top of page

Dilyn y Dorf

Mewn pentref hardd a heddychlon yn Llydaw yr oeddem ni pan glywsom y newyddion ysgytwol am yr ymosodiadau ar ddosbarth dawns yn Southport ddiwedd mis Gorffennaf, lle trywanwyd tair merch i farwolaeth, sef Bebe King, 6 oed, Alice Dasilva Aguiar, 9 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed. Gweithred ddisynnwyr ac annealladwy, na allwn amgyffred  ei heffaith ar y gweddill a anafwyd, ar deuluoedd y tair a fu farw, ac ar y gymuned yn gyfan.


Er i’r cyfryngau bwysleisio mai o Gaerdydd yr oedd yr ymosodwr yn wreiddiol, roedd twyll-wybodaeth bwriadol yr aden dde ar-lein yn ddigon i godi ias ar y mwyafrif ohonom, gan y gwyddom fod anfodlonrwydd a dicter yn erbyn mewnfudwyr yn mudferwi yn ein cymdeithas ac yn barod i ffrwydro. Roedd y delweddau o’r terfysgoedd a ddilynodd yn waeth nag yr ofnwyd. Am wythnos gyfan gwelwyd ymosodiadau arswydus ar unigolion, arfosgiau ac ar westai a oedd yn lletya ceiswyr lloches.


Bu’r Llywodraeth yn chwim i ymateb, ac ymgasglodd miloedd o bobl ar hyd a lled y wlad i amddiffyn hawliau a bywydau'r mewnfudwyr. Cododd eglwysi o bob ffydd eu llais hefyd, gan uno i gondemnio'r casineb a’r trais, ac i ymbil ar y troseddwyr i ystyried canlyniadau eu gweithredoedd ar eu cymuned. Ymdawelodd y terfysg, a daeth gobaith mai daioni a phrotest di-drais sy’n ennill y dydd.


Pan oeddwn yn ifanc ac yn dechrau cael fy llethu gan anghyfiawnderau’r byd, ceisiai  fy nhad  fy helpu i chwilio am arwyddion o ddaioni a gweithredoedd caredig. Dyw hynny ddim bob amser yn hawdd, gan eu bod yn tueddu bod yn anweledig ac anfesuradwy. Daeth rhai unigolion â goleuni i ni'r haf hwn, fodd bynnag.

 

Meddyliwn am yr adeiladwyr hynny yn Southport a ddaeth at ei gilydd i atgyweirio'r mosg a niweidiwyd. Cofiwn am y caplan hwnnw ac aelodau ei eglwys yn Sunderland a hebryngodd nyrsys du i’r ysbyty lle roeddent yn gweithio, cymaint oedd eu hofn i gerdded yno yn ddiamddiffyn. Diolchwn i’r imam o Lerpwl, Adam Kelwick, a aeth gydag addolwyr o’r mosg i rannu bwyd gyda’r terfysgwyr a oedd yn targedu eu man addoli. Dyma weithredoedd i mi sy’n ymgorffori'r ysbryd Cristnogol: cyd-gerdded gyda’r rhai dan orthrwm ac estyn llaw i’r rhai sy’n dymuno ein niweidio.


Pan gynigiodd yr imam fwyd i’r grŵp oedd yn protestio y tu allan i’r mosg, gwrthodasant ei dderbyn ond  parhaodd i wenu arnynt  yn gynnes nes bod un o’u plith yn ildio. Y canlyniad oedd iddynt rannu'r bwyd a rhannu sgyrsiau. Y peth rhyfedd oedd nad oedd un ohonynt yn gallu esbonio pam yr oeddent yn protestio yn y lle cyntaf. Beth oeddent yn ei wneud, felly?Dilyn y dorf? Derbyn rhagfarnau eraill yn ddi-gwestiwn?


Yr wythnos hon, ymddangosodd bachgen deuddeg mlwydd oed yn y llys. Plediodd yn euog i daflu cerrig at yr heddlu y tu allan i’r mosg yn Southport yn ystod y terfysgoedd. Wrth dderbyn ei gosb, dywedodd y barnwr wrtho, “Roedd y dorf yn wyllt, a dewisaist eu dilyn”. Mae’r term herd mentality yn cael ei ddefnyddio bron bob amser mewn cyd-destun negyddol. Tueddwn ddirmygu’r rhai sy’n dilyn y dorf, a chadw’n hedmygedd i’r rhai sy’n gwrthsefyll y dynfa a dal at eu hargyhoeddiadau eu hunain.


Mae Rowan WIlliams yn ei fyfyrdod o’r enw Herd Mentality yn cyflwyno agwedd ffres ar y term, agwedd a ddaeth i’w feddwl wrth wylio haid o wyddau yn hedfan yn osgeiddig uwch ei ben. Nid grŵp o adar, un yn dilyn y llall, a welodd. Doedd dim un ohonynt yn mynnu mynd ei ffordd ei hun  chwaith. Yn hytrach, sylweddolodd ei fod yn dyst i berthynas ddeallus rhwng yr adar. Roedd y naill yn rhoi lle i’r llall, a phob un yn ymwybodol o symudiadau’r gweddill, yn rhannu’r cyfrifoldeb o arwain, ac yn creu patrwm o harmoni a harddwch.


Awgryma Rowan Williams mai dyma’r nodweddion sydd eu hangen ar ein cymunedau heddiw, o fewn ein heglwysi a thu hwnt. Cymunedau sy’n cydweithio yn sensitif i anghenion eraill, sy’n ofalus o’n gilydd ac sy’n chwilio am gyfleoedd i groesawu pawb i’n plith. Byddai’n dda gallu dangos trwy esiampl i blant a phobl ifanc y dyfodol nad dewis rhwng cydymffurfio a gwrthsefyll sydd o’u blaenau. Mae dewis arall – sef dewis perthyn i gymuned sy’n cydweithio er lles pawb  mewn ysbryd o barch a chariad. 


Anna Vivian Jones

22 Medi 2024

Comments


bottom of page