Deillio o'r byd seciwlar
- cristnogaeth21
- May 11
- 2 min read
Mae gen i gof byw o fwynhau cwmni criw o leianod oedd wrthi’n dwrdio’n hallt ar y Pab. Yr oedd sawl un yn hiraethu am gael ei hordeinio’n offeiriad. Pan ofynnais i “Pam ŷ’ch chi’n aros?,” ateb parod un oedd “Mae hi’n eglwys i fi yn ogystal â Fe”.
Yn 1996, yn fuan wedi i mi gael fy ordeinio’n offeiriad gofynnwyd i mi mewn cynhadledd eciwmenaidd i weinyddu’r Cymun, a chefais sioc a syndod o weld dau esgob o Eglwys Rufain yn yr Alban ar eu gliniau o’m blaen yn gofyn am fendith, yn hytrach na derbyn yr elfennau, bara a gwin, y gwaherddid iddynt eu derbyn. Rhyw flwyddyn neu ddwy yn gynharach yr oedd yr oedd un offeiriaid o’r Eglwys yng Nghymru yn hawlio y byddai gwraig o offeiriad yn ‘llygru’r’ allor! Bellach y mae gwragedd dros y byd yn y Cymundeb Anglicanaidd yn offeiriaid; mewn gwasanaeth yn Nhyddewi yn ystod yr Wythnos Fawr cefais yr argraff bod nifer y gwŷr a’r gwragedd yn bur gyfartal.
Mae na lawer o sôn wedi bod am Andrew Tate a’i frawd. Mae eu henwogrwydd hwy yn dibynnu’n llwyr ar ddilorni genethod, merched ifanc a gwragedd yn gyffredinol. Misogyny. Mae llyfr gan yr hanesydd Diarmuid MacCulloch yn dwyn y teitl pryfoclyd Lower Than the Angels - A History of Sex and Christianity, yn dangos sut y mae’r atgasedd at wragedd wedi deillio’n bennaf o agweddau’r byd seciwlar o’n cwmpas. Wnaeth neb feddwl am ‘wasanaeth’ i briodi Cristnogion tan y bumed ganrif, ac yr oedd agweddau rhai o’r ‘tadau’ cynnar yn atgas. Yr oedd perthynas rywiol gyda gwraig yn golygu amhuredd y dylid ei osgoi ac nas caniateid ond er mwyn cenhedlu plant. Dyna sail gwrthwynebiad Eglwys Rufain i reoli cenhedlu.
Y mae’r efengylau yn dangos bod Iesu’n parchu merched, e.e. Mair Magdalen, Mair a Martha, y wraig â’r diferlif gwaed a’r wraig wrth Ffynnon Jacob yn Samaria. Yn Efengyl Ioan mae ’na stori am Nicodemus yn methu deall Iesu, ond y mae’r wraig o Samaria’n ei adnabod yn fuan. Cofier i’r disgyblion fynegi syndod bod Iesu’n siarad â hi o gwbl!
Lleian yn eglwys Rufain, y Chwaer Sandra Schneider, arbenigwraig ar Efengyl Ioan, sy’n dangos bod mwy i’r stori hon na moesoldeb un wraig unigol. Mae Schneider yn awgrymu mai enghraifft sy’ yma o symboliaeth Ioan. Sgwrs drwyadl ddiwinyddol yw hon, a’r 5 o ‘wŷr’ fu ganddi yw’r pum heresi yr oedd y Samariaid yn euog ohonynt yn ôl yr Iddewon. Y mae’r ‘Wraig o Samaria’ yn cynrychioli ei chenedl, ac o bosibl yn dangos bod llawer o Samariaid wedi dilyn Iesu ac yn perthyn i’r cylch Ioanaidd. Roedd Samariaid felly wedi deall Iesu yn gynt nag ambell i aelod o’r Sanhedrin nad aeth i weld Iesu ond yn y tywyllwch.
Mae atgasedd at wragedd yn gyffredin mewn diwylliannau lawer ac mae sawl crefydd yn glynu wrtho. Ystyriwch Afghanistan. Mae e’n amlwg yn yr eglwys. Ond ‘dyw e ddim yn tarddu o’r Iesu.
Enid R Morgan
Comentários