top of page

Cymru heb Gristnogaeth

A hithau bellach yn ystadegol swyddogol nad ydi Cymru yn wlad Gristnogol, dim ond mater o amser ydi hi cyn y bydd polisi ar bob lefel o gymdeithas yn adlewyrchu hyn. Fydd penderfyniadau ddim yn cymryd yn ganiataol y gwerthoedd a fu'n rhan o wead y Gymru Gymraeg draddodiadol. Fydd cadw'r Sabath ddim yn ennyn parch otomatig mewn cytundebau gwaith, a gallaf yn hawdd ragweld y bydd byd sydd eisoes yn mynnu gwasanaethau 24/7 yn rhedeg ei gweithlu i'r ddaear, ddydd a nos, heb hawliau na thelerau a fu'n ddisgwyliedig gan gydwybod gynt.

 

Fydd yna yng Nghymru'r menig gwynion y dyfodol ddim rheswm dros roi blaenoriaeth i'r capel, i Gristnogaeth, straeon y Beibl na gweddi, eicon nac amlygiad cyhoeddus na pherfformio emynau.

 

A'r hyn sy'n fy mhoeni i ydi fod capelwyr, yn enwedig, yn bwydo'r syniad fod arddel ffydd yn rhywbeth cwbl amherthnasol i'n bywydau bob dydd. Mewn oes greulon, lle mae byw yn ddrud a bywyd yn rhad, fuodd yna erioed fwy o angen torchi llewys a gweini wrth fyrddau yn null hen ‘ddiaconos’ yr Eglwys Fore. Yn hytrach, mae'r darlun torfol o aelodau capel yn un o bobol dosbarth canol, cyfoethog, wedi ymddeol, yn brolio eu plant am fyw ymhell a rhoi iddyn nhw blant fydd yn cael eu parasiwtio i hen eglwys plentyndod eu rhieni i gael eu bedyddio â pholisi insiwrans Gwalia Wen, sef cadw cysylltiad efo'r hen le. Ond rywsut, nid dod i'r pared mewn dillad parch i blesio Nain a Taid ydi byw bywyd ysbrydol – ac mae pawb yn gwybod hyn mewn gwirionedd, yn cynnwys Mam-gu druan.

 

Mae'r hunan-dwyll, i mi, yn perthyn i'r arfer diweddar o amserlennu i fywyd ysgolion prysur ymweliadau gan storïwyr sydd am gyflwyno'r Beibl i blant. Dw i'n tynnu dim oddi wrth allu ambell gyfarwydd i greu argraff ar ddychymyg plant, ond tybed a aethom i'r ffos o gredu mai straeon i blant yn unig ydi ein llyfr sanctaidd?

 

Wrth gynnal oedfaon, wrth drafod wyneb yn wyneb, mae'n glir nad oes cymaint o ddarllen y Beibl rhwng Sul a Sul erbyn hyn. Hyd yn oed ymhlith y capelwyr hynaf, aeth cofio manylion arholiadau sirol ers talwm, ynghyd â dyfynnu adnodau a phenodau ar eu cof, yn ymarfer dieithr a dibwynt. Ac eto, beth a gynigir i bawb gan y gyfundrefn, ydi plant mewn pyjamas silc â thyweli am eu pennau, neu'n cario tuniau bisgedi euraidd, posh, ac yn smalio bod yn ddoethion.

 

Onid ydi'r Beibl yn llyfrgell o ymatebion gan bobol fel ni, i'w gilydd, i bobol eraill, ac i Dduw, beth bynnag eu profiad a'u dehongliad ohono/i?

 

Dw i'n gwybod i mi fod yn lwcus. Mi gefais Gareth Maelor yn athro Addysg Grefyddol ac yn ffrind wedi hynny. A dw i'n ei gofio'n taranu i mewn yn hwyr i wers ffôrm won Ysgol Dyffryn Nantlle yn 1985 a dweud wrthan ni, rapsgaliwns ysgolion llawr y dyffryn, "Dydi pob peth yn y Beibl ddim yn wir." Yr oedd ail ran i'r datganiad, ac roeddan ni'n gegrwth o syn yn awchu amdano... "Ond”, meddai Gareth, "y mae pob gwirionedd am fywyd yn y Beibl." 

 

Roedd o yn llygad ei le, ac mae dod i werthfawrogi sut y mae sawl mabinogi ledled y byd wedi'u geni o angen ac awydd dwfn i ddeall ein hunain a'n gilydd mor bwysig i ddechrau creu gwell byd.

 

Mae hi'n hanfodol ein bod, ym mhob cyfnod yn. ein bywydau, yn gweld ni'n hunain yn ein llyfr sanctaidd. Os na allwn ni wneud hynny: cytuno, anghytuno, trafod, dadlau ac ymrafael efo Duw, waeth i ni gau ein capeli a godwyd ar adeg pan oeddan nhw'n bwydo, yn llefydd cynnes ac. yn diddanu ac addysgu'n cyndeidiau, a disgwyl i ysgolion a'r wladwriaeth ddweud wrthom beth i'w gredu.

 

Heddiw, pan does yna ddim Beibl ar silff lyfrau y mwyafrif – na chopi chwaith o'r Cwran – mae'n anodd cael amser i ystyried beth ydan ni'n ei gredu. Ychwanegwch at hynny y pethau diawledig sy'n digwydd yn y rhan o'n byd yr ydan ni'n ei galw'n ‘wlad Iesu Grist’, a phwy all feio pobol ddeallus a chwilfrydig am bwyntio at ragfarn y dyfynnwyr llythrennol sy'n disgwyl iddyn nhw dderbyn yn llywaeth. 

 

Pan nad oes sail ystadegol yn y Cyfrifiad diweddaraf tros ddefnyddio efengyl Iesu Grist i benderfynu sut y dylem fyw yn ‘dda’, mae angen i'r rheiny sy'n gweld rhinweddau maniffesto Iesu Grist allu cyfeirio at y testun yn eu byw bob dydd. Heb deimlo euogrwydd. Heb deimlo gorthrwm 'Na'. Heb deimlo'n annigonol ac yn flêr eu hwyneb.

 

A wyddoch chi be? Mae'n efengyl sy'n bod heb orfod cael capel! A does yna neb, hyd y gwela' i, yn bildio capel yn y Testament Newydd.

 

Karen Owen

23 Chwefror 2025

 

Comments


bottom of page