top of page

Crynwyr heddiw

Mae trafodaethau Cristnogaeth 21, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn gyfrwng gwerthfawr i edrych ar sut y gallwn fod yn fwy agored i ddirnadaeth ysbrydol yn ein bywydau. Bu’n fodd hefyd i archwilio sut i wneud ffydd yn beth byw a gweithredol, nid dim ond geiriau gwag a hanner bwriad. Mae’r drafodaeth hon yn ganolog i Grynwyr ac mae cael cyfle i gymharu’n profiadau ni â phrofiadau pobl eraill wedi bod yn werthfawr.


Fel cefndir i nofelau Marion Eames ‘Y Stafell Ddirgel’ a ‘Y Rhandir Mwyn’ y clywodd y mwyafrif o Gymry am Grynwyr (Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion) mae’n siŵr. Mae’r nofelau’n portreadu pobl ddwys mewn dillad duon a aeth yn un fflyd i’r America yn y 17G. Tra fo hynny’n wir, i raddau, nid yw’n esbonio’r stori gyfan.


Mae hanes yn tyfu fesul haen. Er y bu i’r Gymdeithas barhau, efallai mai drwy Grynwyr unigol y cafodd y dylanwad mwyaf ar hanes Cymru. Gwnaed hynny wrth iddynt, a’u disgynyddion, dreiddio drwy chwyldro a thwf Ymneilltuaeth a bywyd diwydiannol, gan fod yn weithredol ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol a heddwch. Aeth y Gymdeithas ei hun, yn gyffredinol, drwy haenau o ddatblygiad – o dân a brwdfrydedd cyfnod arloesol y 17G i ‘dawelyddiaeth’ y 18G; cafwyd cyfnodau mwy ffwndamentalaidd yn y 19G ac yn yr 20G gwelwyd gwerth ysbrydolrwydd yn ei holl amrywiaeth.


Mae’n Gymdeithas sydd a’i thraed yn bendant yn y traddodiad Cristnogol – diwinyddiaeth a rhesymeg Gristnogol a’i ffurfiodd ac a roddodd y mannau cedyrn i Grynwyr gyfeirio eu hunain yn eu siwrnai bersonol. Fe fyddwn yn sylweddoli, os ydyn ni’n effro i’r eiliad, ein bod yn cydgerdded ag amrywiaeth mawr o bobl a’u cred. Mae chwilio am y llygedyn hwnnw o oleuni ysbrydol yn ein cyd-fforddolion yn hanfodol i’n dealltwriaeth ni o’n cyflwr ysbrydol ni ein hunain. Unigolion ydym, ond mewn tyrfa.


Mae’r Gymdeithas yma o hyd. Mae rhyw 500 ohonom yn cyfarfod yn rheolaidd ledled Cymru. Yn ogystal â chyfarfod i addoli, mae gan nifer o gyfarfodydd ac unigolion ran flaenllaw o hyd ym meysydd heddwch, cyfiawnder a lles, yn ogystal â gwleidyddiaeth (ag ‘g’ fach) a pholisi cymdeithasol. Mae rhai ohonom yn gweld cyswllt agos rhwng ein Hymchwil (i ddefnyddio term Tom Nefyn) a’n creadigrwydd mewn gwahanol feysydd (yn fwyaf adnabyddus, Waldo Williams, wrth gwrs).


Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’n sicr y daw gwahanol (a gwell?) ffyrdd o addoli ac o weithredu’n ysbrydol. Mae rhoi pwyslais ar y ‘profiad’ ysbrydol yn awgrymu bod mwy nag un ffordd o ddirnad y sefyllfa. Beth am addoliad drwy’r corff, drwy gyfrwng disgyblaeth yoga? Sut mae teimlo’n un, nid yn unig gyda’n cyd-fforddolion ond yn un â chyfanrwydd natur a’r greadigaeth?


I wybod mwy, mae croeso i chi ymweld â’r safle we www.crynwyr.cymru



12 Medi 2022


bottom of page