Drwy gydol yr Adfent mae Cristnogion yn cael eu hannog i archwilio eu calon a’u cydwybod, ac i ofyn i’n hunain sut rydyn ni’n paratoi i groesawu Crist i’n bywydau?
I Gristnogion, fe ddylai ein ffydd fod yn ffordd weithredol o fyw. Fe ddylai ein bywydau fel dilynwyr Crist gyfeirio eraill at ffordd cariad Duw. Rwy’n gobeithio y bydd pob un ohonom yn gallu cofio am bobl y mae eu bywydau wedi dangos hyn i ni mewn ffyrdd rymus. Mae’n anos gwneud ein ffydd ni yn real ac yn weladwy i eraill yn ein bywydau ein hunain.
Mae cymaint o heriau yn y byd heddiw sy'n ymddangos fel pe baent yn gweiddi am arweiniad a chyfeiriad. Mae’n amlwg iawn bod angen i’r ddynoliaeth ddod o hyd i ffyrdd mwy caredig, mwy heddychlon a llai dinistriol o fyw. Mae rhai o ddadleuon mawr ein hoes – fel y rhai am amddiffyn a sut i gadw’r heddwch, ac yn ddiweddar iawn mae’r drafodaeth ar farw gyda chymorth eraill - yn ein galw i fyfyrio ar sut y gallwn ymgysylltu neu gyfathrebu â’r rhai o’n cwmpas. Mae'n ymddangos yn glir iawn bod lle crefydd yn y sgwâr cyhoeddus yn fregus heddiw. Os yw lleisiau ffydd am fod yn rhan o ddadleuon moesol cyfredol, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd goddefgar,amyneddgar ac adeiladol o siarad.
Yn bwysicach fyth efallai, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o wrando’n dda, gan gynnwys gwrando ar yr hyn y gall Duw fod yn ei ddweud wrthym trwy leisiau eraill o’n cwmpas. Mae’n ymddangos i mi fod angen inni ddysgu ffyrdd newydd o ymgysylltu ag eraill a dangos i’r byd y gostyngeiddrwydd a’r awydd i gyfathrebu ag eraill a ddangosodd Iesu i ni.
Efallai mai rhan o lawenydd a gobaith y Nadolig yw ei fod yn ymwneud â Duw sy’n siarad â ni mewn ffyrdd y gallwn eu deall. Mae genedigaeth Iesu yn enghraifft wych o hynny. Mae’r Nadolig yn ein hatgoffa nad yw Duw ym mhell nac yn anghysbell. Yn llawen mae'n dweud wrthym ei fod yn ein caru ni ac yn cynnig bywyd newydd a dechreuadau newydd inni.Wrth i ni felly baratoi i ddathlu genedigaeth Crist, rydyn yn cofio'r rhai sydd wedi ac yn dangos i ni ac yn dal i ddangos i ni sut i fyw'n ffyddlon iddo Ef.
Mae cymaint o ddarlleniadau enwog yr Adfent yn tynnu ar yr ysgrythurau Hebraeg, yn ogystal â'r Testament Newydd .Clywn am broffwydi a feiddiai godi llais yn erbyn diwylliant eu hoes, gan leisio geiriau gobaith ac anogaeth, gan atgoffa pobl nad yw Duw erioed wedi cefnu ar ei greadigaeth.Yn yr Efengylau, clywn am y rhai a oedd yn barod i groesawu genedigaeth Iesu: mae’r bugeiliaid yn ein hatgoffa o’r rhai sy’n edrych am arwyddion o bresenoldeb Duw, ac yn barod i glywed lleisiau angylion. Rhoddodd Ioan Fedyddiwr ei fywyd i gyd i ddweud newyddion da Duw wrth eraill, hyd yn oed pan oedd hynny yn amhoblogaidd. Clywodd Mair a Joseff alwad gan Dduw ac ymateb i’r alwad mewn gobaith a ffydd.
Mae'r goleuadau Nadolig o'n cwmpas yn y tymor hwn yn arwyddion effeithiol o neges ein ffydd i ni ac i’r byd. Maen nhw’n adrodd am “y goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.”
Mary Stallard, Esgob Llandaf
Comments