Tra ar ymweliad ag America sawl blwyddyn yn ôl, treuliais ambell awr mewn mynwent anferth yn Pennsylvania lle claddwyd nifer fawr o Gymry. Roedden nhw wedi croesi’r Iwerydd i weithio yn y pyllau glo a’r chwareli llechi. Oherwydd eu gwybodaeth a’u profiad o’r diwydiannau hynny, roedden nhw yn aml iawn yn cael eu hunain ar ochr y perchnogion a’r rheolwyr yn hytrach na’r gweithwyr cyffredin. Gwnaeth amryw o’r Cymry eu ffortiwn; ac o ganlyniad roedd eu beddau yn y fynwent honno ymhlith y mwyaf a’r crandiaf. Roedd rhai, yn wir, yn debycach i demlau bychain nag i feddau.
Wrth gwrs, mae’r traddodiad i’w weld i raddau yn ein mynwentydd ninnau yng Nghymru. Os yw’r un a gladdwyd ac a gofir yn cael ei ystyried yn ‘bwysig’, yna gorau po fwyaf a’r mwyaf addurnedig yw’r garreg a osodir ar y bedd. Yn ein mynwent leol yng Nghaeathro, dwy o’r cerrig mwyaf – colofnau urddasol yn wir – yw’r rhai ar feddau’r cerddor William Owen (‘Prysgol’), cyfansoddwr ‘Bryn Calfaria’ ac emyn-donau eraill, a’r cerddor cynhyrchiol John Roberts (“Ieuan Gwyllt”), pencampwr y Tonic Sol-ffa a chyfansoddwr yr alaw a ystyrir gan rai fel emyn-dôn orau’r byd, ‘Moab’.
Dau sy’n haeddu eu cofio a’u clodfori yn wir. Ond tybed ydi hi’n bryd inni feddwl o’r newydd beth yw’r dull mwyaf addas i gofio’n hanwyliaid yn nyddiau’r cynhesu byd-eang, a phrinder tir claddu? I ddechrau, onid callach a mwy ymarferol fyddai gosod carreg wastad yn hytrach na charreg ar ei sefyll? Rai blynyddoedd yn ôl, gorchmynnwyd rhai capeli i ddymchwel cerrig beddi simsan a’u gosod i orwedd am resymau iechyd a diogelwch. Aeth rhai cynghorau cymuned ati i osod rhaffau hyll o amgylch y cerrig. Ond o’u gosod yn wastad o’r cychwyn, byddai yna ddim peryg i neb, a byddai’r gwaith o dorri’r glaswellt o’u cwmpas yn llawer haws.
Dim ond un ystyriaeth yw hyn wrth inni wynebu dyfodol ansicr ein haddoldai. Mae’n elfen arall eto i’w thaflu i’r pair wrth inni geisio dod i delerau â dirywiad ein cynulleidfaoedd, ynghyd â phroblem gynyddol y costau cynnal a chadw diddiwedd. Gobeithio y cawn drafod hyn mewn mwy o fanylder yn ein cynhadledd yn Y Morlan, Aberystwyth, ar Hydref 22ain.
Yr hyn a geisiwn anelu ato yw rhai atebion ymarferol i’r cwestiynau sy’n wynebu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru - cwestiynau a phroblemau sy’n pentyrru ac sydd eisoes wedi arwain at gau sawl capel yn ddiangen. Rhaid cael atebion ymarferol cyn iddi fynd yn rhy hwyr, a hynny er mwyn tynnu’r sylw yn ôl at ein priod waith fel Cristnogion, sef rhoi Efengyl Crist ar waith yn ein cymunedau.
Wrth gwrs, efallai y dywedwch mai torri cysylltiad â’r hen drugareddau yw’r unig ffordd i gael dechrau newydd. Torri’r cysylltiad â’r hen adeiladau a chladdu’r holl broblemau sydd ynghlwm â nhw, gan gychwyn o’r newydd mewn lleoliad newydd a chael pawb o bob enwad ynghyd i’r un lle i gyd-addoli.
Ond os mai dyna yw’r ateb, o leiaf mewn rhai cymunedau, yna gorau po gyntaf y gwnawn ni ddechrau cynllunio hynny. Mae digon i’w drafod!
Comments