top of page

Sut mae creu chwyldro?

Mond mater o amser oedd hi cyn i’r anorfod ddigwydd. Iddynt gwrdd ill tri. Dod ynghyd yn yr un lle.


Neu falle doedd hi ddim. Doedd dim angen iddynt ddod ynghyd. Yn y cnawd, hynny yw. Yn yr un lle. Pe baent yn awyrennau mi fydde olion eu ffrydiau egni’n dangos bod llwybrau eu dychymyg eisoes yn hedfan tuag at yr un bydoedd newydd. Yn tarfu ar draws yr un ffurfafen o wydr. Yn cyd-Fanksyo cwestiynau dim-anwybyddu ar draws nenfwd unffurf-unlliw y genedl anial.


A dyna beth oedd hi, wrth gwrs. Tir anial. Gwlad farw. Tiriogaeth ddiffrwyth o amgylch eglwysi’r dimdod. Y dim-yw-dimdod. Beddau’r proffwydi yr oedd eu henwau’n goleuo dim mwy na’r gobaith o ryddhad un-diwrnod-y-flwyddyn o gaethwasiaeth yr hierarchaeth hollalluog, holl bresennol.


A drannoeth y ffair? Pen tost, glei. Tragwyddoldeb ohono. Hyd y Diwrnod-y-Flwyddyn nesa. A’r Diwrnod-y-Flwyddyn nesa. A’r Diwrnod-y-Flwyddyn nesa.


Dewch i mewn i’w byrth â diolch. Diolch am beth?


Dewch i mewn i’w byrth, te. Pam? I beth?


Dewch! I dwp-fwmian a mud-wrando? I blygu pen i’r Hollalluog a Holl Hollalluogion eu Holl, Holl drefn?


A’r nos a fu a’r tywyllwch a fu. Dim sôn am fore. Dyna’r drefn.


Sut mae dianc o gapel gorffwys difrawder (sef cracrwydd wedi’i feddal-dreiglo hyd diddymdra)?


Tybed pa mor agos at genesis eu chwyldro y gofynnodd y tri, yn eu tro, y cwestiwn hwnnw? Sbel, sbel cyn iddynt gwrdd, wrth reswm. Mae hi’n gwestiwn twp, wrth gwrs. Rhaid wrth awydd i weithredu. Rhaid wrth ewyllys i ddianc. Ond, dyna ni. Yn amlach na pheidio cwestiwn ry’ ni’n tybio nad oes pwynt ei holi yw’r union gwestiwn sydd angen ei holi. Y cwestiwn sydd yn cadarnhau’r awydd i weithredu. Yn rhyddhau’r ewyllys i ddianc. Yn galluogi dianc i droi’n ddarganfod. I holi cwestiynau mwy a mwy. A mwy a mwy o gwestiynau.


Wedi dod ynghyd yn yr un lle – heb ddeall, bid siŵr, eu bod eisoes wedi dechrau ateb – dyma nhw’n holi i’w gilydd: sut mae rhyddhau egin bywyd o groth mam farw? Sut mae dechrau chwyldro?


A dyma nhw’n gweld bod rhaid iddynt gael cefnogaeth. Sêl bendith. Pwysigion. Pwyllgorau. Ac arian. Llond loteri ohono (’sdim byd yn bosib hebddo). A dyma nhw’n cael cwrdd ag uchel swyddog. A dyma nhw’n dweud eu bwriad. Yn rhannu â’u cyfaill newydd eu brwdfrydedd. Eu hawydd i newid pethe. I greu o’r newydd. A dyma’r uchel swyddog yn holi iddynt am y ‘creu’. I ddisgrifio’n fanwl – 'mhen blwyddyn – ‘mhen tair – yr allbynnau oll. I restru’n gymen y dangosyddion i gyd. A...


Na. O barch i Howel, Daniel a Wil, dim rhagor o ffwlbri. Beth bynnag am y gweddill, dwli dwl yw’r paragraff diwethaf. Fel y gwyddom oll, nid fel 'ny y bu!


Halelwia!


bottom of page