Roedd e-fwletin yr wythnos ddiwethaf ‘Byddwch ddig!’ yn taro deuddeg imi. Gan ein bod bellach yn derbyn llifeiriant cyson o luniau newyddion o sawl man yn y byd, mae peryg mawr inni golli’r ddawn i fod yn ddig, gan amled y lluniau o drais a chreulondeb a dioddefaint a welwn. Ac y mae rhywbeth dychrynllyd o ddiymadferth yn ein hymateb, dyweder, i bob cyflafan o ladd pobol a phlant drwy saethu a glywn (o America fel rheol), a ninnau’n gwybod na fydd newid sylweddol yn y deddfau i reoli gynnau; ac y bydd cyflafan arall debyg yn hawlio penawdau byrhoedlog yn y dyfodol agos, eto fyth.
O’r holl fannau yn y byd sy’n creu torcalon ar hyn o bryd, efallai mai’r sefyllfa yn Iran yw’r waethaf oll, a hynny am mai ffwndamentaliaeth grefyddol sydd wrth wraidd y cyfan. Mae Affganistan hefyd yn enghraifft arall ddychrynllyd lle mae ‘crefydd’ yn cael ei defnyddio fel rheswm dros orthrymu merched a’u hamddifadu o hawliau sylfaenol. Ond yn Iran, mae marwolaeth Mahsa Amini dan ddwylo’r heddlu fis Medi diwethaf wedi sbarduno ton o brotestiadau gan ferched ifanc yn bennaf na welwyd ei fath o’r blaen. Ac y mae’r protestio hwn – dros hawliau cwbl sylfaenol, fel yr hawl i wisgo penwisg neu beidio – yn wyneb cosbi eithafol a chreulondeb agored o du’r heddlu.
Ond yr hyn sy’n amlwg yw mai cymharol ychydig o ffeithiau go iawn a gawn ni ar ein cyfryngau cyhoeddus, a phrin iawn yw ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn Iran mewn gwirionedd. Dyna pam yr oedd rhaglen Y Byd ar Bedwar yr wythnos hon mor werthfawr a phwysig, a honno drwy lygaid Cymraes sy’n ferch i Iraniad. A dyna pam y mae sianel deledu Al Jazeera mor hanfodol, er mwyn inni gael mwy o ffeithiau am y sefyllfa mewn gwledydd fel Iran ac Affganistan. Mae swyddfeydd Al Jazeera wedi cael eu bomio droeon gan luoedd Israelaidd am yr union reswm nad yw Llywodraeth Israel am inni glywed y gwir am y sefyllfa mewn gwledydd fel Palesteina.
Roedd Shireen Abu Akleh yn un o newyddiadurwyr gorau a mwyaf poblogaidd Al Jazeera, un oedd yn adrodd stori’r Palestiniaid yn eofn a chyson; ac yr oedd wrth ei gwaith y diwrnod y lladdwyd hi, yn adrodd ar ymosodiad gan luoedd Israel ar wersyll ffoaduriaid Jenin. Fe’i saethwyd yn ei phen gan filwyr Israel, er ei bod yn gwisgo gwasgod amlwg gyda’r gair PRESS arni. Ond ymateb cyntaf Israel oedd y gallai fod wedi cael ei saethu gan fwled Balesteinaidd. Erbyn hyn, mae’r awdurdodau Israelaidd wedi cydnabod mai bwled o wn un o’u milwyr nhw a’i lladdodd. Ond oes yna sôn am y mater o gwbwl ar ein cyfryngau ni? Fawr ddim. Dyna pam mae Al Jazeera yn hanfodol.
Roedd swyddfeydd Al Jazeera yn amlwg yn Doha adeg Cwpan y Byd a beth bynnag am wendidau’r drefn yn Qatar – ac y mae yna wendidau yn bendifaddau – o leiaf mae Al Jazeera yn cael lloches yno, ac yn cael llwyfan i gyhoeddi i’r byd beth sy’n digwydd yn y byd Arabaidd.
Golygfa arall a gofiaf o Qatar, fel y gwelwch yn y llun sydd ynghlwm â’r e-fwletin yma, oedd gweld y rhai oedd yn casglu enwau y tu allan i’r stadiwm i gefnogi’r ymgyrch dros hawliau sylfaenol – a hawliau merched yn enwedig – yn Iran. Roedd cefnogwyr tîm pêl-droed Iran yn gwneud llawer gwell sioe na ni’r Cymry y noson honno, o ran canu a siantio a chefnogi eu tîm. Ond pwysicach na hynny oedd yr ymgyrchu dros ryddid yn Iran, a dan y pennawd trawiadol: “Merch – Bywyd – Rhyddid”.
Efallai ein bod ar fai yn rhoi’r pwyslais ar y ddelwedd o Iesu Grist fel y gŵr addfwyn, llariaidd, “cynefin â dolur”, ac y dylem dymheru’r ddelwedd honno gyda’r darlun ohono’n troi’r byrddau ar y cyfnewidwyr arian yn y deml, ac yn eu gyrru allan, gyda’u defaid a’u hychen, o dŷ Dduw. Ac, fel yr eglura Ioan, nid gweithredu byrfyfyr un wedi gwylltio dros dro oedd hyn, ond “gwnaeth chwip o gordenni” – gweithred a gymerai gryn amser – i gosbi’r drwgweithredwyr. Roedd dicter yr Iesu yn erbyn pob math o anghyfiawnder, yn enwedig os oedd pobol gyffredin yn dioddef, fel y dioddefai’r rhai a gollai arian wrth i’r marsiandïwyr hawlio crocbris am gyfnewid arian, wedi cyrraedd man lle nad oedd dim yn tycio ond gweithredu. Yn union fel y mae merched dewr Iran yn gweithredu heddiw, wedi cyrraedd pen eu tennyn, costied a gostio.
Σχόλια