top of page

Cyfeillgarwch

Cyfeillgarwch

Mae'n Wythnos Weddi Dros Undod Gristnogol. Cyfeillgarwch sy'n gyrru undod Cristnogol, tra'r un pryd cyfeillgarwch yw nôd undod Cristnogol.

Ond mae hynny'n amlwg nag ydy?

A yw 'cyfeillgarwch' yn rhywbeth rhy neis, neis? Onid agape neu koinonia - cariad - yw'r nôd?

A beth am gyfeillgarwch â phobl o ffydd wahanol? Onid yw ceisio cyfeillgarwch rhwng Cristnogion yn rhywbeth mewnblyg ac yn tanbwysleisio cydweithio rhwng crefyddau a grwpiau gwahanol?

Mentraf ddweud fod ceisio cyfeillgarwch weithiau yn anos na charu mewn. Gallaf ddweud fy mod yn caru brawd neu chwaer yng Nghrist heb y bwriad o ymwneud â nhw! Ond i fod yn gyfaill rhaid ymroi i'n gilydd fel yr ymrôdd Y Bugail Da i'w ddefaid (Ioan 10:1-18).

Mae'r defaid yn llochesu, yn aros, yn byw YN y bugail. Y gair yn y Groeg yw menein ac mae'n air pwysig yn Efengyl Ioan (Ioan 1:32; 1:37;13:36; Ioan 15 a Dameg y Winwydden). Mae Ioan yn cysylltu'r menein - yr aros - yma gyda'r syniad o fod yn gyfeillion, o adnabod rhywun, a chael perthynas agos â rhywun.

Mae Dameg y Bugail Da yn dangos cyfeillgarwch sy'n dangos cariad aberthol, ffyddlondeb ac ymrwymiad a hefyd dealltwriaeth a gwybyddiaeth dwfn.

 

Cawn ein galw i berthynas â'r bugail da – ond os mai rhan o braidd ydym nid perthynas unigolyddol yn unig ydi hi – mae na eraill yn y praidd – rhai sydd yn mwynhau yr un berthynas – yr un “aros” ynddo.  Felly mae’r berthynas nid yn unig gyda’r bugail ond hefyd gyda'r rhai eraill y mae'r bugail yn eu galw'n gyfeillion ac mae Ioan 10 yn dangos i ni y fath o gyfeillgarwch y mae Iesu yn ei fodelu, un sy'n anhunanol, sy'n ymrwymo, sy'n deall, sy'n gwybod ac sy'n wirfoddol.

Mae'n berthynas yn ddwy ochrog ( reciprocal ) dau gyfaill, neu dau (neu fwy wrth gwrs!) grwp sydd mewn cytundeb, sy'n unedig. Sy'n barod i faddau yn barod i edifarhau, sy'n barod i gymodi.  Mae perthynas Iesu a Phedr yn esiampl. Pedr oedd yn rhy barod i ddweud heb ystyried – yn fyrbwyll am aros ar fynydd y gweddnewidiad, yn addo aros gyda’r Iesu costied a gostio – ond yn ei wadu wedyn. Mae’r Iesu yn dirion a maddeugar tuag ato, ac fel y gwadodd deirgwaith mae’r Iesu yn rhoi cyfle iddo gyffesu deirgwaith.  Ond mae’r Iesu hefyd yn croesawu parodrwydd Pedr i fentro – mentro cerdded ato ar y mor, mentro ei gyhoeddi yn Grist ,mab y Duw byw.  Mae’n berthynas fyw ble mae na gymodi cyson, maddau llawer a mwynhau cwmniaeth fentrus.

Beth amdanom ni te? Ydyn ni'n barod am hyn?

Wrth gwrs, fe fyddem ni'n anghytuno am bethau bach a phethau mawr. Ond eto i gyd mae gan bob un ohonom bethau i'w derbyn oddi wrth y llall. Meddyliwch am agwedd Paul at yr eglwys yng Nghorinth. Roedd yr eglwys honno yn achosi sawl pen tost iddo am sawl rheswm. Ond beth oedd ei agwedd? "Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi" (1 Cor 1:4). O am gael gras i ymateb fel Paul i Gristnogion sy'n rhoi pen tost i ni! Parhawn i fod yn agored i'r un arall ac yn ddiolchgar amdano/i er gwaetha'r diffyg cydweld ar rai materion.

 

Yn hyn o beth felly, nid yw cyfeillgarwch yn rhywbeth meddal, neis neis, ond mae'n rhywbeth aberthol ac yn ddibynnol ar Ras .Gwelwn yr esiampl orau, yr esiampl perffaith, o gyfeillgarwch aberthol yn Iesu Grist.


" Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau".


Cynan Llwyd ( Ysgrifennydd Cyffredinol Cytun)



 

 

Comments


bottom of page