Mae hi heddiw yn ddiwrnod olaf Wythnos Rhyng-ffydd Prydain, wythnos sydd wedi ei phenodi yn flynyddol i nodi ac i ddathlu y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau rhyng-ffydd trwy’r wlad. Mae’n dechrau ar Sul y Cofio ac yn gorffen heddiw. Er hynny, nid yw’r gwaith yn gorffen – mae hynny yn barhaol trwy gydol y flwyddyn
Eleni, bu’n wythnos bwysig yng Nghymru gan bod Cyngor Rhyng-Ffydd Cymru yn dathlu 20+ ers ei sefydlu. Ie, 20+. A hynny, yn syml iawn, am fod y garreg filltir fawr wedi digwydd yn ystod cyfnod COVID-19 heb i’r un ohonom sylwi. Rwy’n hynod o falch o gael y cyfle i gynrychioli’r Undodiaid ar y pwyllgor ers yn agos i ddeng mlynedd bellach, ac yn gwerthfawrogi’n fawr y ffrindiau agos o bob ffydd sydd gennyf fel cyd-aelodau.
Sefydlwyd y Cyngor yn sgil 9/11 gan nifer fach o bobol. Ond y person a oedd fwyaf cyfrifol oedd y cyn Brif Weinidog, y diweddar Rhodri Morgan. Teimlai’n gryf bod angen cryfhau’r berthynas dda oedd yn bodoli yng Nghymru rhwng y gwahanol gymunedau ffydd, ac nid oedd am weld y berthynas yn dirywio oherwydd y drasedi yn Efrog Newydd. Bu’n ysbrydoliaeth ac yn gefnogwr cryf i’r Cyngor o’r dechrau, fel mae ein Prif Weinidog presennol.
Felly, nos Iau diwethaf daeth dros ddau gant o bobl ynghyd yn Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf yn Rhiwbeina, Caerdydd, i ddathlu. Roedd hi’n noson hyfryd gyda anerchiadau gan nifer o westeion arbennig, canu, dawnsio a drymio, gan orffen drwy rannu pryd o fwyd blasus dros ben wedi ei baratoi gan y gymuned Hindŵaidd.
Agorwyd y noson gan Gôr y Cyngor yn canu detholiad o wahanol ganeuon ‘crefyddol’ neu ‘ysbrydol’ ac yn cael ei arwain gan Natalie Davies o Undodiaid Caerdydd. Cafwyd caneuon o draddodiadau amrywiol – Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Cristnogaeth, Paganaidd, traddodiadau brodorol, yn seiliedig ar y ddaear, Pantheistig a Phanentheistig – y cyfan wedi’u gwau gyda’i gilydd ac yn cyfuno mewn harmoni. Trwy gydol y noson bu canu Gospel Cristnogol, cân gan y gymuned Ba’hai, drymio gan y gymuned Sikh, dawns glasurol Indiaidd a nifer o berfformiadau ac esiamplau o addoliad gan y gwahanol gymunedau.
O ran yr anerchiadau, diolchodd Jeremy Miles AS i’r Cyngor am ei gymorth cyson, ac yn enwedig ei gyfraniad yn ystod paratoi’r cwricwlwm newydd. Cafwyd anerchiad gan Julie Morgan AS a nododd pa mor falch fyddai Rhodri wedi bod o weld sut mae’r Cyngor wedi datblygu erbyn hyn. Bu Jane Hutt AS yn siarad am ei phrofiad hi o gyd-weithio gyda’r Cyngor a pha mor bwysig yw’r gwaith o greu ysbryd o gyfeillgarwch rhwng y cymunedau ffydd o safbwynt y llywodraeth.
Uchafbwynt y noson oedd anerchiad gan gyn-Archesgob Cymru Dr Rowan Williams a fu’n sôn am hanes a chefndir sefydlu’r Cyngor. Mi oedd yn Efrog Newydd pan dderbyniodd yr alwad oddi wrth Rhodri Morgan yn gofyn iddo i ddod i’w helpu, ac mi roedd yn falch dros ben ei fod wedi gwneud hynny.
Bu’n noson fendigedig gyda phawb yn mwynhau yng nghwmni ei gilydd, yn profi cyfeillgarwch, goddefgarwch a chariad at gyd-ddyn, gyda’r cyfan yn achos balchder i’r Cyngor Rhyng-Ffydd wrth weld yr hyn sydd wedi datblygu yng Nghymru.
Melda Grantham
Comments