Cyfnewid Cabej
- garethioan1
- Dec 7
- 2 min read
Fe’i galwaf yn Martha. Bob gwanwyn byddwn yn derbyn egin fresych gan ei gŵr ar gyfer yr ardd. Doedd dim trefniant ffurfiol. Dim galwad ffôn nac e-bost ymlaen llaw. Mater o alw heibio o ran cynnal yr hen arfer cyn-deledu o ‘roi tro’ oedd hi a derbyn cwded o’r llysieuyn gwyrdd. Doedd dim angen bargeinio, dim ond bod yn ddiolchgar.
Byddai’r rhan fwyaf o’r cabej yn llenwi ac yn cyrraedd y ford dim ond i mi wneud yn siŵr fod yr ieir bach yr haf gwynion yn cadw draw. Ond rhyw flwyddyn roeddwn inne wedi cadw draw. Roeddwn wedi clywed nad oedd mewn iechyd da ac yn annhebygol o fod yn ffwdanu ynglŷn â’r ardd.
Pan ddigwyddom daro ar ein gilydd cefais stŵr. Er ei fod wedi torri nôl roedd wedi cadw digon o gabej ifanc i’m cyflenwi inne ac eraill. Ond doeddwn i ddim wedi galw heibio. Heb roi gwaedd arno. Fe’m melltithiodd yn garedig. Yn unol â hen ddull y wlad, roedd fy arfer o alw bob gwanwyn wedi’i sefydlu, a doedd dim rheswm i mi roi’r gorau i’r arfer.
Ond daeth tro ar fyd. Cymrwyd ei gŵr i’r ardd dragwyddol gan adael Martha yn weddw. Fy nhro i oedd hi nawr i alw heibio â chwdyn o fresych boliog yn y gwanwyn hwyr. Roedd y croeso yn dwymgalon a’r sgwrs yn ymwneud â Christnogaeth – ei hanfod a’r wedd ymarferol.
Clywswn droeon am yr hanesion hwyliog am ei thad-cu o bregethwr tân a brwmstan yn y Cymoedd. Ac am ddisgrifiadau ei mam-gu ohono pan fyddai’r ‘hwyl’ wedi cydio ynddo. Gwyddwn am ei phererindod hithe (a’i gŵr) wedi symud i’r gorllewin a meistroli’r Gymraeg.
Do bu’r ddau yn mynychu sawl capel yn eu tro. Roedden nhw am glywed y Gymraeg ar ei gorau ac am ei defnyddio. A lle bynnag y byddent fe fydden nhw’n gaffaeliad i’r canu. A’r un mor ddefnyddiol mewn trafodaethau. Medren nhw symud eu teyrngarwch dros dro i gapeli eraill yn y fro am nad oedd ganddyn nhw ymlyniad at yr un adeilad na’r un traddodiad.
Bellach mae Martha wedi canfod ei chartref gyda’r Eglwys yng Nghymru ac yn sôn yn annwyl am y dyrnaid ohonyn nhw sy’n cyd-addoli. Sonia’n afieithus am y ficeriaid a adwaena a dyw doniolwch fyth ymhell o’r dweud.
Ond gwyddwn hefyd bod ei Christnogaeth wedi bod o gymorth iddi ddelio â thrasiedïau yn ei bywyd. Edrydd yr hanesion yn agored. Collodd ferch a bu’r galaru yn hir a thrafferthus.
Yna, rhyw ddiwrnod ar Fynydd Trudos, penliniodd mewn mynachlog. Gweddïodd dros ei merch a chlywodd lais yn sibrwd ‘ma popeth yn iawn nawr’. Ni welodd fynach chwaith ond cododd pwn oddi ar ei meddwl.
Yn ôl yr arfer o gyfnewid wrth ‘roi tro’ cefais focsed o bice ar y mân ffres y bore hwnnw. Y prynhawn hwnnw roedd gen i gyfarfod o aelodau Tasglu Cristnogol Sir Benfro. Am wn i ceisio bod yn Gristnogol ymarferol a llawen yw byrdwn y Tasglu. Paratoad hyfryd ar gyfer y dasg.
Hefin Wyn
7 Rhagfyr 2025

Comments