Cymuned y Ffordd Syml
Cyn cyfnod yr Adfent ym mlwyddyn yr eglwys daw mis y trawsnewid, mis Tachwedd. Mae rhai eglwysi yn cyfeirio at y cyfnod fel Tymor y Deyrnas, oherwydd mewn pedair wythnos fe fyddwn yn meddwl am ddyfodiad Teyrnas Dduw pan fydd Crist y Brenin yn dychwelyd i ‘farnu’r byw a’r meirw.’
Mae’r mis yn dechrau gyda Gŵyl yr Holl Saint, sydd yn ŵyl i gofio seintiau ddoe a heddiw sydd wedi ein rhagflaenu ac wedi ein cyfeirio i gyfoeth Teyrnas Dduw, teyrnas o gyfiawnder, heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
Fe fyddaf weithiau yn troi at weddïau cymuned o Philadelphia sy’n cael ei hadnabod fel ‘Cymuned y Ffordd Syml’, cymuned a sefydlwyd gan Shane Claiborne a Jonathan Wilson Hartgove. Mae’n cynnwys ‘litwrgi i radicaliaid cyffredin’ ac mae’n ffurf o addoli sydd â chysylltiad â’r hen arfer o weddi ddyddiol, ond sydd bellach yn weddïau ar gyfer pobl brysur gyfoes.
Mae’r gymuned hon yn gweld ei hun fel rhan o’r Fynachaeth Newydd o gymunedau Cristnogol ac yn ddyddiol yn cofio yn eu gweddïau yr Americaniaid sydd wedi bod yn arloesi yn y weledigaeth o fywyd a chymuned Gristnogol. Dyma bobl fel Dorothy Day, Sojourner Truth, Clarence Jordan, Fannie Lou Hamer, Martin Luther King a Rachel Corrie, Maent yn cofio hefyd am ddigwyddiadau hanesyddol sydd wedi newid cwrs hanes America.
Tybed na ddylem ni fod yn gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru trwy gofio’r rhai sydd wedi mynd o’n blaen fel arloeswyr ac sydd wedi gadael gwaddol o fewn yr eglwysi, y genedl a’r gymuned? Hyn, yn ogystal â nodi digwyddiadau hanesyddol sydd wedi newid ein hanes – fel boddi Capel Celyn neu orymdaith y Siartwyr yng Nghasnewydd.
Yn 2016 fe ysgrifennodd, un o’n seintiau cyfoes, sef John Morgans, Pen-rhys, gyfrol am rai o’r Aflonyddwyr a’r Cynhyrfwyr hyn yng Nghymru.’Our holy ground’ oedd teitl ei gyfrol ac y mae John ei hun yn nhraddodiad y tystion radical yng Nghymru – tystion i Dduw y tlawd, yr ymylol a’r difreintiedig. Y mae cymaint o drysorau, meddai John, i’w darganfod o fewn y traddodiad Cymreig i’w dathlu ac i’w dilyn.
A yw’n iawn i awgrymu y byddem yn elwa yn fawr o ddeunydd dyddiol o’r fath i’n gwreiddio a’n cysylltu â’r ardderchog lu o gwmwl tystion sydd yn ein plith ac sydd wedi ein cyfeirio i Deyrnas Dduw, ynghyd â gweld Cymru yn genedl o ‘Gymunedau y Ffordd Syml.’
Beth yw bod yn genedl? Dawn
Yn nwfn y galon.
Beth yw gwladgarwch? Cadw tŷ
Mewn cwmwl tystion.
Ond heddiw ar Sul y Cofio a channoedd yn marw yn ddyddiol ar 'feysydd' a chymunedau ac ym myddinoedd eu gwlad, ni allwn beidio cofio mai yn yr un gerdd y mae’r geiriau:
Beth yw trefnu teyrnas? Crefft
Sydd eto’n cropian.
A’i harfogi? Rhoi’r cyllyll
Yn llaw’r baban.
(Waldo Williams, 1904-71)
Andrew Sully
8 Tachwedd 2026

Comments