top of page

Cynnau cannwyll

Criw bach iawn ohonom wnaeth ymgynnull am bump o’r gloch nos Wener i gynnau ein canhwyllau mewn gwylnos i nodi bod blwyddyn wedi pasio ers dechrau’r gyflafan. Cyflawni gweithred syml oedd y bwriad, gweithred i uniaethu ein hunain â phobl Wcráin yn eu galar yng nghanol eu meirw.


Mae’r ffeithiau erchyll bron yn rhy gyfarwydd i ni erbyn hyn ac, yn ôl y gwybodusion milwrol a gwleidyddol, mae mwy o uffern o’u blaenau. Mae nodi blwyddyn ers ymosodiad Rwsia yn cryfhau’r alwad (ddealladwy) o du Wcráin am fwy eto o rym milwrol. Mae’r arwyddion yn awgrymu mai felly y bydd. Mwy o arfau yw’r ateb poblogaidd parhaus i sicrhau buddugoliaeth filitaraidd a gorchfygu’r gelyn.


Ond roedd cynnau cannwyll yn ein huniaethu ni â dioddefaint pobl Wcráin, yn weithred o gydymdeimlo. Nid yn unig roedd yn alwad am heddwch (mae bron bawb am weld heddwch) ond roedd hefyd yn apêl am i drafodaethau heddwch barhau’n gyson ar bob lefel. Yn anffodus, nid oes tystiolaeth fod hynny yn digwydd o gwbl. Arfau, yn ôl pob golwg, yw’r unig opsiwn.


Methodd y Cenhedloedd Unedig yr wythnos hon eto fyth i ddod i gytundeb ynghylch galw am gadoediad. Mae’n ymddangos fod y CU, fel cyfrwng i greu a chynnal heddwch byd, wedi dod i ben. Dyna pam bod mudiadau heddwch yn cynnal ralïau ar Sadwrn olaf Chwefror drwy holl wledydd Ewrop. Dyna pam bod criwiau bychain fel ni yn datgan nad oes ffordd i roi terfyn ar ryfela ond trwy drefnu cadoediad fydd yn arwain at drafodaethau. Ond y gred wleidyddol a militaraidd yw na fydd hynny’n digwydd heb ladd rhai miloedd o filwyr ifanc o Rwsia a Wcráin unwaith yn rhagor. Ac yn y gri am ‘fwy o ladd a rhyfela’ mae rhyfela ehangach yn dod yn ddychrynllyd o agos.


Mae canhwyllau heddwch yn cael eu cynnau yn Wcráin a Rwsia hefyd – er bod hynny’n drosedd yn Rwsia. Mae’r mudiad sy’n cefnogi gwrthwynebwyr cydwybodol i wasanaeth milwrol gorfodol yn Rwsia yn ‘galw ar filwyr Rwsia i beidio cymryd rhan yn y gwrthdaro... ond i wrthod gwasanaeth milwrol a gwneud cais am wasanaeth sifil amgen.’ Mae ‘Mudiad Heddychwyr Wcráin’ hefyd yn galw ‘ar arweinwyr Rwsia a Wcráin a’u lluoedd arfog i eistedd wrth y bwrdd ac i drafod. Dim ond trwy ddull di-drais y gellir sicrhau heddwch yn Wcráin ac ar draws y byd’ meddent. ‘Mae rhyfel yn drosedd yn erbyn dynoliaeth’.


Roedd dal cannwyll heddwch yn yr wylnos yn argyhoeddi rhywun bod yna ffordd amgenach. Mae rhyfela’n gynnyrch methiant gwleidydda ac mae’r byd wedi ei ddal yn nhrychineb y methiant hwnnw.


Wrth edrych ar fflam ein cannwyll roeddem yn ymwybodol o rywbeth arall hefyd. Roedd dydd Mercher yr wythnos hon yn ddydd Mercher Lludw. Mae cyfnod y Grawys yn dechrau gyda gweithred o edifeirwch a’r llwch yn arwydd i unigolion, a chenhedloedd, gydnabod mewn edifeirwch y methiannau dinistriol yr ydym yn rhan ohonyn nhw.


Mae Rwsia a Wcráin yn wledydd crefyddol iawn. Mae 500 o eglwysi Wcráin wedi eu dinistrio yn y rhyfela. Ond nid yw’r fflam wedi diffodd. Ac o olau’r fflam yn Rwsia, gobeithio y daw arweinwyr yr eglwys i sylweddoli bod y fflam yn herio ac yn ymwrthod a’r tywyllwch eithaf sydd ym mhob rhyfel.

bottom of page