top of page

Drama'r Nadolig

Mae’n debyg mai’r Sul diwethaf oedd Sul Drama’r Geni i’r rhan fwyaf o’r eglwysi. Yn sicr, fel yna roedd hi acw a’r fintai o fugeiliaid ac angylion mor ddiniwed a direidus ag erioed.


Ymhlith y cast eleni roedd gennym un bugail bach oedd eisiau bod yn angel hefyd. Ac felly, dyma fo’n lleisio geiriau’r ddwy rôl gan siarad efo fo’i hun a ninnau wrth fynegi rhyfeddod y bugail a neges llawenydd yr angel. Roedd yno ryw ddoniolwch o glywed bachgen bach yn ei wisg fugeiliol yn dweud wrthym mai angel oedd o. Ond roedd yn mynegi rhyw wirionedd hefyd, mae’n siŵr gen i.


Llwyddodd y doethion - a’r gwragedd doethach (oedd wedi dewis anrhegion llawer callach i fabi bach nag aur, thus a myrr) - i gario 'mlaen efo’u sgript er gwaetha’r giamocs llwyr oedd yn digwydd o’u blaenau. Roedd Mair, Joseff, y bugeiliaid a’r angylion wedi penderfynu bod y stabl yn llawer iawn rhy lân a thaclus i fod yn stabl go iawn, felly roeddynt wedi mynd ati i luchio’r gwair allan o’r preseb i wneud y lle’n flerach a llai clinigol. Roedd rhyw ddoniolwch a gwirionedd yn hynny hefyd. Rhybudd, efallai, i ni beidio sentimentaleiddio’r stori, gan golli grym yr her y mae’n ei roi inni wrth wynebu tlodi byd.


Tua diwedd y gwasanaeth cawsom ymweliad arbennig gan Gabriel – mewn siwmper Nadolig hynod debyg i’r siwmper y bu Herod yn ei wisgo llynedd! Roedd hynny hefyd yn ddoniolwch ac yn wirionedd. Mor aml y mae Herod yn cuddio yng ngwisg y clown – ond onid oes potensial angel yn Herod hefyd? Tybed?


Yn sicr, nid dod atom mewn tinsel ac aur y mae angylion heddiw. Fe ddown atom pob tro y cawn ein cyffwrdd, naill ai gan ein gilydd neu gan ddieithriaid llwyr. Onid yw Duw Emaniwel wrth ein hochr bob munud awr? Un o’m hoff adnodau ydi Hebreaid 13:2 – ‘...mae rhai pobl wedi derbyn angylion i’w cartrefi heb yn wybod’. Roedd y gwirionedd hwnnw i’w weld a’i deimlo ynghanol doniolwch a diniweidrwydd y ddrama.


I gloi, cawsom ddeuawd hyfryd yn canu geiriau pwerus Brigyn am y rhai sy’n gwybod fod y neges yn fwy na geiriau, mai o’r tywyllwch ddaw y wawr ac mai’r miwsig ddaw a’r muriau i lawr. Daw’r awr i ninnau ganu Haleliwia!


“Mae’r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth ... achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni...” (Eseia 9: 2-6)


Boed felly i bob un o ddarllenwyr yr e-fwletin heddiw! Nadolig llawen i bob un ohonoch!

bottom of page