Cwch i bawb
Faint o ddarllenwyr y neges hon aeth ar fordaith dros wyliau’r haf, tybed? Neu efallai i chi fod allan mewn cwch bychan ar arfordir hardd Cymru, fel y bu i mi fynd â’r wyrion i weld dolffiniaid Ceinewydd ddiwedd Awst. Beth bynnag yw eich profiad o’r moroedd maith mi fyddwch yn ymwybodol mai lle anghysurus a pheryglus yw’r môr mawr ar brydiau. Y lleiaf yw’r cwch y mwyaf yw effaith y tonnau arni, wrth gwrs. Ac fe allwch gael eich hunan mewn dyfroedd dyfnion mewn byr o dro, fel y gŵyr gwylwyr selog y rhaglen deledu ‘Saving Lives at Sea’.
Bu cryn sylw i’r ‘cychod bychain’ yn y newyddion dros fisoedd yr haf – eto fyth. Ni fu taw ar y carfannau hynny ar asgell dde gwleidyddiaeth y DG sy’n tynnu sylw parhaus at y bobl hynny sy’n mentro eu bywydau i groesi’r Môr Udd er mwyn ceisio lloches yn y gwledydd hyn. Fe lwyddon nhw i gipio penawdau’r wasg yn gyson, a hynny er bod niferoedd y rhai a lwyddodd i groesi’r sianel wedi eu haneru rhwng Mawrth a Mehefin eleni pan welwyd 47% yn llai o bobl yn croesi na’r cyfnod cyfatebol yn 2025. Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Gartref, a ryddhawyd ar 27ain Awst, bu lleihad o 50% hefyd yn nifer y ceiswyr lloches sy’n cael eu lletya mewn gwestai, a bu lleihad sylweddol yn yr amser a gymerir i brosesu ceisiadau pobl am loches.
Ond nid oedd hynny’n ddigon o ‘gynnydd’ i’r criwiau o ddynion bygythiol a ymgasglodd yn eu lifrau a’u mygydau duon ger porthladdoedd Dover a Portsmouth y penwythnos diwethaf, gan greu anhrefn ar y ffyrdd a chodi dychryn yn gyffredinol. Galwai’r trefnwyr eu hunain yn Patriot Platform ac o’u gwisg a’u hymddygiad mae’n amlwg mai creu anhrefn, codi ofn a chreu rhaniadau yw eu prif amcan. Does gyda nhw fawr i’w gynnig o ran datrys unrhyw broblem, boed honno’n real neu ddychmygol. At hynny, un elfen o gonsyrn ynghylch y grŵp amheus hwn yw’r honiad ei fod yn fudiad Cristnogol, gyda nifer o’u plith yn llafarganu ‘Christ is King!’ am yn ail â ‘Stop the Boats!’.
Yn sgil y gwrthdystiadau sinistr hyn fe fu cryn feirniadu ar elusen y Bad Achub (RNLI) a hynny am iddi wneud ei phriod waith – sef achub unrhyw un sydd mewn trafferthion ar y môr, pwy bynnag ydyn nhw. Daeth lleisiau eraill i’w hamddiffyn, gan amlygu dewrder ac ymroddiad gwirfoddol rhyfeddol y criwiau bad achub sy’n gwasanaethu arfordiroedd Prydain ac Iwerddon. Gallwch glywed ddatganiad croyw gan Peter Sparkes, Prif Weithredwr yr RNLI, ar wefan yr elusen. Yn y fideo mae’n gofyn i ni warchod rhag camwybodaeth ac mae’n apelio ar y cyhoedd i barhau yn eu cefnogaeth i’r elusen nodedig hon sy’n achub pawb sydd mewn trybini ar y môr yn ddiwahân.
Mae’r Efengylau Cyfolwg yn cynnwys stori am Iesu a’i ddisgyblion yn wynebu amgylchiadau heriol mewn cwch bychan yng nghanol tonnau geirwon a gwyntoedd cryfion – sef yr hanes hynny am Iesu’n tawelu’r storm ar Lyn Galilea. Ers dyddiau’r Eglwys Fore defnyddiwyd y ddelwedd o gwch i bortreadu Eglwys y Crist, cwch yw hwnnw sydd â’i hwylbren yn dynodi’r Groes. Ac ers 1948 dyna yw symbol Cyngor Eglwysi’r Byd.
Yng nghanol yr holl benawdau a’r crochlefain diweddar bues i’n holi fy hun: petai llong yr eglwys yn hwylio’r Môr Udd heddiw a fyddai hi’n cynorthwyo criwiau’r badau achub yn eu cenhadaeth ddyngarol anhunanol? Mae rhywun yn gobeithio’n fawr y byddai hi, achos mae lle i bawb ar Gwch yr Eglwys pwy bynnag ydyn nhw, o ble bynnag maen nhw’n hanu, beth bynnag eu hamgylchiadau, eu crefydd, eu tras neu’u hargyfwng. Mae’n gwch achub trugarog i bawb o bobl y byd.
Gareth Ioan
13 Medi 2026

Comments