
  • 3 min read

Sut un, ddychmygwch chi, oedd Yeshua bar Yosef? Pwy? Wel, yr athro a’r gweledydd Iddewig o Nasareth a fu’n sefyll cornel gwerinwyr gorthrymedig Galilea un ganrif ar hugain yn ôl. Yeshua bar Yosef, a ddienyddwyd gan awdurdodau Rhufeinig Iudaea am aflonyddu’r boblogaeth yn ystod dathliadau’r Pasg yn Jerwsalem. Yeshua bar Yosef, y daeth ei ddilynwyr Groegaidd, o glywed am ei Atgyfodiad, i’w adnabod fel y ‘Christos’ – eneiniog Duw.


Dwi’n gofyn gan i mi ddarllen i ffresgo ohono gael ei ddarganfod llynedd mewn bedd Cristnogol cynnar ym mhentref Hisardere, ger tref Iznik, yng ngogledd ddwyrain Twrci. Mae’r ffresgo yn dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif OC ac mae’n un o‘r delweddau cynharaf o Iesu sydd ar glawr i ni.


Mae’r darlun yn delweddu Iesu fel gŵr ifanc golygus, heb farf a’i wallt yn fyr, mewn toga Rhufeinig. Mae’n sefyll yng nghanol pedair dafad ac yn cario pumed, hwrdd efallai, ar ei ysgwyddau. Darlun o’r ‘Bugail Da’ ydyw, delwedd a oedd o gryn arwyddocâd i Gristnogion y cyfnod a oedd yn dioddef erledigaeth lem. Mae’r artist wedi darlunio Iesu yn unol â chonfensiwn artistig ei gyfnod a’i gymdeithas, wrth gwrs.


Pa ddelwedd ddaw i’n meddyliau ni wrth feddwl am Iesu o Nasareth? Efallai fod yna brint siwgraidd yn dod i’r cof o blatiau lliw hen Feiblau Fictoraidd eich plentyndod? Neu ai wyneb Robert Powell welwch chi o’r ffilm Jesus of Nazareth? Yr hyn sy’n gyffredin yn y delweddau hyn a’r miloedd o ddelweddau eraill a ddaw i’n sgriniau ni o chwilota am ddelwedd o Iesu yw eu bod i gyd yn portreadu dyn gwyn Ewropeaidd, iach, cydnerth a golygus, barfog â llond pen o wallt brown hir tonnog. O ie, a phâr o ddwylo glân a thyner.


Dydy’r un o’r delweddau hynny yn cyfleu’r nodweddion ffisiolegol a fyddai’n debygol o nodweddu Iddew ifanc o gefndir cyffredin, crefftwr o bosib, a fu’n byw yn ddigartref a chymharol ddi-faeth am gyfnod o rhai blynyddoedd. Ceir ambell ymgais ddiweddar i geisio cynhyrchu delweddau mwy tebygol, gydag wynebau mwy Palesteinaidd eu pryd. Ac, yn wir, mae yna draddodiad cadarn o bortreadu Iesu fel dyn du hefyd. Dyna wnaeth John Petts yn y ffenest liw a gyflwynodd i Eglwys Fedyddiedig 16eg Stryd, Birmingham, Alabama, yn yr 1960au i gofio am y trychineb hiliol a ddigwyddodd yno.


Oes, mae tuedd i bob diwylliant ddefnyddio Iesu fel drych i’w delfrydau a’u gwerthoedd diwylliannol eu hunain. Ac nid o ran pryd a gwedd yn unig. Mae Christian Nationalists ac Efengylwyr Golud yr UDA wedi hen arfer gosod eu delfrydau hiliol ac ariangar ar ddelwedd o Iesu gwyn breintiedig. Mae eraill yn parhau i ddefnyddio natur wrywaidd Iesu a’r apostolion i gynnal y batriarchaeth o fewn byd a betws. A’r lleiaf ddywedwn ni am y ddelwedd ddiweddar o’r ‘meddyg’ Trump, y gorau. Y cyfan ddweda' i yw bod y delweddau hynny yn cyfleu cysyniadau a gwerthoedd cwbl gyferbyniol i’r portread o‘r Yeshua Iddewig a gyflëir yng nghofiannau’r pedwar Efengylydd.


Fodd bynnag, mae heddiw’n Sul y Drindod, a diddorol efallai yw nodi mai un o’r enwau hanesyddol ar dref Iznik yw Nicea. Dyna lle cynhaliwyd y cyngor arwyddocaol hwnnw yn hanes yr Eglwys yn y flwyddyn 325 OC. Cyngor Nicea a geisiodd ac a lwyddodd i sefydlu credo sylfaenol lled-gyffredin i’r Ffydd Gristnogol – credo a fwriadwyd i wrthsefyll daliadau Arian a’i ddilynwyr ynghylch natur y Drindod.


Gall neb ddadlau nad yw’r gredo wedi bod yn garreg sylfaen bwysig i’r Ffydd Gristnogol dros y canrifoedd. Ond mae’n fy nharo i fod awduron Credo Nicea, yn nhaerineb eu hymgiprys diwinyddol, wedi anghofio cynnwys Efengyl y Bugail Da yn eu dychmygion nhw.

 

Gareth Ioan

31 Mai 2026

 

 
 
 

Comments


bottom of page