Duw'r Atgyfodiad
- 2 days ago
- 3 min read
Mae’n Sul y Pasg – uchafbwynt y calendr Cristnogol – ac mae Cristnogion ar draws y byd yn dathlu’r Atgyfodiad mewn llawenydd a diolchgarwch. Bydd modd a ffurf ein dathlu yn amrywio’n fawr yn ôl arferion ein hamryfal draddodiadau. Mae’n bosib bod yr hyn yr ydym ni’n ei ddathlu hefyd yn amrywio o ran dealltwriaeth, dehongliad a phwyslais.
Mae Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn gymdeithas gynyddol anghrediniol o hanfodion Cristnogaeth. Mae’r anghrediniaeth honno’n aml wedi ei seilio ar y duedd i ymwrthod â ‘gwirionedd hanesyddol’ nifer o ddigwyddiadau canolog y Ffydd fel maen nhw’n cael eu disgrifio i ni yn y Testament Newydd. Fel y nodais mewn e-fwletin yn ystod tymor y Nadolig, mae rhai’n ymwrthod â Christnogaeth yn syml oherwydd eu amharodrwydd i dderbyn Straeon y Geni fel ffeithiau hanesyddol – heb weld prydferthwch, gogoniant a gwirioneddau eu mythos. Onid felly mae hi hefyd yng nghyswllt yr Atgyfodiad?
Mae’n fy nharo i mai un o gyfrinachau tawel Cristnogaeth yw’r amrywiaeth o ddehongliadau sydd gennym ni o’r digwyddiadau ysgytwol a gofnodir iddyn nhw ddigwydd yn dilyn croeshoeliad Iesu o Nasareth. Cred rhai iddo atgyfodi’n gorfforol, wrth gwrs. Dyna’r dehongliad uniongred. Cred eraill mai rhyw lun ar atgyfodiad ysbrydol a fu, ac i Iesu ymddangos yn rhithiol i’w ddisgyblion a’i ddilynwyr. Mae hyd yn oed cofnodion gwahanol ac amwys y bedair efengyl yn amrywio yn hyn o beth.
Ein cofnod cynharaf o rywun yn cael profiad o’r Iesu atgyfodedig yw adroddiad Paul yn ei lythyr at y Galatiaid o’r hyn a ddigwyddodd iddo ar y ffordd i Ddamascus – i Dduw ddatguddio Iesu iddo fel y Crist. Yn ei lythyr cyntaf at yr eglwys yng Nghorinth mae Paul hefyd yn nodi’r hanesion a rannwyd yn yr Eglwys Fore am ymddangosiadau Iesu i’r disgyblion a’r dilynwyr. Â ymlaen i nodi bod ei brofiad ysbrydol ef, ei dröedigaeth ef, ar yr un gwastad a phrofiadau’r apostolion eraill.
Sut ydym ni i ddehongli’r atgyfodiad heddiw? Bydd rhai ohonom yn ddigon hen i gofio’r sylw eang a ddaeth i David Jenkins, darpar-esgob Durham, yn 1984 wrth iddo rannu ei farn ar raglen deledu (Jesus: the Evidence) mai nid un digwyddiad fu’r atgyfodiad ond cyfres o ddigwyddiadau a gadarnhaodd ffydd y disgyblion bod grym a dylanwad trawsnewidiol Iesu yn parhau’n bresenoldeb bywiol yn eu profiad o Dduw yn y byd.
Dywedodd y diweddar Esgob John Selby Spong mai modd yw Straeon yr Atgyfodiad, fel Straeon y Geni, i ddilynwyr cynharaf Iesu fynegi’r bywyd newydd a brofwyd ganddynt o ddilyn Iesu, bywyd newydd na gyfyngwyd na’i ddiffodd gan ei farwolaeth a’i gladdedigaeth. Roedden nhw’n parhau i brofi presenoldeb Iesu yn eu bywydau beunyddiol nhw eu hunain.
Deil i diwinydd Richard Rohr bod yr un profiad ar gael i ni heddiw,
“Does dim angen i chi aros am farwolaeth i brofi atgyfodiad. Gallwch chi gychwyn atgyfodi heddiw ac yfory... Mae atgyfodiad yn digwydd bod tro yr ydych chi’n dangos cariad at rywun er nad oedden nhw’n gariadus iawn tuag atoch chi. Yn y foment honno, rydych wedi eich cyfodi o blith y meirw.”
Yn oes anghrediniaeth, gwyddom fod llawer ohonom yn ei chael hi’n amhosibl i ‘gredu’ yn atgyfodiad corfforol Iesu. Naid o ffydd yw hynny, mae’n siŵr. Efallai nad ydym ni chwaith yn barod i gymryd y naid honno o ran ‘credu’ yn atgyfodiad rhithiol Iesu. Ac mae’n bosib ein bod yn amau mai rhyw brofiadau sy’n deillio o argyfwng seicolegol yw profiadau ysbrydol dwfn rhai credinwyr.
Ond tybed na allwn ystyried bod y Duw sy’n ein hannog i edifarhau, maddau a chymodi – Duw’r Creawdwr egnïol sy’n gwneud pob peth o’r newydd trwy ei gariad dwyfol – yn ein hadfywio, ein hadnewyddu ac yn ein hatgyfodi’n barhaus. Mae hynny’n werth ei ddathlu’n llawen a diolchgar, onid yw?
Gareth Ioan
Sul y Pasg, 5 Ebrill 2026
Jenkins, D., ‘The Calling of he Cuckoo’, Continuum, Llundain (2002).
Spong, J. S., ‘Why Christianity must Change or Die’, HarperSanFransisco, Efrog Newydd (1998).
Rohr, R., ‘The Universal Christ’, SPCK, Llundain (2019).

Comments