Doedd hi ddim yn siŵr pam iddi fynd. Teimlo bod raid, falla. Wedi dweud hynny roedd hi’n awyddus i gefnogi’r criw annwyl a chlên o Lanwnda oedd wedi gwneud ymdrech i deithio ar hyd lonydd culion Llŷn i Laniestyn y Sul cynt. A dyma hi yno! Bron ei bod ar goll. Roedd hi’n lwcus bod ei ffrind wedi cadw lle iddi ac wrthi iddi isda mi glywodd rhywun yn dweud “fel hyn oedd hi stalwm ma siŵr” neu fel dywedodd y Ficar ar ddechrau’r gwasanaeth “braf gweld yr Eglwys yn llawn.”
Edrychodd ar gylch tlws y celyn ar y fedyddfaen ac ar y canhwyllau ar sil y ffenestri. Mi fuo hi’n stydio rheiny am sbel er mwyn gweld os mai fflamau go iawn ynte fflamau saff cogio bach Fron Goch oedd yn symud a thywynnu drwyddyn nhw. Ond methu’n lân ddaru hi. Felly dyma hi’n troi i edrych ar y to crwn uwchben yr allor. Awyr las o do a’i lond o sêr. A methodd a gwneud pen na chynffon o hynny chwaith. Un o’r nosweithiau hynny siŵr o fod. Ma mhen i fel un letrig ffeiyr ar wal eglwys ddywedodd hi wrthi hi ei hun. Ac yna mi ddechreuodd y gwasanaeth. A hitha’n ymbalfalu am ei sbectol yng ngwaelod ei bag er mwyn gallu darllen y darnau mewn du ar y daflen, y darnau lle mae pawb yn cyd-adrodd mi ffendiodd ei bod hi’n dal i fydylu pam iddi ddod yno. Isio’r profiad? Ia bosib. Isio teimlo’r ias. Isio clywed y distawrwydd rhwng y canu. Ia bosib iawn. Jesd isio bod yn rhan o rwbath. A’r rwbath hwnnw’n draddodiad. Hmm ia. Falla.
Wrth yrru am adra meddyliodd y dylal hi fod wedi gwrando mwy ar y geiriau. Ac wrth fynd am Glynnog Fawr dyma hi’n meddwl mewn sobrwydd be oedd hi’n da yn fanno a’r un abwd ond hi ar y lôn. A wedyn wrth iddi ddreifio dros Bont Gwag y Noe a mynd am dopia Llithfaen a’r glaw yn dechra pigo sgrin y car mi gofiodd mwya sydyn fod yna griw wedi bod yn cynnal gwylnos yng Nghaernarfon. Roedden nhw yn cyfarfod tua’r un pryd â’r Blygain, ac wedi bod yno bob nos Sul ers y dechrau. Ac wrth i’r weipars drio’u gora i hel y glaw i gorneli mi gofiodd be ddwedodd rhywun fuo yng Ngwylnos Pwllheli nos Iau, “falla mai trio tawelu cydwybod ydw i.” Bu’n ystyried wrth fynd am Pistyll os oedd rwbath o’i le ar hynny. O leia roedd o’n gwneud rwbath.
Roedd y lôn yn farnish du wrth iddi yrru drwy Nefyn. Mi fyddai yn ôl fel ag yr oedd o yn y bora. Yn llwyd a’i wyneb yn gwneud chi’n oer jest wrth sbio arno fo.
Ac wrth barcio’r car, gollwng y belt, cloi’r car a cherdded drwy’r twllwch dyma sylweddoli wrth agor y drws cefn mai dianc i’r Blygain ddaru mi.
Esyllt Maelor
Comments