top of page

Dadansoddi llwybr canolog

Flynyddoedd maith yn ôl, fues i’n dysgu Cymraeg Ail Iaith i ddosbarth Blwyddyn 9 (plant 13-14 oed). Ychydig cyn diwedd tymor yr Hydref oedd hi, felly penderfynais wneud rhywbeth Nadoligaidd. Sut i baratoi cinio Nadolig, dyna hi!


Roedd yn rhaid i’r plant gynnig awgrymiadau am beth oedden nhw eisiau bwyta, mewn pedwar,dosbarth: cig, llysiau, trimins a phwdin, a'u hysgrifennu nhw ar y bwrdd du a 'u sillafu'n gywir. Fe gawson ni, sori, ces i dipyn o drafferth gyda grefi, stwffin a threiffl. Roedd gan bob un ohonyn nhw eu ffefrynnau: twrci neu samwn, un yn eisiau cnau rhost) moch mewn blancedi, tato wedi rhostio (a thato stwnsh hefyd!), blodfresych mewn saws gwyn heb gaws (na! gyda chaws!), panas, moron, maip, pŷs.... a sbrowts. Nid oedd neb yn y dosbarth yn hoffi sbrowts, ond 'roedd pawb yn teimlo bod yn rhaid eu cael mewn cinio Nadolig gwerth yr enw.


Rhaid oedd meddwl am sut i baratoi’r bwyd, a dyma ble mae Dadansoddi Llwybr Canolog Critical Path Analysis) yn allweddol. Mae’n syml iawn: peidiwch â choginio popeth ar yr un pryd. Yr elfen sydd yn cymryd mwy o amser na phopeth arall yw’r twrci. Mae’r llwybr canolog yn eiddo i hwnnw. 'Dŷch chi ddim am iddo fod yn sych, ond ar y llaw arall, mae bwyta ffowlyn heb ei goginio ddigon yn beryglus. Mae fy hen lyfr coginio yn awgrymu 25 munud y pwys + 25 munud, nwy 3, iddo, ac wedyn hanner awr o leiaf o orffwys. A tra bo’r twrci yn gorffwys, allech chi droi y ffwrn lan i 200 gradd i orffen y tato rhost, gwneud y grefi, a berwi’r sprowts.


Ond dw i’n ofni bod Llwybr Canolog ein cymdeithas wedi mynd ar goll . Yn syth ar ôl hanner tymor, neu yn hytrach yn syth ar ôl Nos Galan Gaeaf, mae’r ffilmiau rhamantaidd (A Prince for Christmas, Small Town Santa, a Sleigh in the Snow ac yn y blaen) ar y teledu, a hysbysebion di- ri am bersawr, dillad, diod a bwyd. “Does dim sôn o gwbl am ddathlu heb brynu rhywbeth.


Ac erbyn y 26ain o Ragfyr, bydd popeth drosodd, a bydd hi’n amser canolbwyntio ar arwerthiannu Ionawr. Nid felly dylai hi fod. Ar y 25ain, dim ond dechrau mae'r dathlu i bob Cristion. Mae deuddeg diwrnod gyda ni i fwynhau’r Nadolig. Mae ambell un yn dal i ddathlu tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar yr Ail o Chwefror, gwledd sy’n mynd yn ôl i’r drydedd ganrif. Ac os y'ch chi trwy ryw ryfedd wyrth eisiau bod yn ddiwinyddol, amcan hynny yw nodi tymor yr Ymgnawdoliad, Duw gyda ni, Emmaniwel)


Er na wyddon ni'n union pa bryd yn y flwyddyn y cafodd Iesu ei eni, mae dathlu’r Nadolig yng nghanol y gaeaf yn gyfle i ni feddwl am ddechrau taith ein Harglwydd yn y byd. Dyma ei gam cyntaf tuag at y groes a’r atgyfodiad. A thrwyddyn nhw, mae'n newid ein byd ni, a’n perthynas gyda Duw, am byth. Dyna i chi achos i ddathlu!


Mae hi'n Sul cyntaf yr Adfent a phedair Sul i baratoi. Dewch â'ch awgrymiadau am sut osgoi dathliadau'n rhy fuan heb fwrw cysgod dros y cwbl.


Peidiwch, da chi, a ddechrau pethau yn rhy gynnar. Dŷch chi ddim eisiau twrci sych a sprowts oer.


Beti Wyn Holmes

Comments


bottom of page